Ailddysgu

Sunday 26 July 2015

Mynydd Paris

Mynydd Parys, yn yml Amlwch

Mynydd Parys ydy’r lle gyntaf o’r cant o’r llefydd y dylem ymweld â nhw yn ol  yr hanesydd John Davies yn y llyfr “Cymru: y 100 Lle i’w gweld cyn marw“.  Mi ges i gyfle i ymweld a Mynydd Parys bore Iau diwethaf pan roedden yn aros ond dwy filltir i ffwrdd.  Do’n i ddim yn siŵr os fyddwn yn cytuno gyda John Davies am harddwch y lle.  Ond mae o’n lle lliwgar, bron yn arallfudol, werth ei gweld gyda gymaint o luwiau wahanol - o’r cloddu ac o’r blodau sydd rŵan yn tyfu’n ol.  Mae’r hen felyn gwynt yn sefyll wrth frig y ’mynydd’ - a rhesi o felynau modern o gwmpas:





A mae rhai rhannau bron fel gerddi creigiau gwyllt.





Sunday 12 July 2015

Compost a ffrwythau meddal

Os dach chi’n arddwr neu arddwraig organig, mae gnweud compost yn bwysic.   A mae o fel gwyrth, i weld rhywbeth fel hyn : 



 yn troi i rywbeth sydd yn edrych fel yma:


A mae troi’r bin unwaith mae hi’n llawn yn helpu’r proses.   Felly, erbyn dechrau’r wythnos yma, roedd rhaid troi’r bin; rhoi’r compost o’r bin a oedd wedi cael ei llenwi i’r bin gwag - gwaith reit drwm ac anodd.  Ond mae rhaid dweud, dwi’n dipyn o anorac gyda’r compost, yn trio cael y cymysgedd yn iawn.    Ac ar ol y gwaith, dyma’r compost a oedd wedi cael ei troi.  Un yn llawn compost wedi ei gwneud, ( ar y dde) a’r llal yn barod i ddechrau eto.



Bocsys pren ydy’r bins yma, a mae nhw wedi bod yma am 25 flynedd – felly wedi gwneud yn dda iawn (er bod dipyn o bydru yn dechrau rwan); ac i lawr y pen arall o’r ardd mae pedwar bin plastig.  


Mae’r chwech bin yn llenwi digon buan - dwedais fy mod yn anorac compost….  Er fy mod f’ysgwyddau yn teimlo’r gwaith, roedd yn dda gweld sut roedd y compost wedi datblygu, a cael rhoi rhai o’r compost yn y gwely lle bu’r nionod – sydd wedi cael eu codi yn barod i sychu, yn barod i’r cenin.

Ar wahan i ddechrau drawsblannu’r cenin, (mwy i ddod mewn post arall, falle) dwi wedi bod yn casglu mafon – sydd wedi gwella dipyn erbyn hyn (ond yn casau’r tywydd poeth sych). 

Mae’r rhan fwyaf yn mynd i’r rhewgell: meant yn rhewi yn dda – a mor fendigedig cael nhwyng nghanol y gaeaf, pan bydd yr haf wedi cael ei anghofio.  Mae rywfaint o blueberries hefyd – dim gymaint: rhaid i’r rhain tyfu mewn potiau, oherwydd dydy’r pridd ddim yn iawn iddyn nhw. A hefyd cwrens du gyda cwrens coch yn dilyn.

Mae’r gwsberen wedi bod yn dda eleni.  Triais ryseit (newydd i fi) gan Delia am “cobbler” i ginio ddoe a roedd hi’n dda iawn. 



Dwi byth yn siwr be i wneud gyda nhw ar ol y crymbl a’r ‘fool’.  Syniadau?  Am rwan mae rhai yn y rhewgell a rhai yn yr ardd o hyd.


O’r diwedd mae’r courgettes yn dod ymlaen.  Felly amser i gael y cawl gyntaf yn defnyddio courgettes, sbigoglys a tatws – rysait o Cranks.  


Be sydd yn well na medru bwyta o’r ardd? 

Monday 6 July 2015

Hampton Court ac ein gardd ni

Aethom gyda ffrindiau o’r grŵp llyfrau MK, i’r sioe blodau yn Hampton Court dydd Gwener diwethaf.  Diolch byth roedd y tywydd ddim mor boeth ag ar y ddydd Mercher gynt.  Hefyd, yn anhebyg i Chelsea, gan fod y lleoliad mor fawr, roedd yn bosib gweld y gerddi - i rai rannau beth bynnag, er bod y lle yn llaw bobl.  

Felly mwynhais gerddi fel y rhai islaw:




Ac wrth cerdded yn ol, aethom heibio’r gardd llysiau Hampton Court - dwi wastad yn hoff gweld hen gerddi yn llawn o lysiau a ffrwythau.
Ac yn ol yn ein gardd ni, mae’r nionod wedi aeddfedu, dwi’n meddwl, ac yn barod i ddod allan.  Dyma un:


A dwi wedi dechrau ar y cennin.  Dyma’r planhigion sydd wedi tyfu o’r hadau:


A dyma rhai ohonyn nhw dwi wedi symud i’w gwely newydd.  


Llynedd cawsom fawr ddim o gennin, oherwydd y tywydd poeth a sych a ddaethod ar ol i ni fynd i ffwrdd - a neb i ddyfrio’r cenin a oedd wedi cael eu osod yn y gwlau newydd.  Felly eleni, dan ni yma am bron bythefnos, a gobeithio cawn roi ddigon o dwr i’r planhigion i gadw nhw’n iach.