Ailddysgu

Monday 23 October 2017

Paratoi am y gwanwyn

Rhyfedd sut mae pethau yn newid.  Dydd Gwener es am daith cerdded hyfryd o’r tŷ gyda fy ffrind, i fynny at goedwig bach, hynafol, Little Linford Wood, ac i lawr wedyn heibio’r warchodfa agosach  ac ar ol cinio yn y tafarn, cerdded yn ol ar hyd yr hen reilffordd.  Hyfryd. Dyma llun o rhan o'r goedwig yn ol yn yr haf.


Ond bore Sadwrn, ar fyn nhaith cerdded boreuol at y comin, roedd Teo [y ci]  yn chwarae gyda ci arall, a chyn i fi wybod, ges i fy nharo a syrthiais i’r ddaear galed gyda chlec.  Dim byd wedi torri, ond mae’r clec ar fy mhenglin wedi achosi dipyn o niwed  - “Soft tissue damage” -  a dwi ddim yn medru cerdded ar hyn o bryd.  Felly, dwi’n bod yn hogan dda ac yn gorffwys fy nghoes ac yn rhoi rhew arno i helpy’r chwyddo a.y.y.b.

Dwi ddim wedi arfer gorwedd i lawr fel hyn.  Dwi’n medru dod i fynny’r grisiau ar fy nhîn – a mynd i lawr eto, ond mae o’n cymryd cryn dipyn o amser.  Felly bore ‘ma dwi yn y gwely – a wedi dechrau archeb bylbiau a hadau ar gyfer yr ardd.  Peth peryglus ydy hyn: rhyngrwyd, gliniadur a cherdyn debyd.  [debit?? Yn ol y geiriadur].

Darllenais erthygl Alice Fowler yn rhybuddio ni bod bylbiau arferol yn llawr o gemegau  sydd yn achosi niwed i’r creaduriad bach yn y pridd.  Fel arfer dwi’n prynu bylbiau o’r canolfan garddio, [er fy mod yn prynu hadau fel arfer o Garden Organic] ond dwi newydd prynu ychydig o fylbiau organic eleni.  Felly dw’n edrych ymlaen at cael ychydig o fylbiau a cael edrych ymlaen at y Gwanwyn, yn ogystal a’r sialóts a’r hadau ffa llyden.

Dyma rhai o be dwi wedi prynu....[lluniau o sut wnaethon nhw eleni...]




A rŵan dwi am archeb llyfr Gymraeg neu ddau….

Monday 16 October 2017

Yr ardd a llysiau'r hydref

Mae’r hydref wedi bod yn wych eleni, a dan ni wedi bod yn mwynhau’r llysiau o’r ardd am fisoedd.  Mae’r betys wedi bod yn dda, a rŵan dan ni’n dechrau bwyta’r llwyth o gennin sydd yn yr ardd.  




Felly, yn hytrach na cawl tomato [er bod tomatos ni wedi gorffen, mae tomatos lleol ar gael] cawl cenin sydd ar y fwydlen. Ond wedi dweud hynny, gwnes cawl tomato hyfryd dydd gwener gyda cynhwysion lleol i gyd - shalots a tatws o'r ardd, [gwelir isod] a mae o mor dda i gael bwyd sydd wedi dod o’r ardd, neu gardd rhywun arall reit agos.



Mae digon o waith tacluso a chwynio i wneud yn yr ardd.  Ond y gwaith sydd yn cymryd sylw ar y funud ydy’r adnewyddiad y ty gwydr.  Mwy am hynny yn y fan, ond un llun bach....mae rhan o'r to newydd [ar y chwith] yn ei le.



Ond dwi'n methu lawrlwythio lluniau diweddar o’r camera.  Mae’r teclyn bach sydd yn dal y cerdyn SD ac yn rhoi o i fewn i’r cyfrifiadur yn gwrthod gweithio.  Mor rhwystredig!  Bydd rhaid mynd i'r siop "afal" yng nghanol Milotn Keynes.  Dim rhywbeth i edrych ymlaen ato.

Sunday 1 October 2017

Teithio trwy llyfrau

Dwi ddim yn medru dychmygu bywyd heb lyfrau.  Dwi’n ddarllenwraig frwd, yn Saesneg a Chymraeg [dwi ddim yn medru darllen mewn unryw iaith arall, er fy mod wedi llwyddo i ddarllen llyfrau bach yn Ffrangeg, fel Y Petit Prince, amser maith yn ol].



Beth bynnag, yn ddiweddar, dwi wedi bod yn darllen dau lyfr am teithio - y fath o daith lle dach chi’n dod i wybod rywbeth am gymeriad y lle, a’r pobol, a’u gwleidyddiaeth.  Y gyntaf oedd hen lyfr glasurol John Steinbeck, “Travels with Charlie”.  Dyma un adolygiad o 1962, pryd chyhoeddwyd y llyfr.  Mae’r llyfr yn disgrifio taith Steinbeck ar draws America gyda Charlie y ci, a mae’n rhoi portread o’r gwahanol llefydd yn America, a’r gwahanol cymeriadau - a diddorol ydy gweld pa fath o wlad oedd hi pryd hynny a sut r’oedd Steinbeck yn sylwi, ac yn nodi problemau amgylcheddol hyd yn oed yn y chwechdegau, a';r ffordd 'Americanaidd' o fyw.  R’on i bron wedi anghofio bod Steinbeck mor dda - a dan ni’n cael ryw gipolwg o’r dyn ei hun, ty ol i’r llyfrau.  Mae o’n llyfr ardderchog, beth bynnag.

A llyfr arall am taith tra gwahanol ydy South of the Limpopo gan Dervla Murphy lle mae hi’n sgwennu am beicio trwy De Affrica. Mae hi wedi sgwennu llawer o lyfrau lle roedd hi ar ei beic, ac yn y llyfr yma, mae hi’n cyfarfod pobol gwanahol yn y nawdegau cynnar, cyn i Mandela gael ei etholi, a dan ni’n dysgu am yr ardaloedd  a’r pobol tra gwahanol.  Mae teithio ar beic yn ffordd o weld y tirlun, a chyfarfod pobol mewn ffordd eitha agos.  Er ei fod yn llyfr trwchus, mae o’n denu chi i fewn i’r byd yma: mae hi’n awdures fel neb arall.  Mae’r arddull mor wahanol i Steinbeck: dydy hi ddim yn nofelwraig, ond mae’r gwybodaeth a’r ymchwil sydd yn mynd i fewn i’r llyfr yn gwneud o’n llyfr dwi’n ffeindio’n anodd i roi i lawr.

Beth am fath lyfrau yn y Gymraeg?  Dwi wedi darllen llyfr Bethan Gwanas am Gbara [ a'r llyfr yn ol i Gbara] a wedi mwynhau y dda yn arw.  Oes lawer o lyfrau eraill tybed?