Ailddysgu

Thursday 26 March 2015

Yn ol yn yr ardd



Gyda'r haul yn gwenu (wel, ambell waith) ddoe, a fina ddim yn y gwaith, roedd cyfle i wneud dipyn y yr ardd ac i dwtio'r tŷ gwydr ddoe.  Falle eich bod wedi sylwi nad ydwi wedi sôn llawer am yr ardd yn y blog yn ddiweddar - a hynny am fy mod ddim wedi gwneud llawer o gwbl dros y gaeaf.  Ond rŵan, mae rhan o'r tŷ gwydr yn dwt gyda'r gwlau yn barod am y tymor newydd.




Dwi wedi clirio tipyn ar yr hen pridd, ychwanegu compost newydd a hau letys, radish, moron, rocet a persil - a  wedi torri'r letys sydd wedi bod yna dros y gaeaf, fel ei bod yn tyfu dail newydd.



Felly mae pethau yn dechrau dwad, yn araf bach. 

Ac yn yr ardd, mae'r nionod a'r ffa llydan a aeth i fewn yn yr hydref hwyr yn dod ymlaen yn dda, a dwi wedi ychwanegu ychydig o blanhigion pŷs, diolch i'r stondin ar y farchnad, a dipyn o foron -  a sialóts.



A weithiau mae'r tywydd yn eich helpu - heddiw mae'n bwrw - a bydd hyn yn gwneud lles i'r planhigion ar ol wythnos eitha sych.

Yn ol yn y tŷ, dwi'n falch iawn gweld bod Porthpennwaig yn cael ei ailddangos ar S4C.  Mwynhais y gyfres yma y tro gyntaf, a dwi'n mwynhau o eto - ac yn y cyfamser wedi bod yn cerdded ar hyd yr arfordir hyfryd o gwmpas Aberdaron.

Sunday 22 March 2015

Dau lyfr: Dan Gadarn Goncrit a Sophia: y fanteision o berthyn i glwb ddarllen

Dwi newydd orffen ddarllen dau lyfr gwahanol iawn: un yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg   Ond beth sy’n gyffredin ydy fy mod i wedi darllen y ddau oherwydd eu fod yn ddewis ar gyfer y clybiau ddarllen. 

Dwi’n ddiolchgar i’r clwb darllen Llundain am ddewis llyfr (Mihagel Morgan, “Dan Gadarn Goncrit“) na faswn i wedi dewis fy hun.  er bod fy ffrind Gareth wastad wedi canmol Mihangel Morgan, roedd fy mhrofiad i ddim i gyd yn dda.  Fel engraifft, doeddwn i ddim wedi dod ymlaen yn dda gyda casgliad o storiau fer, ag er fy mod wedi mwynhau Pantglas, roedd y tafodiaeth braidd yn anodd i fi.  Felly dwi ddim yn meddwl swn i wedi chwilio am lyfr arall ganddo fo.  A felly swn i wedi colli’r mwynhad mawr o ddarllen  y llyfr yma, sydd yn dipyn o ’glasur’ erbyn rŵan.  Mwynhais yr amrywiaeth o gymeriadau: llawer ohonyn nhw’n lliwgar - ond yn gredadwy.  Mae’r sgwennu (wrth gwrs) yn ardderchog, ac yn al yn ddoniol, fel yn y pennod pan mae’r prif cymeriad yn cael lifft gyda gyrrwr lorïau,  Hedd Wynne, sydd yn siarad yn dibaid:  “Oedd ots gan Maldwyn tase fe’n rhoi tâp Plethyn i chwarae? Nac oedd.  Waeth roedd ei ail wraig yn eithaf hoff o’r grŵp ac roedd e wedi siarad digon, on’d doedd? (Oedd)“  Felly mae o’n bosib mwynhau’r gwahanol benodau fel botreuadau bach difyr bron ar wahan.  Ond wrth gwrs mae na gysylltiad rhwng y penodau ac erbyn y diwedd, mae’r cysylltiadau rhwng y cymeriadau, a’r sefyllfeoedd yn dod yn glir.  A dirgelwch ydy’r nofel, yn y bôn.  Yn wir, doeddwn i ddim eisiau gorffen y llyfr yma.

