Ailddysgu

Monday 10 October 2016

Digwyddiadau ar y comin, yn y tŷ gwydr ac yn y gegin

Mae’r hydref go iawn wedi dod i’r comin, gyda tarth yn y bore, a golau hyfryd, yn gwneud cerdded i ymarfer y ci - a fi, yn bleser. 



 Yn ddiweddar, dwi wedi gweld dau aderyn dwi erioed wedi gweld o’r blaen ar y comin.

Y gyntaf, bore Sadwrn oedd clochdar y cerrig.  Hwn ydy un o fy hoff adar.  Ac er bod llyfr natur Iolo yn dweud ei fod yn hoff o dir comin, dwi erioed wedi gweld un yn yr ardal hon o’r blaen.  Dyma llun o glochdar y cerrig Cymraeg - yn Sir Benfro:



A gwryw oedd yr un ar y comin hefyd; aderyn hardd iawn, ond ches i ddim gyfle i edrych arno fo yn fanwl; roedd o wedi hedfan i ffwrdd mewn chwinciad!  

Bore Sul, bore braf a heulog, edrychais i weld be oedd yn y ddraenen wen, sydd yn llawn o aeron coch, a bob fath o aderyn yn gwledda ar yr aeron.  Un o’r rheini oedd pinc y mynydd - brambling. Ymwelydd gaeaf ydy hwn, a dwi’n gwybod ei fod yn cael ei weld yn yr ardal - yn enwedig yn y warchodfa natur, ond dwi ddim wedi gweld un o’r blaen.  

Mae’r comin yn gartref i sawl rywogaeth, a mae’r rhestr wedi tyfu rwan.  Ac yn y cae gwaelod - y ddôl gwaelod, wrth yr afon, mae pethau yn newid hefyd.  Eleni, gyda’r gwair yn hir, ’roedd y ddôl yn llawn o bryfed a ieir bach yr ha, a’r adar yn dod i wledda ar y pryfed, yn enwedig y wennol ddu, tra oedd adar fel bras y cyrs yn nythu.  A rwan mae gynlluniau ar y gweill i greu ddôl go iawn, ’hen ffashiwn’. 



Mae dôlydd hen wedi bod yn diflannu o’r wlad, ac oherwydd hynny dan ni wedi colli’r blodau sydd yn tyfu yna, a’r bywyd gwyllt sydd yn dilyn y blodau.

Heddiw roedd y gwaith yn dechrau, felly gawn ni weld sut bydd y ddôl yn datblygu dros y blynnoedd.

Yn ôl yn yr ardd, mae’r aubergines yn ffynnu yn y tŷ gwydr.  


Rhai bach, eleni, yn y gobaith ei fod am aeddfedu dipyn yn gynharach na’r arfer.  Nos Sadwrn, felly, cyri aubergine.  Dwi’n hoff iawn o ryseit Nigel Slater, sydd yn eitha syml ac yn hyfryd o flasus. 

 

Ein ciwymbers o’r tŷ gwydr yn y raita, chutney a reis, a papadom, a dyna ni.

1 Comments:

At 11 October 2016 at 09:46 , Blogger Wilias said...

Un o bleserau mawr bywyd ydi coginio dy gynnyrch dy hun; y cyri'n edrych yn hyfryd iawn.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home