Ailddysgu

Sunday 31 December 2017

Dros y 'Dolig


Dwi’n siwr fy mod wedi treulio’r Dolig fel llawer o bobl: coginio; bwyta; gwylio teledu; darllen; dipyn o gerdded  a bod yn sal.  Annwyd trwm  a dolur gwddw, ond dwi’n meddwl ei fod yn gwella yn raddol.  Yn y cyfamser mae fy ngŵr yn llawer gwaeth - yn pesychu gymaint fel ei bod yn methu siarad, ac yn colli cwsg.  Felly dydy’r un ohonom ni ddim isio bod allan ar y comin yn y glaw gyda’r ci, ond ta waeth, mae rhaid mynd a fo am dro.  Bore ’ma, roedd yr 'ap' tywydd yn dweud ei fod yn sych gyda dipyn o haul - ond des yn ôl yn eitha gwlyb.  Ac ar ol cawod drwm, dwi am aros cyn mentro allan eto.

Ond dwi yn mwynhau cael cyfle i ddarllen - a darllen.  A dyma be dwi wedi bod yn darllen:
1  Llyfrau Philip Pullman.  Nid “The Book of Dust” ond cyfres arall am Sally Lockhart  - mae o yn storiŵr eithriadol o dda a mae’r wefan yn ardderchog hefyd - yn mynd yn bellach o lawer na’r llyfrau.  Doeddwn i ddim wedi sylwi faint o lyfrau plant mae o wedi sgwennu.  Mae pedwar llyfr yn y gyfres yma; bob un yn dda mewn ffordd gwahanol.  Maent wedi ei sefydlu yn y deunawfed ganrif, a mae’r manylion am yr amser yn wych: a’r storîau yn llawn antur, ac yn eitha gwleidyddol yn rhai o’r llyfrau hefyd.  Mae’r awres yn ddynes ifanc annibynnol, rhywbeth anarferol yn yr oes lle mae hi’n byw: ond bydd rhaid i chi ddarllen y llyfrau i gael mwy o wybodaeth.  Mae ’na bedwar llyfr yn y cyfres.  [A dwi'n gweld o'r wefan bod llyfrau eraill - i blant - wedi ei sefydlu yn yr oes hwnnw: mae'n rhaid bod Philip Pullman yn hoff o'r amser yna]

2 Llyfr ffeithiol “Three cup of tea” gan Greg Morteson a adeiladodd ysgolion yn Pakistan ag Afgahnistan yn enwedig ar gyfer gennod.  Dwi wedi gweld yn ddiweddar bod cwestiynnau wedi codi ar ol rhagen gael ei wneud am gywirdeb beth sy’n cael ei ddweud yn y llyfr,  Ond os ydy ond hanner yn wir, mae o’n stori anhygoel ac yn pwysleisio’r pwysigrwydd o addysgu - yn enwedig mewn llefydd lle mae eithafwyr hefyd yn cynnig addysg i blant - addysg sydd yn tywys rhai ohonynt i ddod yn derfysgwyr.

Hefyd mi ddarllenais llyfr Cymraeg: y ddiwetha’ yn y gyfres am yr heddwas yng ngogledd Cymru - Jeff;  “Dan Ei Adain”  gan John Alwyn Griffiths, sydd yn sgwennu mor dda.  Mae pob lyfr yn y gyfres werth ei ddarllen

Mae ’na ddau lyfr arall i ddechra darllen.  Un ar gyfer y clwb darllen Llundain: Awst yn Anogia gan y ddiweddar Gareth Williams a llyfr gan Gareth arall, fy ffrind Gareth Thomas, sydd wedi sgwennu llyfr am Iolo Morganwg: “Myfi, Iolo”. Darllenais drafft o’r fersiwn Saesneg dipyn o amser y ol, ond yn y diwedd, y fesiwn Gymraeg sydd wedi cael ei gyhjoeddi gynraf a dwi’n edrych ymlaen.  

Monday 4 December 2017

Un Bore Mercher

Dwi wrth fy modd gyda Un Bore Mercher, sydd ar S4C ar y funud.  Rhaid dweud, o’n i’n hoff iawn o Gwen yn Torchwood, blynyddoedd yn ôl a dyma Eve Miles, a oedd yn chwarae Gwen, yn y brif ran.  Gwych gweld bod Eve Miles yn chwarae rhan Gymraeg a mae hi wastad mor dda.

Dwi ddim yn siwr faint o bennodau fydd yn y gyfres.  Gorffen yn agos i Nadolig, falle? Ar y funud dwi’n gwylio’r cyfres ar Iplayer.  Mae’n rhyfedd.  O bryd i’w gilydd, mae cyfres ardderchog i’w gael, a does dim byd gwell yn y tywydd llwyd yma na swatio lawr gyda cyfres fel hon.

Heblaw llyfr ardderchog, wrth gwrs, a mwy am hynny yn y man.