Ailddysgu

Tuesday 10 May 2016

Y Gog

Dwi’n dallt bod y gog yn dal ei dir yng Nghymru  - ond dim felly yma yng nghanol Lloegr, o gwmpas Milton Keynes.  Felly ’roedd yn hyfryd clywed y gog wythnos diwethaf, (am y tro gyntaf eleni) yn y warchodfa natur lleol - ond dwy filltir i ffwrdd.  Er nad ydy hi’n bell i ffwrdd, mae’r cynefin yna yn addas i’r gog: digon o goed a llecynau gwlyb lle mae’r telor y cyrs yn nythu.

Bob blwyddyn mae’r warchodfa yn trefnu ’warbler walk’ - taith telor, efallai, yn y Gymraeg, a’r syniad ydy i weld pa deloriaid ydan ni’n clywed - a, wiethiau, yn gweld, ond mae hynny’n fwy anodd.  Mae’r dyn sydd yn tywys y taith yn arbenigwr ar adnabod adar o’r cân.  Ond dwi’n ei cael hi’n anodd, mae rhaid dweud.  Beth bynnag, roedd hi’n noson hyfryd, a digon o adar o gwmpas, yn cynnwys digon o deloriaid, fel: telor y cyrs; telor cetti; siff-saff a telor yr helyg.  Mae’r rhain i gyd braidd yn debyg, (’small brown jobs’ fel y dwedir yn Saesneg) ac yn anodd i’w gweld ymysg y goed, neu’r tyfiant, ond mae cân bob un yn eitha wahanol.  Telor y cyrs (reed warbler) ydy un o’r adar lle mae’r gog yn dodwy ŵy yn ei nyth - a dyna, falle, pam mae’r gog i’w glywed yma.

Braf ar ddiwedd y nos cael mynd yn ôl i adeilad y warchodfa lle mae ffenestr mawr yn edrych dros y wlypdir a gweld dylluan wen yn hedfan yn isel, yn hela. Cyn hynny, roedd cyfle i weld ychydig o nythod y greÿr las.  Braidd rhy bell i gael llun da, ond dyma’r cywion.  




Maent yn nythu’n gynnar, felly erbyn hyn, mae’r cywion wedi tyfu dipyn ac yn fy marn i, yn edrych fel ’pyncs’!

Wnes i ddim lwyddo i gael lunier o adar eraill, ond dyma rhai luniau no’r warchodfa: bendigedig yn yr haul hwyr.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home