Ailddysgu

Monday 28 March 2016

Dwi'n casau cyfrifiaduron weithiau! A'r penwythnos Pasg

Felly, dyma sut aeth pethau.  Deffro'n gynnar a meddwl postio i'r blog.  Erioed wedi ei gnweud ar y gyfriadur newydd (MacBook) a chostiodd y byd a cymerodd bron flwyddyn i gael y pres at ei gilydd.  Cyn cyrraedd y blog, me ges i fy ofyn os oeddwn isio derbynnu 'update'.  Ia meddaf i - MOR DDINIWED! yr ateb anghywir!  Rwan, gyda'r 'operating system' newydd, medraf i ddim rhoi llun i'r blog.
Felly dyma fi yn ol at yr hen gyfrifiadur, sy'n cymryd oriau i wneyd bobeth ond dwi'n meddwl bydd o'n gweithio yn fama.  Gad i ni weld.
Dyma rhai o be dwi wedi bod yn gnweud dros y Pasg, felly.

Do mi ddoth yr 'Easter Bunny' -  a darganfod twll reit addas mewn coeden: oes Cwningen Pasg yn Gymraeg? (Doedd fath beth ddim yn bodoli pan o'n i'n blentyn



A mi wnes ddechrau ar ddarllen y pecyn o lyfrau a ddaeth cyn y Pasg.
Y gyntaf oedd Dan Gwmwl Du.  Gwych! Mae John Alwyn Griffiths yn awdur gwych.  D'on i ddim wedi sylwyddoli ei fod wedi sgwenny llyfr yn ddiweddar - a dwi'n edrych ymlaen at y nesaf.  "Dan" be fydd hwnny tybed?



A wedi mynd ymlaen gyda Chwynnu - dim cweit mor dda - ond yn cadw fy sylw yn sicr.  Yr unig beth - pam mae gymaint o awduron Cymraeg yn sgwennu am pobl "y Cyfryngau'? Does dim diddordeb yn ei bywydau gen i.

Dros y Gwyl Banc, buodd fy merch yng Nghyfraith yn gweithio, a felly, roedd y wyrion gyda ni dydd Gwener, ac er y tywydd gwych, doedd dim llawer o gyfle i arddio, ond serch hynny, ddoe mi tynnais y gwsberen o'r rhewgell a mi wnes hyfen ia gyda'r peiriant newydd - dyma dechrau'r proses.  R'oedd yn iawn hefyd, er bod y teulu yn dweud ei fod mwy fel yogwrt wedi rhewi.  A fel gwelwcy, mae rhai o'r cennin yn yr ardd yn dda i dim.  Cyfuniad o dywydd sych sych pan o'n i'n trawsblannu nhw a gaeaf mwy ofndadwy.




Dan ni'n trio cefnogi'r tafarn lleol, a fel dach chi'n gweld, mae'r ci yn mynnu mynd i fewn - ond dim ar 10 o'r gloch ar fore Sadwrn!




A dyma'r plant yn ol heddiw - oherwydd bod y nain a taid arall a oedd am eu warchod heddiw yn sal.  A'r unig rheswm dwi wedi medru postio i'r blog 'pnawn 'ma ydy bod y ddau yn cysgu ar y soffa ar hyn o bryd.

Hiaraeth am Gaernarfon: Gŵyl Arall eleni

Dechreuad Gwych i’r Gŵyl: Galwad Cynnar yn yr ardd: hynnyw yw - gardd Palas Print.  Dyma ’r ail flwyddyn i’r rhaglen gael ei ddarlledu o’r siop. Ac am syniad da.

Felly ar ben bore Sadwrn gyda’r tywydd yn braf codais yn gynnar a mynd i lawr at y Fenai erbyn 5.45 i fwynhau’r bore hyfryd, a wedyn i’r siop erbyn 6.  Dyma  llun dwi’n hoffi: ryw hen dŷ neu  dŷ cwch? ar lannau'r Menai yn edrych yn dda yn yr haul gynnar:



a gorhedydd y graig: mae'r rhain i'w weld yn y dre:


yn bendant dan ni ddim yn cael y rheina yn MK!

Mae Galwad Cynnar yn raglen mor wych a roedd yn braf iawn cael bod yn yr ardd.   A'r ardd a dynnodd rhai o sylw y banelwyr: y mafon [ a tra roedden ni yn gwylio roedd fwyalchen yn bwyta un neu ddau], a'r afal tindwll, [os dwi wedi cael hi'n iawn] neu merysbren [sydd ddim yn achosi gymaint o chwerthin!].   Yn ol un ffynhonell “Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Merysbren Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.”
 
