Ailddysgu

Wednesday 19 July 2017

Darllen Lliwiau'r Eira





Mae Lyn Ebenezer yn llawn moliant yn ei adolygiad o “Lliwiau’r Eira” gan Alun Jones: gwelir http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781848515512/?session_timeout=1

Dwi newydd orffen darllen y llyfr am yr ail-waith.  Felly mae rhaid fy mod i wedi ei mwynhau o ddifri a meddwl ei fod yn werth ail-ddarllen.  A mae hynny sicr yn wir, er fy mod ddim cweit yn siwr beth yn union sydd mor hudolus am y llyfr yma.  Y tro yma dan ni’n darllen y llyfr yn y grwp darllen yn Llundain – a bydd o’n ddiddorol gweld be mae eraill yn gwneud ohono fo.  Dydy o ddim I ddant bawb swn i’n meddwl.  Ond bydd rhaid aros tan ddiwedd Fedi i weld - dyna pryd dan ni’n trafod y llyfr.

Dydy o ddim wedi dod yn lyfr glasurol, am wn i.  A falle ei fod o yn rhy hir i rai ddarllenwyr.  Mae yma anturiaethau a chyffro, ond yn y bôn, dim dyma ydy brif gymeriad y llyfr.  I fi, mae o’n lyfr am natur ddynoliaeth, am gyfeillgarwch – yn ogystal a thrais a chreulondeb - a be sydd yn digwydd yn y pen draw pan mae pobl yn cael eu drin yn wael ac o dan ormes.  Mae o’n trafod byw mewn gymuned, a hefyd mae’r cymeriadau yn treulio llawer o amser yn teithio ar droed.  Does dim ffordd arall o deithio: dydy ceffylau ddim yn cael eu ddefnyddio – a does dim technoleg yn y byd yma chwaith.
Mae’r iaith yn ardderchog ond yn anodd mewn llefydd i rywyn ail iaith Gymraeg [ fel fi].  Does dim cyfaddawd yn fama gan Alun Jones.  

Yn y byd yn y nofel yma, mae annifeiliad gwyllt yn chwarae rhan fawr, yn enwedig yr eryr a’r blaidd.  A natur ei hyn; y tywydd, y mynyddoedd a’r creigiau a’r llynnoedd.  Yn y diwedd, y tro yma, r’on i’n meddwl bod y llyfr braidd yn hir: doedd dim angen gymaint.  Ond falle y peth mwyaf pwysig i fi ydy ayrgylch y llyfr.  Dyma be mae Lyn Ebenezer yn dweud, a dwi’n cytuno’r llwyr: 
Yn y nofel hon mae yna gynhwysin prin arall.  Yn Saesneg fe’i gelwir yn “mood”.  Y gair Cymraeg annigonol yw ‘awyrgylch’.  Mae’n gynhwysyn anodd iawn i’w ganfod, heb son am ei ddefnyddio.  Dyma’r cynhwysyn s’yn cyfranu at lwyddiant y cyfresi Scandinafaidd ar BBC4 fel The Bridge, The Killing, Wallander a Bergen [a tasai Ebenezer wedi sgwennu hwn yn ddiweddar efallai fase wedi ychwanegu Y Gwyll].  Ac mae Alun Jones yn sicr wedi ei ganfod yn LLiwiau’r Eira.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home