Ailddysgu

Sunday 22 November 2015

Natur o gwmpas y dre

Dwi wedi parhau gyda’r arfer o fynd am drô yn y bore ar ddyddiau pan dwi ddim yn gweithio.  Y drefn ydy cerdded i lawr y stryd at y comin, wedyn ar draws y comin, i lawr stryd bach tuag at y bont a wedyn croesi i barc bach sydd yn arwain at yr hen fynwent a wedyn yn ol ar hyd lan afon arall, parc bach arall a.y.y.b.  

Ar ol gweld tylluan glustiog ar y comin, ryw fis yn ol, dwi wedi bod yn gobeithio gweld nhw eto a cael tynnu lluniau.  Ond erbyn hyn r’on wedi penderfynu bod nhw wedi mynd – tan bore LLun, pan welais i dylluan glustiog yn hela ar y comin, ond tro yma, gweld par!  Son am gyffro!  Beth bynnag, wnes i ddim lwyddo i gael llun – ‘roedd yn gynnar yn y bore, ac er fy mod yn medru gweld yr adar yn dda  trwy’r spyndrych, ac yn medru tynnu llun gyda’r iPhone – roedd angen lens teleffoto i gymryd llun, a gyda hwnnw, roedd y llun yn dywyll iawn – fel gwelwch chi. 



Ers hynny dwi ddim wedi gweld y tylluannod, ond dwi’n meddwl ein bod ni ddigon ffodus gyda’r adar sydd o gwmpas.  Mae’r cudyll coch wedi bod yn hela bron bob dydd dwi wedi bod ar y comin; hefo hon hefyd, dydy o ddim yn hawdd i fi cael llun da, ond dyma hi yn hedfan:



Mae’r bras y cyrs i’w gweld ar y comin hefyd 


a mae’r creÿr glas i’w gweld yn aml wrth ac yn yr afon.  Does dim ond rhaid mynd ryw filltir a hanner i lawr y lôn i gyrraedd cae lle mae sgwarnogod i’w gweld eithaf  aml ac yn yr hen fynwent mae digon o loches, a byddaf yn gweld drwy bach, yn aml, yn ogystal a cnocell coed (weithiau), delor y cnau  a hefyd dringwr bach  (weithiau).  Heddiw roedd un wiwer yn brysu yn casglu brigau ar gyfer ei nyth, a’r fronfraith yn brysur yn bwyta’r aeron o gwmpas.  Yn sicr mae digon o aeron eleni, a hyd at hyn dan ni ddim wedi gweld adar yn yr ardd.  



Ond heddiw, gyda’r barrug gyntaf, a’r tywydd oer, mi ddaethant yn ol I fwydo ar yr hadau yn yr ardd.


Dwi’n teimlo’n eitha ffodus i gael gweld yr holl fywyd gwyllt heb mynd rhy bell o gartref.

Sunday 15 November 2015

Pigion

Rhywsut, does dim llawer o amser ar y funud, a felly ychydig o bigion yn hytrach na dim byd hirach. Yn yr ardd, mae'r gaeaf wedi dod, mewn rhai lefydd, beth bynnag, a mae'r dail ar y coed gellyg i gyd wedi mynd :


er bod ambell i goeden gyda dail o hyd:


O'r diwedd mae'r pupurau yn y ty gydr yn aeddfedu ac yn troi'n goch:


Ddoe, roedd hi'n pistillio bwrw trwy'r rhan fwyaf o'r dydd, ond ar ol i ni addo mynd a ci ein ffrind (sydd wedi torri ei goes) am dro, roedd rhaid mentro allan yn y glaw trwm a dyna fi a hi, ar y comin.  Teimlad da dod yn ol ar ol awr a cael bod i fewn gyda panad!


A gyda'r holl glaw ddoe, ro'n i'n falch iawn fy mod wedi llwyddo i blannu ychydig o garlleg dydd Gwener pan oedd hi'n sych.  Mae dipyn fwy i fynd i fewn unwaith mae'r tywydd wedi gwella, ond mae'n dda i ddechrau arni - gobeithio byddant yn iach y tro 'ma.

Tuesday 3 November 2015

Hydref Hyfryd

Dwi ddim yn cofio cael hydref mor hyfryd.  Mae’r lliwiau wedi bod yn drawiadol iawn, a fel llawer o bobl eraill, mae’r camera, neu’r ffôn (yn fwy aml) wedi bod yn clicio.

Pan adeiladwyd y dre newydd, Milton Keynes, y weledigaeth oedd cael gymaint o goed, lle fedrwch gyrru trwy’r dinas heb sylwi, bron, bod dinas yna.  A rŵan, ar ol bron 50 mlynedd, mae’r lliwiau yn yr hydref yn wych.  Dyma sut mae o wedi bod yn y gwaith




A dyma lluniau eraill:


Ac yn yr ardd, dechrau’r blwyddyn ydy’r hydref: amser i baratoi a dechrau tymor newydd, ond dwi ar ei hôl hi.  Mae gwaith wedi bod yn brysur, dwi wedi bod i ffwrdd, a teulu wedi bod drosodd.  Ac eleni dwi wedi cynllunio cael llawer o fylbiau yn y gwanwyn a cyn hynny, hefyd, mewn potiau yn y tŷ.  Mae’r bylbiau ar gyfer yr ardd wedi mynd i mewn, yn cynnwys darnau bach o gennin Pedr i dorri i ddod i fewn i’r tŷ.  Mae’r tiwlipau yn aros a byddant yn mynd i mewn y mis yma.  Ond cyn hynny, mae rhaid plannu’r garlleg.  Ar ol i’r planhigion cael y rhwd, wnes i ddim tyfu nhw eleni; ond dwi am roi cynnig arall arnynt, a rhoi nhw i fewn i dir sydd ddim cael ei ddefnyddio ar gyfer y teul nionod o’r blaen.