Ailddysgu

Monday 6 March 2017

Gŵyl Arall

Mae’r Gŵyl Arall yng Nghaernarfon mor bwysig yn fy mywyd Cymraeg a Chymreig.  Cyfle i wneud pethau diddorl a dysgu pethau gwahanol i gyd drwy gyfrol y Gymraeg.  [Peth prin yn fy mywyd yn MK!]

Eleni, roedd gormod yn digwydd i fi eu gofnodi i gyd yma.  Felly, ynglyn a’r post yma, beth bynnag, dwi'n son am daith gerdded hanesyddol gyda Rhys Mwyn, arecheolegydd lleol.  Dwi wedi bod ar sawl daith gyda Rhys, a ddoe cael cipolwg ar archeleg diwydiannol Caernarfon oedd dan sylw.  Felly, be ddysgais?

  1. Bod pobl Caernarfon yn barod i fynd am daith cerdded mewn tywydd eitha gwlyb!
  2. Bod y cei llechi - lle fues i’n chwarae pan yn blentyn - ddim yn bodoli cyn y ddeunawfed ganrif
  3. Bod llawer o’r adeiladau sydd ar hyd y cei wedi cael eu ddefnyddio gan cwmni peirianneg De Winters, a sefydlodd ffowndri yn y lleoliad yn creu beth bynnag oedd angen ar gyfer y ddiwydiant llechi.  [Yn ôl wikipedia, Owen Thomas a oedd wedi adeiladu’r ffowndri].
  4. De Winters oedd yn gyfrifol am adeiladu rheilffordd Nantlle I gario’r llechi mewn wagenni o’r chwareli yn Nyffryn Nantlle I Gaernarfon.  Roedd y wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau.  Agorodd Rheilffordd Nantlle yn 1828.


Heddiw, mae’n bosib o hyd gweld olion y cledrau o’r reilffordd – fel yn y lluniau nesaf.  



[Mae'r ail llun yn dangos lle maent yn gweithio ar yr  'ynys':  llawer o gynlluniau ar gyfer y cei llechi. ].  Ond fel llawer o bethau diddorol, yn aml dan  ni ddim yn sylwi beth sydd o’n gwmpas ni.

Wednesday 1 March 2017

Gwanwyn, dydd Gwyl Dewi a hel atgofion...


Dwi wastad yn meddwl bod Gwanwyn ar y ffordd erbyn dydd Gwyl Dewi.  Ac am unwaith roedd heddiw yn sych, a roeddwn i'n hel atgofion am dydd Gwyl Dewi pan r'on yn blentyn yng Nghaernarfon.  Dwi'n cofio cerdded i'r ysgol gan gwybod ein bod ni'n gorffen ysgol hanner dydd - a cael dod adref, a'r pleser o gerdded gan rhagweld y prynhawn rhydd i ddod.  Ac wrth sôn am y gorffenol, mi ddois ar draws hen luniau wrth twtio.  Dyma un o'r siop teuluol ar y maes yng Nghaernarfon.  


Dwi ddim yn siwr pryd cafodd y llun ym ei dynnu, ond fel gwelwch roedd digon o hysbysebu ar yr adeilad!  W.J.Owen oedd enw'r siop - "Corn & Seed Merchants" oedd hi.  Mae'n anodd gweld yr enw yn y llun, ond mae enw Harpers [drws nesaf dwi'n meddwl?] yn  amlwg yn y llun nesaf - lle 'r ydwi ym mreichiau Anti Glad, bron ty allan i'r siop. 


Erbyn y chwechdegau fy nhad, fy modryb, Anti Glad, a weithiau 'Wili Vaughan', cefnder fy nhad, odd yn rhedeg y siop. A dyma llun fy nhad yn gweithio ty fewn i'r siop:


Dydy o ddim yn llun da iawn. Mae dydd Gwyl Ddewi yn arbennig o hyd a mi fyddaf yn mynd yn ôl i Gaernarfon am y benwythnos i gymryd rhan yn y Gŵyl ddewi Arall sydd ymlaen.  Edrych ymlaen.