Mae'r ddwy flanhigyn yn gwneud yn dda iawn yma:




Panel gwych: Twm Elias, Elinor Gwynn, Math Williams a Kelvin Jones - a Mari Gwilym  - ac Emrys Llewelyn hefyd yn cyfranu.  Ges i ddim llun o bob un ar y panel, ond dyma lun o Twm Elias a Gerallt Pennant [y cyflwynydd].


A ddoe, fel y disgwyl, dipyn o bwyslais ar lyfrau.  Roedden yn clywed barn y panelwyr ar sawl lyfr natur sydd wedi cael ei gyhoeddi ynn ddiweddar.  Un llyfr a dynnodd fy sylw i oedd The Seabird Cry gan Adam Nicolson.  Gwelais y llyfr yma mewn siop lyfrau yn yr Alban a roedd Elinor Gwynn wedi ei fwynhau yn arw.  Felly un i’w brynu yn bendant.  

Ond roedd llawer mwy o drafod diddorol, mwy na sydd yn bosib i grynhoi ac wrth gwrs, mae o'n hawdd i ddal i fynny gyda'r rhaglen os dach chi ddim wedi cael cyfle i wrando arni hi.  Mae hi ar gael ar app BBC - a mae o'n bosib cael bodlediad o'r rhaglen hefyd.  Dyna be dwi yn gwneud fel arfer a wedyn yn medru gwrando arni hi pan dwi'n beicio, garddio neu coginio - neu gwneud dim byd arall!

Gobeithio byddaf yn postio mwy am yr ŵyl yn y man.

Sunday 27 March 2016

Dros y penwythnos - cynnig 1 - rhwystredigaeth

Wel, dyne be dwi'n trio trafod - gyda lluniau - ond bob tro dwi'n trio ychwanegu llun, mae'r bel bach yn dwad ac yn troi ac yn troi, nes i fi orfod cau'r cyfrifiadur a trio eto!  Mae'r cyfrifiadur hen yn newydd (o'r diwedd...mi roedd yr un hen yn 8 flwyddyn ac yn methu gnweud bob fath o bethau - ond, mi roeddwn yn medru ychwanegu lluniau i fy mlog.

Felly, mi wa i drio eto ar ol, gobeithio, datrus y broblem

Wednesday 23 March 2016

Llyfrau: Y Bwthyn, gan Caryl Lewis

Dwi wastad yn falch o gael llyfrau newydd i ddarllen - mae llyfrau yn rhan bwysig iawn of fy mywyd, a mae bod yn aelod o ddau glwb darllen yn wych.  Na, fel arfer swn i ddim yn aelod o ddau ond mae un yma ym Milton Keynes yn trafod llyfrau Saesneg, a mae’r llall, yn LLundain yn trafod llyfrau Cymraeg.

Yn ddiweddar dwi wedi gorffen darllen Y Bwthyn - nofel ddiweddar Caryl Lewis.  (A hefyd LLanw gan Manon Steffan Ros - ond dwi ddim am son am honno ar y funud).  Hon ydy’r nofel gyntaf gan Caryl Lewis i mi ddarllen.  Dydy o ddim yn llyfr sydd yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous.  Os dach chi’n darllen fy mlog, mi wyddoch fy mod yn hoff iawn o lyfrau ditectif gyda naratif sydd yn symud yn gyflym.  Ond dim felly ydy’r nofel yma.  Mae hi’n nofel dawel mewn ffordd, yn ganolbwyntio ar bywyd cefn gwlad a bywyd a tymhorau ffermio: a hefyd ar y perthnasoedd rhwng y tad a’r mab ar y fferm, a rhwng y ddau ohonnyn nhw a’r dyn ifanc diarth, sy’n ymddangos un dydd, Owen, sydd yn aradeg yn dod i weithio ar y fferm.  Dydyn nhw ddim yn berthnasoedd hawdd: pan mae’r nofel yn dechrau, mae gwraig Enoc, Hannah, wedi marw, a’r cnebrwn newydd ddigwydd a mae’n amlwg mai hi oedd yn cadw’r disgyl yn wastad rhwn ei ŵr a’i mab.  Mae tyndra mawr rhyngddynt - a hefyd cyfrinair trist sydd ond yn cael ei ddatgelu tuag at ddiwedd y nofel: cyfrinair sy’n esbonio, i ryw raddau, pan bod gymaint o dyndra.  Mae’r perthynas rhwng yr hen ddyn (a’i fab) ac Owen yr ymwelwyr yn datblygu i fod yn ddiddorol hefyd, a mae Owen ei hun yn dipyn o gyfrinach hefyd.  Yr oll dan ni’n gwybod amdano ydy ei bod wedi dod i sgwennu llyfr: dim byd llawer o gwybl am ei fywyd cyn dod i’r hen fwthyn ger y fferm.

