Diwrnod braf yn yr ardd
Mae o wedi bod yn ddiwrnod ardderchog, heddiw, a mi r'on yn ol ar y beic yn mynd i'r gwaith. Dyma coeden ceirios ar y ffordd i'r gwaith:
Mae o wedi bod yn ddiwrnod ardderchog, heddiw, a mi r'on yn ol ar y beic yn mynd i'r gwaith. Dyma coeden ceirios ar y ffordd i'r gwaith:
Mi ddes i arderf o'r gwaith yn gymharol gynnar heddiw - a felly allan am dro ar y comin, gyda'r ci. Pnawn braf, haelog, ac ar ol crwydro o gwmpas (a rhedeg ar ol y hwyiaid ar y pwll bach - y ci dim fi), gwelais y dylluan glustiong. R'on i'n meddwl ei fod wedi mynd - ymwelwyr dros y Gaeaf ydyn nhw, o be dwi'n dallt, ond na, r'oedd fy ngwr wedi gweld o echddoe a dyma fo (neu hi) un hela, tua 6.30. Ond anodd iawn cael llun da - rhy bell am un peth. Ond gobeithio medrwch chi gweld yr aderyn yn hedfan.
Dwi'n trio (o hyd, ac eto) i roi lluniau i fewn i'r blog. Rhywbeth roeddwn yn medru gwneud gyda'r hen gyfrifiadur a'r fersiwn hen o 'iPhotos' Ond rwan, dwi ddim yn gweld sut i wneud o.
Dwi wedi bod wrthi yn dechrau hau yn ddiweddar. Yn y ty gwydr, mae hadau tomatos, aubergines, a pupurau wedi mynd i fewn: