Ailddysgu

Wednesday 25 May 2016

Dau gomin wahanol iawn





Dyma ein comin lleol ni: mae’r gwair yn tyfu’n hir ar hyn o bryd, a’r blodau gwyllt un ffynnu.  A gyda’r blodau a’r pryfed, digon o adar: yr ehedydd, y cudyll coch, y dylluan wen, corhedydd y waun, cnocell werdd a llawer mwy.

Ond ar draws y wlad mae comins eraill yn wahanol iawn.  Dyma ’Bircher Common’: dim rhy bell o Ludlow, lle r’on i dros y benwythnos.  (Ond, with edrych, efalle nad ydy'r coedwig yn rhan o'r comin, er ei bod yn agos?)




Mae hon yn dra wahannol, gyd coed a  blodau’r coedwig fel clychau’r gog.

Ond mae llefydd fel yma yn bwysig yn hanesyddol: llefydd lle mae pobol wedi cael yr hawl i bori ei annifeiliaid am flynyddoedd.

Wednesday 18 May 2016

Mis Mai Hyfryd

Mae’r hanner gyntaf wedi bod yn dda iawn: digon o heulwen, a glaw yn dilyn, felly yn fama, beth bynnag, mae popeth yn wyrdd.
Dyma rhai o luniau diweddar o’r add: (bob dydd mae rhywbeth newydd yn blodeuo, bron)





Ac wrth fynd am dro ar y comin yn gynnar bore Llun, mi welais ehedydd ar y llwybr, a oedd digon glen i adael i fi gymryd llun.  Rŵan bod Milton Keynes yn tyfu ( a wedi tyfu) a tai newydd i lawr y lôn, mae’r comin yn brysur: pobl yn rhedeg, plant yn chwarae (ond dim am saith yn y bore!) ac wrth gwrs, cwn.  Eto, mae’r ehedydd yn llwyddo, rywsut, a dwi’n falch iawn gweld hynny.


Tuesday 10 May 2016

Y Gog

Dwi’n dallt bod y gog yn dal ei dir yng Nghymru  - ond dim felly yma yng nghanol Lloegr, o gwmpas Milton Keynes.  Felly ’roedd yn hyfryd clywed y gog wythnos diwethaf, (am y tro gyntaf eleni) yn y warchodfa natur lleol - ond dwy filltir i ffwrdd.  Er nad ydy hi’n bell i ffwrdd, mae’r cynefin yna yn addas i’r gog: digon o goed a llecynau gwlyb lle mae’r telor y cyrs yn nythu.

Bob blwyddyn mae’r warchodfa yn trefnu ’warbler walk’ - taith telor, efallai, yn y Gymraeg, a’r syniad ydy i weld pa deloriaid ydan ni’n clywed - a, wiethiau, yn gweld, ond mae hynny’n fwy anodd.  Mae’r dyn sydd yn tywys y taith yn arbenigwr ar adnabod adar o’r cân.  Ond dwi’n ei cael hi’n anodd, mae rhaid dweud.  Beth bynnag, roedd hi’n noson hyfryd, a digon o adar o gwmpas, yn cynnwys digon o deloriaid, fel: telor y cyrs; telor cetti; siff-saff a telor yr helyg.  Mae’r rhain i gyd braidd yn debyg, (’small brown jobs’ fel y dwedir yn Saesneg) ac yn anodd i’w gweld ymysg y goed, neu’r tyfiant, ond mae cân bob un yn eitha wahanol.  Telor y cyrs (reed warbler) ydy un o’r adar lle mae’r gog yn dodwy ŵy yn ei nyth - a dyna, falle, pam mae’r gog i’w glywed yma.

Braf ar ddiwedd y nos cael mynd yn ôl i adeilad y warchodfa lle mae ffenestr mawr yn edrych dros y wlypdir a gweld dylluan wen yn hedfan yn isel, yn hela. Cyn hynny, roedd cyfle i weld ychydig o nythod y greÿr las.  Braidd rhy bell i gael llun da, ond dyma’r cywion.  




Maent yn nythu’n gynnar, felly erbyn hyn, mae’r cywion wedi tyfu dipyn ac yn fy marn i, yn edrych fel ’pyncs’!

Wnes i ddim lwyddo i gael lunier o adar eraill, ond dyma rhai luniau no’r warchodfa: bendigedig yn yr haul hwyr.




Monday 2 May 2016

Cuddiad


Dwi wedi dod ar draws sawl annifail yn cuddiad yn ddiweddar.  Yn gyntaf, y llyffantod yn y pwll yn y ardd.  Mae na lechen wrth ochr y pwll -  ac yn cuddiad o dan y lechen, ryw 6 llyffant (rhai wedi dengyd erbyn cymryd y llun!).  Da gwybod bod bywyd yn y pwll  yn iach.



A dim yn bell o’r gwaith, mae rhai creaduriaid yn cael eu cyfrif wrth rhoi darn o haearn rhychiog i lawr a gweld be sy’n cuddio o dan y haearn.  Tynnais un darn o heart rhychiog i weld neidr gwair



Ac o dan un arall, llygoden bengron goch (dwi’n meddwl!: mae Llyfr Natur Iolo yn dweud ei fod yn hawdd gwahaniaethu rhwng hon (bank vole, yn Saesneg) a llygoden bengron y gwair (short tailed vole) o achos y ffwr cochfrown a’r gynffon weddol hir) ac yn bendant, roedd ffwr y llygoden yn gochfrown a’r cynffon yn weddol hir...(er ei fod yn anodd gweld maint y cynffon yn y llun).



Mae ’na greadur arall yn cuddio yn yr ardd, yn y bin compost!   Weithiau pan dwi’n llenwi’r bin mae llygoden bach yn rhedeg i ffwrdd - o dan y compost.  Dwi’n meddwl mai llygoden y coed ydy hi, ond hyd at hyn, dydy hi ddim wedi aros digon hir i fi dynnu llun.