Mae’r llyfr arall  dwi newydd orffen: Sophia, Princess, Suffragette, Revolutionary, yn gwbl gwahanol.  Llyfr gan Anita Anand yn cynnwys y stori rhyfeddol o Sophia Duleep Singh, merch yr etifeddwr i ddeyrnas y Sikkhs, yn India.  Cymerodd y Brydeinwyr y teyrnas, a bu raid i’r etifeddwr ifanc, (un ar ddeg) gadael ei deyrnas ac yn y ddiwedd daeth i Brydain, i Norfolk, lle  seflydwyd stad dros ben llestri.  Felly cafodd Sophia, ei ferch, y tywysoges, ei fagu  fel Saesnes, gyda’r brenhines Fictoria yn fam fedydd iddi hi.  Dyma, felly, stori am teulu Indiaid yn byw bywyd moethus yn Lloegr yn y ddeunawfed ganrif - yn hela gyda’r teulu brenhinol; stori am gyfoeth, hiliaeth, tlodi, cenedlaethorldeb a deffroad gwleidyddol.  A heb y grwp darllen faswn i ddim wedi dod ar draws y llyfr yma o gwbl.

Dan ni’n cael gwybodaeth yma am India yn yr oes Fictorianedd ac yn yr hanner gyntaf o’r ddeunawfed ganrif.  Roedd tad Sophia yn arwr mawr yn India, a gyda gymaint o bobl yn dechrau brwydro am annibynniaeth, roedd y llywodraeth yn awyddus i gadw Sophia, a’i chwiorydd rhag mynd i India.  Ond, er hynny, aeth Sophia i India, a chafodd y wlad, y tlodi, a’r ffordd roedd ei theulu Indiaidd wedi cael eu thrin gan y Brydeinwyr effaith mawr arni hi.  Daeth yn ôl gyda diddordeb newydd yng glweidyddiaeth ac ar ol gweithio ar ran yr Indiaid a weithiodd ar y llongau masnachwyr a ddaeth o India a oedd yn derbyn triniaeth creulon iawn ar y llongau ac yn Ninasoedd Brudeinig. A chwaraeodd ran bwysig ym mudiad y “Suffragettes, hefyd“.  Werth darllen, yn bendant.

Tuesday 10 March 2015

Digwyddiadau Cymraeg

Dwi wedi bod yn cymryd rhan mewn llawer ddigwyddiad Gymraeg yn ddiweddar: mynd i weld y Tŵr, trafod y ddrama yn Llundain yn y clwb darllen, mynd i wylio adar yng Nghaernarfon ac o gwmpas yr ardal, ymuno a’r Gwyl Ddewi Arall - a dydd Sadwrn diwethaf, mi es i’r cwrs undydd yn LLundain, yn y Ganolfan Cymry Llundain.  A fel arfer, mi ges i amser gwych, a dwi’n gobeithio, mi wnes i ddysgu un neu ddau beth.  Rhyfedd fel dach chi’n defnyddio ryw strwythyr yn yr iaith heb feddwl amdano ond pan dach chi’n meddwl am y peth, dach chi ddim yn gwybod yr rheol!  Gofynnodd Gwen, y tiwtor, iddyn ni sgwennu brawddegau gyda ’bod’ a ’mai’ ynddynt - i ni gael drafod a deallt y gwahaniaeth.  Er i fi gael nhw i gyd yn gywir, a felly medru defnyddio nhw’n iawn, doedd gen i ddim clem, tan i mi edrych yn fanwl, pryd roedd ’mai’ yn cael ei ddefnyddion a phryd ’bod’.  Ond dwi’n gwybod rŵan.    Dwi’n mwynhau dosbarthiadau Gwen - fel ieithydd mae gen hi ddiddordeb dwfn mewn gramadeg, a dwi angen gweithio ar fy ngramadeg - a hefyd, mae gen i ddiddordeb mewn strwythyr ieithoedd.

