Ailddysgu

Saturday 10 September 2016

Dechrau'r Hydref

Ar wahan i heddiw [o, ia, a hefyd dydd Sadwrn diwethaf], mae’r tywydd braf, heulog a gynnes wedi parhau yn fama.  Dwi wedi bod yn arbrofi i weld faint o wahanol teithiau cerdded sydd yn bosib o’r cefn drws mewn awr a hanner neu awr a chwarter.  Fel arfer does dim digon o amser i fynd am ddwy awr yn y bore.  A felly, does dim gymaint o ddewis, oherwydd mae o’n cymryd ryw ugain funud i hanner awr i gyrraedd y llefydd mwy ddiddorol - ar wahan i gerdded ar y comin [ond weithiau mae’n braf cael newid bach].

Penwythnos diwethaf mi es i fynny i’r gamlas,

 

a hefyd rownd llyn bach sydd ddim rhy bell i ffwrdd, o’r enw ’Tongwell’,

 

ond erbyn dydd Sul, yn ôl i gerdded ar y comin, sydd mor braf, a gyda mwy o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt.  Dyma un creadur dwi erioed wedi gweld [yn fyw]: 


llŷg - un gyffredin swn i’n meddwl  - yn ôl llyfr Natur Iolo, mae’r cynffon yn mesur tua hanner hyd y corff.  Ond rhai wedi marw dwi wedi gweld, erioed.

Yn ôl yn yr ardd, mae llai o amser rŵan gyda’r tywyllwch i’w weld yn dod yn gynt bob nos.  Dwi’n trio rhoi hadau i mewn ar gyfer y gaeaf, ond mae’r malwod, a’r gwlithod, yn cael gwledd.  


Fel gwelir yn y llun, mae'r rhan fwyaf o'r dail bach wedi cael eu bwyta!

Er hynny, mae’r aubergines yn gwneud yn eitha dda [dwi’n trio anghofio’r un gyda gwlithen enfawr ty fewn iddo fo],


a’r basil, a’r tomatos, felly mi wnes i drio ryseit gan Ottolenghi o’r papur newydd.  Braidd yn gymleth mewn llefydd - ond yn flasu’n dda.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home