Ailddysgu

Saturday 26 September 2015

Cynyrch y hydref

Rywsut dwi ddim wedi llwyddo i flogio llawer yn ddiweddar.  Ond dwi wedi bod digon brysur: yn yr ardd fel arfer, ond hefyd yn mynd am ambell i dro i gasglu cynnyrch y hydref.  Roedd rhaglen Galwad Cynnar, wythnos diwethaf, yn ardderchog o ran syniadau am be i wneud gyda’r gwledd sydd o gwmpas ar y funud.  A llawer o’r syniadau, wrth gwrs, i’w wneud a jîn ffrwythau, neu fodca!  Dwi ddim yn hoff o fodca o gwbl, felly jîn amdani!  





Mae ’na ddigon o eirin tagu o gwmpas, ac am ei fod yn gynnar yn y tymor, dwi wedi rhoi be dwi wedi casglu hyd at hyn yn y rhewgell.

Hefyd mae’n weld  yn dymor dda am gnau.  Digonedd ar y coeden yn y ’berllan gerila’, a ffrind hefyd wedi dod a rhai oedd hi wedi casglu.  


Dwn i ddim lle: mae’r wiwerod yn mynd a’r rhai gwyllt i gyd, yn aml.

Mae o wedi bod yn hyfryd beicio i’r gwaith gyda’r haul allan a’r coed yn troi eu lliw, ond bydd o ddim mor hyfryd beicio adref gyda’r nos yn dod mor gynnar.  Dyma rhan o'r llwybr dwi'n cymryd.



Ond heddiw, clirio a twtio’r tŷ gwydr bydd y peth gyntaf ar y rhestr, a symud y planhigion bach salad i rhoi dipyn o le iddynt.

Monday 14 September 2015

Mae'r hydref yma

Mae’r cynhaeaf yn parhau.  Mae’r afalau yn cael eu fwyta neu yn mynd i fewn i crymbl; mae’r basil wedi cael ei ddefnyddio i wneud pesto, a’r llysiau eraill yn mynd i fewn i’r cinio dydd Sul, neu cyri. Dyma ychydig o luniau: yr aubergine wedi cael ei frathu - malwod efallai - ond digon yna i wneud cyri, a digonedd o ciwcymber ar gyfer y raita i fynd hefo fo a'r basil a'r pesto yn barod i'r rhewgell.






Yn ddiweddar dan ni wedi bod yn casglu’r cnau ’Cob“, ac yn falch bod y wiwerod dim wedi eu ddarganfod.  


Ond gyda’r gwledd o fwyd, mae’r tymor yn symud ymlaen yn gyflym. Mae’r dydd yn byrhau, ac yn fuan bydd o’n amser i eistedd o flaen y tân ac i ddarllen yn hytrach na garddio.  Felly dwi wedi bod yn ymarfer dipyn ac yn ddiweddar wedi gorffen darllen Y Ddraig Goch - ac wedi mwynhau’r nofel yn fawr iawn.  Mae’n stori glyfar sydd yn symyd yn gyflym.


Ar y funud dwi'n mwynhau 'This Boy' gan Alan Johnson ond does dim llyfr Cymraeg arall ar y gweill.  Mi faswn yn gwerthfawrogi syniadau!