Ailddysgu

Monday 15 May 2017

Yn y warchodfa


Dyma un o’r trapiau roedden ni yn gosod nos Sadwrn yn y warchodfa natur.  Rhan o’r arolwg mamaliaid.  Dwi wedi ymuno a grwp sydd yn trio darganfod pa rywogaethau sydd yn byw yn y warchodfa. Y syniad ydy bod bwyd a defnydd nythu yn cael ei roi i fewn i’r trap [“Longworth trap”] ac os dach chi’n lwcus mae’r annifeiliaid bach yn cael eu denu gan y bwyd, a dach chi’n dod yn ôl yn y bore a gweld be sydd gennych chi.  Wel, dyna’r damcaniaeth.  Ond wrth fynd yn ôl, bore Sul, ar ol codi’n gynnar - doedd dim byd wedi mynd i ddim un o’r trapiau.  

Dydy’r warchodfa ddim yn bell i ffwrdd - dim mwy na dwy filltir a hanner, felly doedd o ddim yn broblem picio drosodd nos Sadwrn i ddysgu sut i osod y traps, a phopeth yn dawel a hardd ar nos braf yn y Gwanwyn:


Mae criw bach arall yn trio eto heno a bore fory a gawn ni weld os bydd gennyn nhw fwy o lwyddiant!

Mi faswn wrth fy modd yn cael gweld un o’r dwrgwn sydd yn byw yna, ond dydy nhw ddim yn cael eu gweld yn amal - a swn i’n tybio mai  falle ond un par sydd yna.  Dwi ddim yn siŵr - a mi fyddaf yn chwilio i weld, ond dwi’n meddwl bod tirogaeth eitha mawr gan y dwrgi.  Serch hynny, mae’n braf gwybod eu bod nhw o gwmpas.  Yn ogystal a’r dwrgwn, dan ni’n gwybod bod llwynogod, moch daear, ceirw, cwningod, wiwerod, llygod [mathau wahanol] a chwistlod [?] yna, ond doedden ni ddim yn meddwl bod na cathod o gwmpas tan i un o gamerai a osodwyd dros nos ryw wythnosau yn ol tynnu llun o gath.

A bore ddoe, pan aethon yn ol i agor y trapiau, 'roedd y lle mor heddychlon a hardd

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home