Ailddysgu

Sunday 25 January 2015

The Big Garden Birdwatch

Mi gymerais ran yn y Big Garden Birdwatch heddiw; digwyddiad blynyddolyn cael ei redeg gan yr RSPB, lle mae pobl yn cyfri’r fath a’r niferoedd o adar sydd yn dod i’r ardd neu i barc leol dros awr,  Er bod amrywiaeth o adar yn ymweld â’r ardd trwy’r blwyddyn, dwi wedi darganfod dros y blynyddoedd bod llawer ddim yn dod pan dwi’n cyfri fel hyn.

Doedd heddiw ddim yn wahannol iawn.  Roedd o’n well na’r amser welais i ddim byd.  Heddiw, gwelais 2 ddrudwy, 1 robin goch, 2 fwyalchen, 2 titw tomos las, a 2 llwyd y gwrych.  Dim byd arall yn dod i fewn i’r ardd dros yr awr dan sylw.



Ond mi wnes i wneud nodyn o’r adar a welais ben bore wrth cerdded y ci.  Dyma’r rhestr:
corhedydd y waun; titw tomos las, titw mawr, brân, crëyr las; gwylanod ben ddu, jac y do, siglen fraith, drudwy, nocell werdd, hwyaid gwyllt, ji-binc  a glas y dorlan.


Mae ’na ddigon o fywyd gwyllt o gwmpas os dach chi’n edrych, er weithiau mae ’na aderyn dwi ddim yn gweld am sbel, fel glas y dorlan - ac yn aml, chwibio heidio bydd yr aderyn.  Dim ond ychydig o flynyddoedd yn ôl wnes i ddysgu bod adar yn symyd o gwmpas tŷ fewn i’r wlad o dymor i dymor.  Felly mae aderyn fel corhedydd y waun, aderyn sydd yn gwneud i fi feddwl am dir uchel fel corsdir, yn dod i lawr o’r ucheldiroedd yn y gaeaf.  Mae rhai eraill un gwneud hyn hefyd, fel y gylfinir sydd weithiau yn symyd i lan y môr, ac y lleol, mae’r cornchwiglen yn symyd o’r caeau lle mae o’n nythu i ymyloedd y llynnoedd.  Y tro cyntaf i fi sylwi ar y corhedydd y waun yn y caeau dim rhy bell o’r tŷ, ron i wedi drysu, yn meddwl - mae’r rheina yn edrych fel corhedydd y waun, ond mae nhw yn y lle anghywir - ond na, mae nhw’n symyd yn y gaeaf.

Dan ni wedi bod yn ffodus iawn yn fama gyda’r tywydd: mae bron bob dydd wedi bod yn sych (ac yn aml yn heulog) am wythnosau, er iddi fod yn oer a rhewllyd weithiau ac yn bwrw dros nos yn aml.  Felly dwi wedi bod yn cymryd mantais a wedi bod allan ar y comin, yn y warchodfa natur, ac wrth y llyn i weld be sydd o’r gwmpas.  A’r gorau oedd gweld coch y berllan (dim aderyn dan ni’n gweld yn aml o gwmpas fan hyn, o gwbl) a dwy garw mwntjac.  Dydy’r rhain ddim yn brin yn fama, (dwi ddim yn meddwl) ond mae nhw’n swil.

Saturday 24 January 2015

Beicio,, rhaglen Dewi Llwyd a Bethan Gwanas

Un fantais mawr o decnoleg pan 'dach chi eisio cael gafael ar y Gymraeg yn Lloegr ydy'r bodolaeth o amrywiaeth o bodlediau Radio Cymru - ac os dach chi'n beicio i'r gwaith fel ydw i, cyfle ardderchog i gadw i fynny gyda'r Cymraeg. Un rhaglen dwi'n gwrando arno yn aml ydy rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul - dwi'n hoff o'r cymysgiad o bethau gwleidyddol, ddiwyllianol a hefyd gwrando ar y cyfweliad gyda'r gwesteion.  Wrth dod adref ar noson dywyll, oer, nos Iau, roedd bleser arbennig i ddod: Bethan Gwanas oedd y gwestai.

