Ailddysgu

Sunday 1 October 2017

Teithio trwy llyfrau

Dwi ddim yn medru dychmygu bywyd heb lyfrau.  Dwi’n ddarllenwraig frwd, yn Saesneg a Chymraeg [dwi ddim yn medru darllen mewn unryw iaith arall, er fy mod wedi llwyddo i ddarllen llyfrau bach yn Ffrangeg, fel Y Petit Prince, amser maith yn ol].



Beth bynnag, yn ddiweddar, dwi wedi bod yn darllen dau lyfr am teithio - y fath o daith lle dach chi’n dod i wybod rywbeth am gymeriad y lle, a’r pobol, a’u gwleidyddiaeth.  Y gyntaf oedd hen lyfr glasurol John Steinbeck, “Travels with Charlie”.  Dyma un adolygiad o 1962, pryd chyhoeddwyd y llyfr.  Mae’r llyfr yn disgrifio taith Steinbeck ar draws America gyda Charlie y ci, a mae’n rhoi portread o’r gwahanol llefydd yn America, a’r gwahanol cymeriadau - a diddorol ydy gweld pa fath o wlad oedd hi pryd hynny a sut r’oedd Steinbeck yn sylwi, ac yn nodi problemau amgylcheddol hyd yn oed yn y chwechdegau, a';r ffordd 'Americanaidd' o fyw.  R’on i bron wedi anghofio bod Steinbeck mor dda - a dan ni’n cael ryw gipolwg o’r dyn ei hun, ty ol i’r llyfrau.  Mae o’n llyfr ardderchog, beth bynnag.

A llyfr arall am taith tra gwahanol ydy South of the Limpopo gan Dervla Murphy lle mae hi’n sgwennu am beicio trwy De Affrica. Mae hi wedi sgwennu llawer o lyfrau lle roedd hi ar ei beic, ac yn y llyfr yma, mae hi’n cyfarfod pobol gwanahol yn y nawdegau cynnar, cyn i Mandela gael ei etholi, a dan ni’n dysgu am yr ardaloedd  a’r pobol tra gwahanol.  Mae teithio ar beic yn ffordd o weld y tirlun, a chyfarfod pobol mewn ffordd eitha agos.  Er ei fod yn llyfr trwchus, mae o’n denu chi i fewn i’r byd yma: mae hi’n awdures fel neb arall.  Mae’r arddull mor wahanol i Steinbeck: dydy hi ddim yn nofelwraig, ond mae’r gwybodaeth a’r ymchwil sydd yn mynd i fewn i’r llyfr yn gwneud o’n llyfr dwi’n ffeindio’n anodd i roi i lawr.

Beth am fath lyfrau yn y Gymraeg?  Dwi wedi darllen llyfr Bethan Gwanas am Gbara [ a'r llyfr yn ol i Gbara] a wedi mwynhau y dda yn arw.  Oes lawer o lyfrau eraill tybed?

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home