Ailddysgu

Friday 19 February 2016

Pethau a llefydd lleol

Dyma dechrau ardderchog i’r penwythnos.  Eistedd yn y gwely yn gwrando ar Galwad Cynnar ac yn edrych yn ôl dros yr wythnos diwethaf trwy’r lluniau ar y ffôn. O’r diwedd dan ni wedi cael ychydig o ddyddiau heulog, heulog, a dwi wedi cymryd mantais ohonyn nhw wrth fynd am dro.  Mae gan Milton Keynes digon o lefydd wyrdd, a pethau hanesyddol hefyd, a dan ni’n ffodus yn y gwaith gan ein bod mewn parc ac yn eitha agos i bentrefi hanesol.  Felly dyma ychydig o bethau a llefydd o’r wythnos diwethaf:



Cennin o'r ardd: lleol iawn.  Dwi'n trio rhoi digon i fewn i barhau tan mis Mawrth.  Mae'r rhain wedi gwneud yn dda ac yn dda i fwyta hefyd. Mi wnes ‘bake’ (cynhigion am y gair Cymraeg?) gyda cennin, madarch a tatws, a caws ar ei ben – blasus iawn (hyd yn oed ar ol bod yn y ffwrn tamaid rhy hir). (A hefyd roedd llawer o’r salad yn dod o’r tŷ gwydr).



Dyma eglwys “St Michael”:


Mae’r Prifysgol Agored, lle dwi’m gweithio wedi ei sefydlu ar hen stâd: mae’r hanes i’w gael yn fama: Adeiladwyd yr eglwys yma o gwmpas 1350 a mae o’n adeilad hardd. Wrth gerdded am ryw ugain funud neu llai o’r gwaith, dyma cyrraedd pentre’ Simpson, gyda eglwys hanesyddol arall, St Thomas, a dan ni’n gwybod bod na eglwys yma erbyn 1231.  Mae adeiladau hardd a hen yn y pentref hefyd:



Mi fyddaf yng Nghaernarfon amser yma wythnos nesaf, ar gyfer y Gŵyl Ddewi Arall.  Edrych ymlaen yn arw!

Sunday 14 February 2016

Wythnos yn Milton Keynes

Mae hi wedi bod yn wythnos amrywiol, o ran ddigwyddiadau a tywydd.  Y gobaith (a’r cynllun) ar ddechrau’r wythnos oedd i gerdded rhan o’r llwybr arfordirol Cymru.  Mae fy ffrindiau wedi cerdded, hyd at hyn, o’r dechrau tuag at Aberaeron, (dim i gyd ar yr un pryd) a dwi wedi llwyddo i ymuno gyda nhw, pan r’oeddent yn cerdded ar Ynys Môn, ac ar arfordir Llŷn.  Ar wahan i un daith hyfryd hyfryd yn Sir Fôn, ym mis Awst,


dan ni wedi cael o leiau rywfaint o law bob tro.  Ond r’oedd yr arolygion tywydd ar gyfer dydd Llun diwethaf mor ddrwg, doedd dim pwynt gyrru i Gymru gyda storm yn effeithio’r arfordir.  Felly, gan fy mod i wedi mynd i Ludlow i ddechrau’r siwrnai, cefais dydd yn Ludlow ac o gwmpas cyn gorfod cymryd tren gynnar i ddod adref oherwydd bod llifogydd yn cael effaith ar y trenau.

Erbyn dydd Fercher roedd y tywydd wedi newid i fod yn heulog a glir (ac oerach).  Yn y gwaith, roedd y garddwyr wedi bod yn brysur yn torri planhigion i lawr: mae hyn yn cael ei wneud ar ddiwedd (neu tuag at diwedd) y gaeaf, 




felly arwydd da - a rhywbeth byddaf i yn gwneud gartref hefyd.