Beth bynnag, does dim ddigwyddiad Cymraeg arall ar y gweill.  Felly, dipyn o ddarllen (llyfr clasurol Mihangel Morgan ar gyfer y clwb darllen Gymraeg) a llyfr sydd yn edrych yn ddiddorol ar gyfer ein grŵp darllen Saesneg.  Dipyn o sgwennu yn fama; a dipyn o wrando ar y radio (llawrlwythio mwy o bodlediau) a gwylio S4C….yng nghynnwys ail gwylio Porth Penwaig….a falle mi fydda i'n llwyddo i wneud dipyn fwy yn yr ardd.

Sunday 8 March 2015

Gŵyl Ddewi Arall - a llyfrau

Mi gefais amser ardderchog penwythnos diwethaf yng Nghaernarfon eto yn ymuno yn y Gŵyl Ddewi Arall.  Bethan Gwanas oedd y gyntaf i siarad ar fore Sadwrn, a fel arfer, roedd hi yn wych, (ac yn ffraeth) wrth sôn am y problemau a'r trafferthion mae hi wedi cael (ac yn cael) fel awdures.  Dwi wedi clywed hi'n siarad sawl gwaith a byth wedi cael fy siomi.  Mae gen hi llyfr newydd bach sydd newydd cael ei gyhoeddi - Bryn y Crogwr (ac ond am £1).  Ar gyfer plant hŷn mae o, i ddweud y gwir, ond os dach chi, fel y fi, yn mwynhau llyfrau plant mewn Saesneg A Chymraef, neu isio rywbeth sydd ddim rhy hir, swn i'n ei awgrymu.  Mae'n bwysig medru cael narratif gryf - stori dda - ac yn sicr mae Bethan yn gallu gwneud hynny.



Yr ail ddigwyddiad oedd clywed Ioan  Doyle yn sôn wrth Gwion Hallam am ei fugeilio a'i ddringo. Wnes i ddim wylio'r rhaglen ar S4C, dwn i'm pam, ond efallai rŵan mi fyddaf yn dal i fynny gyda clic.  Dyn ifanc, diddorol, sydd wedi gnweud gymaint mewn amser gymharol fyr, gan ei fod mor ifanc!

Gyda’r nos roedd cwis a chanu (Ciaridyms) - hwyl mewn bar eithaf newydd.


Ac er fy mod i wedi dweud na faswn yn prynu llyfrau y tro yma, mi wnes i brynu ychydig o lyfrau - yn cynnwys llyfr Bethan Gwanas (wrth gwrs) a hefyd nofel Tudur Owen, Y Sŵ.  Dwi wedi gorffen y ddau - a fel dwedais, mwynhais y stori gan Bethan, a dechreuais y Sŵ ar y trên.  Mae o’n dda iawn ac yn gwneud i fi chwerthin: yn sicr mae Tudur yn medru sgwennu - a gobeithio wir ei fod am sgwennu nofel arall. 

Friday 6 March 2015

Corhwyad Americanaidd


Mi es i Gaernarfon y penwythno diwethaf ac un peth wnes i oedd mynd allan gyda Gareth i chwilio am a gwylio adar o gwmpas Caernarfon.  Un o'r adar gyntaf gwelson ni oedd y Corhwyad Americanaidd (os dyma ydy'r enw gywir - American Teal yn Saesneg).  Rŵan, mae'r corhwyad gyffredin yn aderyn digon hardd fel gwelwch isod (ond mae'r pen dipyn ar goll yn y gwymen):



A does dim llawer o wahaniaeth rhwng yr aderyn yma a'r un o America heblaw (a na dydy o ddim yn fwy) bod y streipen wen ar yr adenydd yn mynd i lawr yr adenydd fel y gwelwch yn y llun nesaf.  