Ochr ar ochr gyda’r perthansoedd, dan ni’n darllen am y cefn gwlad, am y tymhorau yn newid, ac am bywyd mewn lle digon garw yn uchel yn y mynyddoedd.  Dyma llecyn lle mae defaid yn marw yn yr eira ar ol cysgodi wrth y clawdd ne’r wal - a’r gwynt yn hyrddio’r eira atynt a drostyn nhw, a lle mae’r traddodiadau ffermio yn newid.  Does dim llond stafell o helpwyr i fwyta te fferm ar ol cneifio neu ar ol cynaeafu fel digwyddodd mewn dyddiau cynt.  Mae’r disgrifiadau o’r cefn gwlad - o’r planhigion yn y gwanwyn, a’r gwrychoedd, a’r adar a’r annifeiliaid, yn wych - a hefyd o’r digwyddiadau ar y fferm.  Mae’n nofel sydd yn haeddu i’r ddarllenwr rhoi digon o amser iddi hi.  Ond hefyd, os nad oes diddordeb mewn ffermio defaid na mewn y cefn gwlad, efallai bydd yn anodd parhau gyda’r llyfr.  I fi, r’oedd y ffordd dawel o fyw, a’r diffyg geiriau a sgyrsiau hir yn taro deuddeg.  Mae’r nofel wedi ei sefydlu yn bell o Wynedd lle tyfais i fynny.  Eto, roedd y bywyd a oedd yn cael ei ddisgrifio digon debyg i be welais i ar y ffermydd lleol, pan oeddwn yn mynd o gwmpas fel plentyn gyda fy ewythyr a oedd yn ffermio ger Waunfawr.


Ac ar ol mwynhau Y Bwthyn a LLanw, dwi am ddechrau ar rywbeth tra wahanol.  Dwi wedi archeb llyfr newydd gan John Alwyn Griffiths – Dan Gwmwl Du, ac ar ol mwynhau ei lyfrau eraill – edrych ymlaen.

Sunday 6 March 2016

Caernarfon Hanesyddol: y Rhufeiniaid

Yn amlwg mi ges i fy magu mewn dre llawn o hanes gyda raenau o wahanol gyfnodau.  Ond fel sawl plentyn, doess hanes y dref ddim yn chwarae rhan bwysig yn fy mywyd pan oeddwn yn blentyn.  Fel ’cofi’ r’on yn cael mynediad am ddim i’r castell - a does dim lle gwell i chwarae cuddiad a rasio o gwmpas pan dach chi’n ddeg neu un ar ddeg.


Yn ddiweddarach, llawer, daeth y ddiddordeb.  Ac ar ddydd Sul diwethaf, wythnos yn ôl  gyda’r haul yn gwenu, cawsom cyfle i ddod i wybod am dipyn o hanes y dref, gan crwydro o gwmpas y dre gyda’r arceoloegydd lleol, Rhys Mwyn, sydd yn llawn o wybodaeth o bob fath, ac yn gwneud yr hanes yn ddiddorol dros ben.  'Roedd y daith yn rhan o Wŷl Ddewi Arall.  Dyma rhai o'r teithwyr ar ddechrau'r daith, gyda Rhys Mwyn.


O be dan ni’n deallt, y Rhufeiniaid roedd y gyntaf i setlo yn y dref (er swn i'n meddwl bod na ychydig o bobl yn byw yn agos i’r mor), ond dim lle mae’r dref heddiw, wrth gwrs, ond o gwmpas yr ardal Peblic lle sefydlwyd y Caer Rhufeinig.

Yn eithaf ddiweddar, tra cloddio at gyfer adeiladu ysgol newydd, darganfwyd pobdai bach yn dyddio o’r blwyddyn 77.  Dyma pryd daeth y Rhufeiniaid a dyma pryd wnaethon nhw sefydlu gwersyll i’r dynion cael rhywle i aros tra roeddent yn adeiladu’r caer.  Roedd yn debygol bod bara yn cael ei pobi yn y pobdai ar gyfer y gweithwyr llwglyd. Roedd y caer yn eitha mawr, a mae rhan o'r waliau i'w gweld heddiw, wrth ymyl 'South Road' - y lon sy'n rhedeg allan o'r dref tuag at Bontnewydd. Dyma rhai o weddillion y caer (dim lle r'oedd y pobtai).



A dyma rhan eitha fawr o'r wal rufeinig - ond ryw ganllath i ffwrdd o lle r'on i'n byw fel plentyn.



Dychmygwch y Caer yn ie brysurdeb gyda 500 o filwyr o Ewrop.  A hon r’oedd yr unig gaer i’w gael ei ddefnyddio hyd at ddiwedd y gyfnod Ryfeinig - felly r’oedd hi yn frysur tan 393 OC.