Does dim llawer wedi cael ei gwneud yn ein gardd ni eto.  Wel, dim o gwbl i ddweud y gwir.  Mae’r garlleg (a aeth i fewn diwedd mis Tachwedd) yn dod ymlaen yn dda, a hefyd y ffa llydan.  Treuliais awr yn y tŷ gwydr ddoe, yn clirio llanast llynedd (dipyn) ac yn dechrau paratoi am eleni.  Mae ffrind yn dod draw p’nawn ‘ma a bydd y ddwy ohonon ni yn gweithio gyda’n gilydd am ryw ddwy awr (y trefn ydy ein bod yn gwneud hyn yn fy ngardd i,  a wedyn ei gardd hi, bob yn ail).


Os dydy hi ddim rhy oer, falle bydd cyfle torri’r mafon hwyr i lawr, ond mae’r arolygon yn awgrymu tywydd oer iawn, felly mae gweithio yn y tŷ gwydr yn fwy debyg.  A cyn dechrau, cynhesu gyda cawl cenin – o’r ardd.

Thursday 4 February 2016

Natur Milton Keynes

Nos Fawrth, es i glywed dyn a ffotograffwyr lleol yn sôn am fywyd gwyllt a natur yn Milton Keynes.  Dydy llawer o bobl ddim yn gweld y ddinas fel lle da ar gyfer bywyd gwyllt, ond dydy o ddim yn ddrwg o gwbl a r’on yn awyddus i glywed am lefydd ar draws y ddinas, ac efallai i glywed am adar d’on i ddim yn gwybod amdanyn nhw.

Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi clywed am adar neu anifeiliaid d’on i ddim yn gwybod amdanynt, ar wahan i’r ffaith bod y tir wrth ym yml lle dwi’n gweithio yn dda am weld nadroedd (ond un neidr sydd i’w gael yn MK, dydy’r gwiber ddim yn byw yma).  Ond yn sicr roedd clywed am y tegeirianau sydd yn tyfu yma yn syndod i fi, a hefyd yr mrywiaith o ieir bach yr haf.  A gan fod ei luniau more dda (gwelir www.cwardphotography.co.uk) roedd y noson yn dda iawn.

Yn aml mae 'na fwy o gwmpas na fydd pobl yn meddwl.  Roedd arlunwraig lleol yn y cyfarfod, sydd yn ganolbwyntio ar fywyd gwyllt, ac yn gwneud llawer o luniau o sgarnogod.  Felly, wnes i ddechrau feddwl - be ydy fy hoff anifeiliaid neu adar sydd i’w gael o gwmpas y dinas?  A dyma rhai ffefrynnau sydd ar fy rhestr:

Glas y dorlan.  Dwi ddim yn gweld nhw yn aml: rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.  Lwc ydy o (i fi, beth bynnag).  A fel arfer, maent yn hedfan heibio yn gyflym.  Ond weithiau, mae cyfle i drio cael llun gwell (ond dwi ddim wedi llwyddo i gael un dda, eto).


Cornchwiglen.  Braidd yn brin, ond mae nhw’n nythu’n lleol (ond dim llawer ohonyn nhw) ac i’w gweld wrth ymyl y llynoedd yn y Gaeaf.



Llwynogod.  Dwi’n gwybod bod llawer o bobl yn eu casau - ond mae nhw’n del ofnadwy.  (Dydy’r llun yma ddim o MKeynes)


Sgwarnogod.  Mae ’na ddigon o gwmpas, ond mae rhaid gwybod lle mae nhw.  A mae Kate (), yr arlunwraig yn gwybod yn union lle i fynd.  Dwi ddim wedi llwyddo cael llun o sgwarnog lleol eto - un Cymraeg ydy hon! ( a dim yn ofnadwy o glir).


Tylluanod.  Bob fath. Yn fama dan ni’n cael y dylluan fach, y dylluan wen, y dylluan glustiog (rhai flynyddoedd) a mae’r dylluan frech yn byw yn yr ardal ond anaml iawn dwi wedi eu gweld nhw. Dwi ddim yn meddwl bod na llawer ohonyn nhw chwaith. Y tylluan glustiog ydy hon.



Mae na un greadur brin sydd ddim mor frin  yn fama - y fadfall ddŵr gribog (greater crested newt).  Er hynny, dwi erioed wedi gweld un.  Falle eleni?