Ailddysgu

Thursday 21 September 2017

New Mills

Dan ni ar ein gwyliau yma yn New Mills yn y “Peak District” ar hyn o bryd.  Dwi erioed wedi bod i’r dref yma o’r blaen: tre bach wedi datblygu gyda'r diwydiant  melinau cotwm.  Mae ceunant yn rhedeg dan y dre, a dyma lle adeiladwyd y ran fwyaf o’r felinoedd. 


Mae’r ceunant yn ddiddorol dros ben.  Mae rheilffordd yn rhedeg trwyddo fo, a mae “Millenium walkway” wedi ei adeiladu fel y gwelir yn y llun:


mae hi’n drawiadol a wedi enill sawl gwobr.  Mae sawl llwybr yn mynd trwy’r ceunant a be sydd yn ardderchog ydy gweld faint mae bywyd gwyllt wedi dod yn ol i’r ceunant, ar ol yr holl diwydiant sydd wedi bod yma.  Gwelais drochwr [ches i ddim llun da fel gwelir] a glas y dorlan, a mae dwrgwn yma hefyd – ond yn dipyn anoddach i’w gweld. 


 

Braf hefyd ydy gweld dref bach sydd i’w weld yn llwyddo.  Yn syddogol mae New Mills tŷ allan I’r Peak District, ond mae’n hawdd iawn cyrraedd llefydd fel Hayfield, o ble mae’n bosib cerdded i'r rhosdiroedd ac i fynny Kinder Scout: mae tren yn rhedeg i Hayfield o New Mills a mae bws, ond hefyd mae’n bosib cerdded yna ar hyd hen reilffordd.  


 A gwych ydy gweld bod pŵer trydan dŵr yn cael ei gynhyrchu yma: mae o’n eitha fach, ac yn perthyn i’r cymuned. 

Dyma'r wefan.  Ac yn gwneud i fi feddwl.....tybed faint mwy o brosiectau tebyg sy’n bosib?  Neu defnyddio melinoedd fel yn y dyddiau cynt? Mae digon o dwr i’w gael ym Mhrydain – ac unwaith roedd melinoedd ym mhobman.  

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home