Ailddysgu

Wednesday 31 May 2017

Diwrnod eithaf braf heddiw eto - dydd olaf Mai, fy hoff mis [dwi’n meddwl..... mae Hydref  yn wych.... a Mehefin hefyd].  Ar y comin, mae’r blodau ymenyn allan o hyd,

 a mae blodau’r elderflower allan hefyd [bydd rhaid edrych yn y geiriadur am y gair Cymraeg]. Ond ro’n i’n synnu i weld y madarch yma 


allan wrth fynd am dro gyda’r wyrion prynhawn yma.  Mae o’n edrych fel madarch arferol - un bwytadwy - ond ym mis Mai? Braidd yn gynnar!

Tra ’roedd y wyrion yn cysgu dros amser cinio, llwyddiais i rhoi’r planhigion tomatos yn ei lle yn y tŷ gwydr - dwi’n defnyddio’r cyfundrefn sydd ar a gael gan cwmni o’r enw Greenhouse Sensation  sydd yn gweithio’n dda.  A hefyd yn yr ardd, dwi wedi rhoi dwy o’r courgettes allan yn ei lle - gyda dipyn o amddiffyniad: peledi organic  i atal gwlithod, ond wedi eu cuddio dan clochau bach neu mewn jariau bach fel bod yr adar ddim yn medru cael nhw.  Hefyd mae un o’r planhigion mewn coler copr, ac un mewn coler plastic ac yn olaf,  cwrw i atynnu’r gwlithod...





Ond gawn ni weld os bydd hwn i gyd yn llwyddianus.

Wednesday 24 May 2017

Dolydd

Ar Galwad Cynnar, yn ddiweddar, roedd rhywun [Trevor Dines, efallai?] yn siarad am ddolydd, ac am wahanol ragleni i ail-sefydlu dolydd traddodiadol.  Mae ein comin ni, ond dipyn dros bum munud i ffwrdd o’r tŷ [ar droed] yn perthyn i’r ParksTrust, sydd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r tir ’gwyrdd’ yn Milton Keynes.  Mae nhw wedi penderfynu ail greu dôl traddodiadol mewn cae ar waelod y comin.  Dyma rhan o’r gwaith i ddechrau’r prosect yn ôl yn yr Hydref gyda'r tractor yn gweithio yn y cae:



 Roedd yr arwydd [isod] yn dweud wrthan ni am y prosiect a wedyn gnwaeth y waith ddechrau:  


yr un ffordd a soniodd Trevor Dines amdano - torri’r ’gwair’ o ddôl traddodiadol, yn llawn o’r hadau, a gadael i’r hadau gnweud ei gwaith.


Dan ni felly ond ar y cam gyntaf.  Ond mae hyd yn oed rhoi gorau i ddefnyddio chwyn laddwyr [a peidio’r pori] wedi cael effaith yn barod.  Dan ni’n dechrau gweld blodau yn dod yn ol i’r cae nesa i'r cae yma.  

Monday 15 May 2017

Yn y warchodfa


Dyma un o’r trapiau roedden ni yn gosod nos Sadwrn yn y warchodfa natur.  Rhan o’r arolwg mamaliaid.  Dwi wedi ymuno a grwp sydd yn trio darganfod pa rywogaethau sydd yn byw yn y warchodfa. Y syniad ydy bod bwyd a defnydd nythu yn cael ei roi i fewn i’r trap [“Longworth trap”] ac os dach chi’n lwcus mae’r annifeiliaid bach yn cael eu denu gan y bwyd, a dach chi’n dod yn ôl yn y bore a gweld be sydd gennych chi.  Wel, dyna’r damcaniaeth.  Ond wrth fynd yn ôl, bore Sul, ar ol codi’n gynnar - doedd dim byd wedi mynd i ddim un o’r trapiau.  

Dydy’r warchodfa ddim yn bell i ffwrdd - dim mwy na dwy filltir a hanner, felly doedd o ddim yn broblem picio drosodd nos Sadwrn i ddysgu sut i osod y traps, a phopeth yn dawel a hardd ar nos braf yn y Gwanwyn:


Mae criw bach arall yn trio eto heno a bore fory a gawn ni weld os bydd gennyn nhw fwy o lwyddiant!

Mi faswn wrth fy modd yn cael gweld un o’r dwrgwn sydd yn byw yna, ond dydy nhw ddim yn cael eu gweld yn amal - a swn i’n tybio mai  falle ond un par sydd yna.  Dwi ddim yn siŵr - a mi fyddaf yn chwilio i weld, ond dwi’n meddwl bod tirogaeth eitha mawr gan y dwrgi.  Serch hynny, mae’n braf gwybod eu bod nhw o gwmpas.  Yn ogystal a’r dwrgwn, dan ni’n gwybod bod llwynogod, moch daear, ceirw, cwningod, wiwerod, llygod [mathau wahanol] a chwistlod [?] yna, ond doedden ni ddim yn meddwl bod na cathod o gwmpas tan i un o gamerai a osodwyd dros nos ryw wythnosau yn ol tynnu llun o gath.

A bore ddoe, pan aethon yn ol i agor y trapiau, 'roedd y lle mor heddychlon a hardd

Monday 1 May 2017

Dechrau mis Mai yn yr ardd

Dyma ni ar ddechrau fis Mai; amser hyfryd o’r flwyddyn, yn yr ardd ac allan o gwmpas.  Dwi ddim wedi bod yn llwyddianus iawn gyda cadw’r blogio ’ma yn mynd - ond ’falle dyma dechrau newydd arni: cawn gweld.

Yn yr ardd llysiau, dan ni yng nghanol be mae’r Saeson yn galw yn “hungry gap’, lle mae llysiau llynedd wedi gorffen, a llysiau eleni dim wedi dechrau.  Felly, dwi newydd casglu’r spigoglys ola, ond mae’r spigoglys newydd yn fach, fach, fach:



Mae’r shallots yn dod ymlaen yn dda - er gwaetha’r sychder [mae Ebrill wedi bod yn sych, sych, sych, a dwi wedi gorfod dyfrio]



a hefyd y ffa llydan.  Bydd y rhain yn dechrau bod yn barod yn fuan.  Wrth meddwl, dydy o ddim yn wir bod na ddim byd ar gael; mae’r rhiwbob wedi bod yn dda - ond dim llawer o help os mai llysiau dwi isio - a mae’r salad yn y tŷ gwydr wedi bod yn eitha da hefyd.


Mae’r gŵyl banc yn amser ddelfrydol i ddal i fynny.  Gan bod wythnos diwethaf mor oer, gyda barrug yn ogystal a gwynt main, creulon, wnes i ddim wasgaru’r courgettes, neu’r ciwcymber a.y.y.b.  Ond mae ddwy res o foron yn y tŷ gwydr, a betys, spigoglys a radisys yn yr ardd, a tatws.  Digon i’w wneud, o hyd.  A yn mae’r ardd flodau yn dod ymlaen hefyd.  Dyma rhai o luniau.