Ailddysgu

Wednesday 17 August 2016

Sych a phoeth


Ar ol bod ar ein gwyliau wythnos diwethaf, dan ni wedi dod yn ôl i sychder yn yr ardd, a’r haul yn tywynnu.  A gan bod ffrind wedi bod yn dyfrio yn y tŷ gwydr - llwyth o giwcymber.

Mae ’na ddeuddeg yn y fasged, ar ei ffordd i’r siop lysiau, lle maent yn cael ei ffeirio am llysiau nad oes gennym yn yr ardd - neu ffrwythau fel bananas.

Mae’r eirin ar y coeden Czar yn barod hefyd.  Mae’r rhain i fod yn eirin ar gyfer coginio, ond maent yn ddigon felys.

Y gwaith fwyaf gyda’r tywydd sych, poeth ydy dyfrio.  Mae rhaid rhoi dipyn o ddwr bob dydd yn y pwll bach yn yr ardd, ac er nad ydym yn dyfrio’r lawnt na’r blodau yn aml, mae rhaid dyfrio’r planhigion mewn potiau, a’r ffa Ffrengig a’r cenin - a Paul os wyt ti’n darllen mae’n ddrwg gen i os ydy o’r dal i fwrw ym Mlaenau Ffestiniog.....

Aethom i Alnmouth yn Northumberland a roedd yn hyfryd.  Braf cael bod mewn lle lle mae nifer o adar wahanol i'w gweld, fel y gylfinir, sydd yn brin iawn yn fama.  A braf clywed son y gylfinir - yn fy atgoffa i o Gymru...


2 Comments:

At 22 August 2016 at 12:08 , Blogger Wilias said...

Mae'n sicr yn bwrw heddiw Ann!
Mi fuon ni yn Y Fenni a chael wythnos sych, a dod yn ôl i ganfod bod y ferch heb ddyfrio'r ty gwydr...!

 
At 24 August 2016 at 12:20 , Blogger Ann Jones said...

O na! Ydy'r llysiau wedi goroesi? Mi faswn wedi bod wrth fy modd yn mynd i'r Eisteddfod - ond dim yn bosib eleni. Ond Sir Fon, blwyddyn nesaf - gobeithio!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home