Ailddysgu

Wednesday 30 December 2015

Y ci

Yn ôl ym mis Ebrill collason ein ci, Tyson.  Mi roedd o wedi bod yn ffrind da i’r teulu i gyd, ers iddo symyd yma i fyw yn ol yn 2001, pan roedd o ryw ddeunaw fis.  Mi wnes i feddwl am sgwennu post amdano fo, ond do’n i ddim yn medru, ar y pryd.  Yn teimlo rhy drist ac emosiynol.  



Wrth gwrs, doedd  o ddim yn angel: yn enwedig gan mai ci hela roedd o; ond ar ol dipyn o hyfforddiant, roedd yn gyfaill ardderchog ar daith cerdded.  Un peth oedd o’n gwneud oedd sicrhau bod fy ngŵr yn cerdded digon: roedd Tyse (na,  dim ni enwodd o) angen ryw ddwy awr o gerdded bob dydd.  Hyd yn oed pan roedd yn hen (rhy hen i hela’r wiwerod yn y fynwent) roedd o’n hapus iawn i gerdded am amser hir, ac yn fwy gyfforddus oherwydd bod y  cryd cymalau ddim mor ddrwg pan roedd yn cerdded.

Ar ôl dipyn, roedd o’n amlwg bod angen ci arall i fynd a fy ngwr am dro, iddo gael dipyn o ymarfer corff.  Felly aethon i chwilio am gi newydd, a penderfynu cynnig cartref newydd i gi roedd angen cartref, yn nytrach na prynu ci bach.  A dyma sut ddaeth Teo i fyw gyda ni.  R’oedd o am gael ei ladd yn Sbaen.  Dan ni ddim yn gwybod am ei gefndir: mae’n amlwg ei fod wedi byw mewn tŷ, rwy bryd, ond dim wedi cael hyfforddiant o gwbl o be dan ni’n gweld.  Mae lawer o gi defaid ynddo fo, a falle dipyn o ddaeargi - pwy a wyr.  Bydd o angen llawer o hyfforddiant, ond mae o’n glyfar ac yn dysgu’n gyflym.

A dyma'r ci newydd: Teo ydy ei enw fo (a mi ddaeth gyda'r enw).


Mae’r braf iawn cael ci o gwmpas y lle eto.  Efalla bod yr wythnos cyn Dolig ddim yr amser gorau - ond roedd y pobol oedd yn edrych ar ei ôl o, yn awyddus i gael gartref newydd iddo fo - a gwneud le i gi arall oedd angen cartref dros dro.

Ond dwi wedi cael ryw fath o annwyd drwm gyda haint a peswch drwg dros y Nadolig, a dim wedi bod mewn stâd i wneud lawer o gwbl.  Felly ond dros ddoe a heddiw dwi wedi bod allan efo fo. Gobeithio cai cyfle i bostio mwy, unwaith dwi'n teimlo'n well...

Friday 11 December 2015

Y berllan gymunedol

Yr amser yma o’r flwyddyn, pan mae hi’n nosi mor gynnar, dwi’n trio mynd allan o’r gwaith amser cinio, os bosib.  Dan ni’n lwcus ofnadwy, gan fod llwybrau a chaeau o’n gwmpas.  Felly amser cinio dydd Mercher, dydd braf a sych mi es i lawr y llwybr ar fy meic i’r berllan gymunedol.

 

Sefydlwyd y berllan yma nifer o flynyddoedd yn ôl gan Milton Keynes Parcs Trust, a dwi’n meddwl eu bod nhw yn casglu’r afalau (ond coeden afalau sydd yma) er mwy gwneud seidr.  Yn yr hydref, mae ddigonedd o afalau i’w gael yn rhad ac am ddim, wedi syrthio o’r coed.  Ond erbyn hyn, dydy nhwn ddim mewn cyflwr da iawn.










Serch hynny, dyma wledd i fywyd gwyllt.  Yn y bore, wrth fynd heibio i’r gwaith, roedd heidiau o adar o gwmpas, yn cynnwys adar bach, yn amlwg yn bwydo ar ol clwydo dros nos.  Erbyn amser cinio, pan es yn ôl, doedd dim gymaint o adar bach, ond digonedd o biôd,adar du, ambell fronfraith a wiwerod.










Pleser llwyr oedd beicio yn ôl i'r gwaith (5 munud) heibio'r defaid tew.  Mae 'na gymaint o fanteision i benderfyniad o greu berllan fel 'ma mewn dre.

Tuesday 8 December 2015

Yma o Hyd: ffa a bylbs

Dwi ddim wedi cael llawer o hwyl gyda postio i’r blog yn ddiweddar.  Bywyd yn brysur, rywsut.  Serch hynny, dwi wedi llwyddo i wneud dipyn o bethau yn yr ardd, er fy mod braidd yn hwyr, fel plannu hadau’r ffa llydan.  Dan ni’n lwcus bod y pridd yn eitha ysgafn yn fama, a mae o’n bosib dechrau’r ffa ym mis Tachwedd, ac yn aml, maent yn llwyddo.  Y fantais fwyaf (mwyaf? – o diar, y treigladau) ydy eu bod nhw yn osgoi y pryfed du (? Blackfly) pan mae nhw’n dechrau tyfu yn y gaeaf neu’r hydref hwyr. 


Ond, wnes  i ddim llwyddo i blannu nhw ym mis Tachwedd, felly mi wnes  I roi nhw I fewn ar y benwythnos, gan feddwl bydd hynny’n iawn, gan bod y tywydd mor fwyn.  A dilyn yr hen reol: un i bydru, un i’r llygod ac un i dyfu.  Felly tri ym mhob twll yn hytrach nac un.  Wn i ddim os dwi wedi eu plannu mewn amser.  Gawn i weld.  

Y peth arall dwi wedi bod yn brysur efo ydy bylbiau ar gyfer y tŷ – tŷ neu fel anrhegion.  Dyma llun o rhai ohonnyn nhw.  



Dwi wedi trio tyfu amaryllis am y tro gyntaf.  Mae’n debyg mai’r enw cywir ydy Hippeastrum.

Mi wnes i gangymeriad a rhoi’r rhain yn y tywyllwch, ac mewn lle oer (ond does nunlle yn oer iawn eleni) a wedyn darganfod eu bod nhw isio golau a gwres, a mae nhw i’w gweld yn gwneud yn iawn. 


Fel gyda’r ffa, gawn i weld.