Ailddysgu

Saturday 4 February 2017

Tylluan fach


Mae hi wedi bod yn wythnos brysur a blinedig.  Cafodd fy ngŵr haint, a mae o wedi bod yn y gwely trwy’r ran fwyaf o’r wythnos; felly ’roedd cerdded gyda’r ci, coginio, edrych ar ei ôl a.y.y.b i fynny i fi.  Na, s’wn i byth yn gwneud nyrs dda.  Ond mi wnes i drio fy ngorau.  Heddiw, mae J wedi dod i lawr grisiau, ac yn teimlo llawer gwell - ond yn ddal yn wan a  simsan.  Diolch byth i antibiotics  cyn belled bod ni ddim yn cael eu or-ddefnyddio, mae nhw’n wych.

Felly erbyn heddiw d’on i ddim isio mynd allan ’pnawn ’ma i ddweud y gwir.  Wedi newid y gwely, gwneud llwyth o olchi, siopa, mynd i Pilates, darparu cinio a cherdded ar y comin bore ’ma - ond ’roedd rhaid mynd a Teo allan.  A dwi mor falch fy mod i wedi mynd.  Gwelais Jo Angell ar y comin, merch lleol sy’n cymryd lluniau gwych.  Dangosodd i fi lle ’roedd y dylluan fach.  Un anffodus dydy’r llun ddim mor dda - ’roedd yr aderyn braidd yn bell i fy nghamera fach.  Ond mwynhais ei weld o.  Yn y llun gyntaf yma mae o’n cuddio yn y goeden, ac yn anodd i'w gweld, ond yn haws i’w gweld yn yr ail.