A na, dydyn nhw ddim yn lluniau da iawn, o gwbl.  Efalla bod yr adar yn swil, ond roeddent yn nofio i ffwrdd neu yn hedfan i ffwrdd, felly y rhain ydy'r gorau sydd gen i.

Mi chefais hwyl ar y dydd Sadwrn hefyd yng Ngŵyl Ddewi Arall yng Nghaernarfon, ond post arall ydy hynny.

Mae mwy am y taith i weld adar yn fy mlog arall, Saesneg, am byd natur, sydd i'w gael yn fama.  Mae'r blaenoriaeth ar y flog yma i fi rŵan, felly yn anffodus dydy'r blog yna ddim yn cael llawer o sylw.

Mae digon o adar i'w gael o'n gwmpas yn fama hefyd, ond rhai gwahanol, yn aml.  Bore 'ma mi welais y llinos werdd yma pan r'on yn cerdded ar y comin.  


Doedd dim i'w gweld pan aethon ni allan dydd Gwener diwethaf, a dwi'n dallt eu bod nhw yn fwy brin nac oeddent o gwmpas Caernarfon.  Er i fi weld hwn bore ma, ac yn yr ardd weithiau, dydy nhw ddim yn boblogaidd iawn yn fama chwaith.

A fory dwi yn y byd Gymraeg eto, achos dwi'n mynd i'r cwrs undydd yn Llundain ac yn edrych ymlaen.  Mwy yn y man.

Tuesday 3 March 2015

Cymraes yn MK: mynd i weld Y Tŵr yn Llundian gyda'r Grwp Darllen Llundain

Mae o wedi bod yn gyfnod brysur iawn i’r hanner ohonof i sy’n Gymraes.  Dydy Milton Keynes ddim yn llawn o bobl Gymraeg ond, fel dwi wedi dweud o’r blaen, fasech chi’n synnu faint sydd o gwmpas. Mae MK hefyd yn ddigon agos i Lundain – felly roedd o’n bosib mynd i weld Y Tŵr, yn Llundain, yn ôl ym mis Chwefror.  Y cwmni Invertigo, oedd yn gyfrifol am y gynhyrchiad o Saer Doliau, oedd hefyd yn cynhyrchu y Tŵr, gyda dau actor a welson ni yn  y Saer Doliau:Catherine Ayers a Steffan Donnelly a’r un cyfarwyddwr, Aled Pedrick.  Roedd yr adolygiadau yn bositif iawn: gwelir adolygiad o'r Daily Post yma  ac adolygiad o'r perfommiad yng Nghaerdydd yma .

Mi es i yna i weld y drama gyda cyfeillion o’r grŵp darllen Llundain yn theatr yr Arcola, ac yn ein cyfarfod nesaf, y Tŵr (y llyfr ac y ddrama) oedd y pwnc.  Daeth 8 ohonon ni i’r gyfarfod yna.  Wnes i ddim cymryd nodiadau, ond dwi’n meddwl ei fod yn gywir i ddweud ein bod i gyd wedi mwynhau y ddrama, er bod y gair ’mwynhau’ efallai ddim yn addas.  Roedd rhai ohonyn ni wedi teimlo’n emosiynol ar ddiwedd yn ddrama. Ac er bod rhai ohononi hefyd yn meddwl bod y ddrama wedi dyddio mewn sawl ffordd, eto roedd o yn bwerus, ac yn gnweud i ni feddwl am amser, a threiglad amser a sut bod pethau yn newid dros amser hyd yn oed pan mae nhw’n aros yr un fath.

Yn bendant, mae o’n fraint medru mynd i weld ddrama Cymraeg o’r safon yma yn Llundain a gobeithio bydd  Invertigo yn ystyried cynhyrchu ddrama Cymraeg eto cyn rhy hir.