Ailddysgu

Wednesday 1 November 2017

Dechrau mis Tachwedd

A dyma ddechrau fis Tachwedd! Dwi ddim yn medru cerdded yn bell o gwbl ers syrthio, na arddio.....felly pwyll bia hi, a bod yn amyneddgar.  [A dwi ddim yn dda am hynny ond yn trio gwella]!  Dwi wedi bod yn darllen dau lyfr newydd Cymraeg, sef Gwales gan Catrif Dafydd a Golwg Newydd ar yr hen Ogledd gan Glen George.


’Roedd yr adolygiad o Gwales a chlywais ar rhaglen Dewi Llwyd yn dda, ond adolygiad arall a ddarllenais ar ol dechrau darllen y llyfr mwy gymysg.  Hyd at hyn, dwi ond wedi cyraedd tudalen 36, a dydy’r llyfr ddim wedi ’gafael’ eto, a’r iaith i fi [iaith anffurddiol Caerdydd? yn anodd];  felly mwy yn y fan [a da hefyd oedd darganfod blog Bethany May!; ewch i edrych].

Mae’r ail lyfr yn wahanol iawn.  Llyfr ffeithiol am hanes yr hen ogledd - o’r cyfnod Mesolithig i Oes y Llychlynwyr.  Darllenais llyfr Neil Oliver, A History of Ancient Britain, yn ol yn y gaeaf, a mwynhais yn arw, felly roeddwn yn hapus i ddarllen mwy - yn enwedig gyda chysylltiad Cymreig.  Mae’n dda gweld llyfr fel ’ma yn y Gymraeg [ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydy bod yr ardal yn rhan o’r hen Gymry, unwaith]. Mae’r iaith yn fama yn eitha ffurfiol, gyda geiriau  a geirfa enwedig mewn llefydd; felly dipyn o her, ond diddorol hyd at hyn [wedi cyraedd tudalen 52!]


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home