Ailddysgu

Tuesday 27 June 2017

Crwydro

Newydd dod yn ôl o’r Alban - wedi bod yn crwydro o gwmpas y ffiniau am wythnos.  Ymweld a sawl abaty, a  cherdded ar hyd yr afon Tweed, a hefyd ymweld a sawl ardd hyfryd, hyfryd.  ’Roedd rhai gyda cysylltiad a’r abaty fel yn Jedburgh, a ddaeth yn enwog am y gellyg a oedd yn tyfu yna.



 ’Roedd perllan bach i’w weld yn Jedburgh o hyd, ac yn Melrose ’roedd perllan a gardd muriog wrth ymyl yr abaty, y ddwy yn llefydd heddychol.  





Cerddon o Melrose i dŷ Walter Scott, Abbotsford; taith cerdded hyfryd ar hyd yr afon, sydd yn llawn o fywyd gwllt a gweld gwennoliaid y glennydd ym mhobman.  A dyna i chi ardd sydd yn Abbotsford!  



Tair ardd bendigedig oedd y gerddi Abbotsford, (gwelir y lluniau uwchben]; yr ardd muriog yng Nghastell ’Floors’ wrth ymyl Kelso, dyma'r eirin gwlannog yn y ty gwydr:

a chastell muriog arall -’Harmony Garden’ ym Melrose.

Roedden yn falch dianc o’r gwres yma yn MK lle roedd hi wedi bod yn sych am amser hir, a wedyn yn boeth iawn.  A dyna wahaniaeth i fynd a Teo [y ci] am dro ar hyd llwybrau ger yr afon Tweed, lle r’oedd popeth yn wyrdd.  Dod yn ôl i ardd sych gyda’r mafon yn dioddef, ond serch hynny digon o ffa llydan, a’r ffa ffrengig yn dod ymlaen yn dda.  Mae nhw’n gaddo glaw drwm, felly codais y shallots: rhois dwr iddynt tra r’oedd yn sych a maent i’w weld yn iawn - dim rhy fawr, ond digon.  Mae o’n braf cael haul, ond mae angen dipyn o law i lwyddo yn yr ardd, ac yn aml does dim digon yn fama.

Serch hynny, dwi'n edrych ymlaen i fwyta'r ffa ac i goginio gyda'r shallots.  Dyma rhai ohonyn nhw.  Mae nhw am sychu yn y ty gwydr.





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home