Mae Bethan Gwanas wedi bod yn ddylanwad pwysig arna i ers i fi ddechrau ailddysgu.  Wrth siarad â Dewi roedd hi'n dangos ei hangerdd tuag at lyfrau yn gyffredinol ac yn son am y ffordd mae hi wedi bod yn brwydro i gael fwy o ddarllenwyr Cymraeg i ddarllen yn y Gymraeg, ar ôl sylwi nad oedd ei ffrindiau yn darllen llyfrau Cymraeg.  Pan ddes i yn ol i'r Gymraeg, yr unig llyfrau ro'n yn cofio darllen pan yn blentyn oedd Llyfr Mawr y Plant (yn ôl fy nghof i roedd copi yn bron bob un tŷ yn yr ardal), ac O Law i Law, llyfr a ddarllenais yn yr ysgol, ond doeddwn ddim yn cofio dim byd am y llyfr honno.  Felly ar ol dechrau gyda lyfrau i ddysgwyr, roedd llyfrau Bethan yn lle wych i ddechrau ar llyfrau Cymraeg.  A dwi wedi parhau i ddarllen ei llyfrau hi trwy'r blynyddoedd.  Dwei'n eitha sicr fy mod i wedi darllen bob un (yn cynnwys llyfrau i blant, hefyd: dwi wastad wedi hoffi darllen llyfrau plant, a mae llyfrau Bethan yn arbennig o dda).

Felly, dwi'n gobeithio'n wir bod ei llyfrau wedi dod a darllen i'r rhai and oedd yn darllen llyfrau Cymraeg, ac yn edrych ymlaen i'r llyfr nesaf!

Monday 19 January 2015

Gwneud dipyn bach yn yr ardd

O’r diwedd dwi wedi dechrau gweithio ar yr ardd (ond dipyn bach…)  Er ein bod ni ddim wedi dioddef o dywydd drwg yn ystod y dydd (dim eira, a mae hi wedi bod yn sych, hyd yn oed heulog) mae hi wedi bod yn oer iawn ac yn wlyb ofnadwy dan draed (ar ôl yr holl glaw sy’n dod yn y nos).  Felly dwi ddim wedi teimlo fel gwneud llawer yn yr ardd, i ddweud y gwir - well mynd am dro a cadw’n gynnes.

Ond mae rhaid meddwl am archeb hadau ar gyfer y tymor garddio newydd (ar ol  gweld pa hadau sydd ar ôl yn y bocs), ac i gael mafon yn hwyrach yn y blwyddyn, rhaid tocio’r mafon sydd yn ffrwytho yn y hydref.  Felly dyna tasg bach dwi bron wedi gorffen.






A hyd y oed ym mis Ionwar mae rhai pethau yn blodeuo yn yr ardd  fel y "Japanese quince" gwyn yn y llun sydd yn blodeuo ym mis Ionwar ac yr erlysiau wedi bod allan am ryw wythnos rwan hefyd.

Friday 16 January 2015

Yn ôl yn Lloegr gyda fy llyfrau


Dipyn o newid, mynd yn ôl  i’r gwaith wythnos diwethaf ar ol gwyliau hir dros y Dolig – hirach nac arfer ar ol cymryd wythnos o wyliau i fynd i’r Ysgol Galan.  Ond, wrth dod yn ôl i’r byd Saesneg, gan fod y tywydd digon dda (yn ystod y dydd, beth bynnag) i feicio i’r gwaith, dyma’r cyfle i ddal i fynny gyda’r podlediau.  Ac ar y bedwarydd o Ionawr, Llwyd Owen oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd: mae’r podlediau o’r rhaglen ar gael yn fama 

Dwi wastad wedi mwynhau llyfrau Llwyd Owen, ers i fi ddarllen Mr Blaidd (felly mae o’n amlwg nad ydw wedi darllen eu lyfrau yn y trefn cywir: wrth weld y rhestr, death tair nofel cyn honno).  R’on wedi prynu Y Ddyled yn barod, a mi roedd yn aros amdanaf ar y bwrdd ger y gwely, felly gwych roedd cael clywed bod Llwyd Owen yn meddwl mai hon, falle, ydy’r gorau.

Ond cyn dechrau ar Y Ddyled, mi wnes i ddarllen Sais: un o’r llyfrau a phrynais yng Nghaernarfon: nofel can Alun Cobb.  Dwi wedi mwynhau llyfrau Alun Cobb, hefyd, a roedd hwn yn sownio’n ddiddorl.  Ac yn wir i chi, mae o’n wych!  Stori o fewn stori ydy o, gyda’r nofelydd ei hyn yn brif gymeriad.  Ar ol i Alun sgwennu nofel o’r enw Sais, lle mae llofruddiaeth yn digwydd, mae llofruddiaeth ‘copycat’, yn digwydd yn y byd go-iawn (yn y nofel, beth bynnag) ac Alun sydd dan ddrwgdybiaeth, am sbel, beth bynnag.  Mae (o leia) dwy stori yn rhedeg ochr ar ochr yn y nofel yma: fel mae o’n dweud ar y clawr, “stori o fewn nofel, o fewn nofel ac Alun Cob yn eich tywys ymhellach i mewn i grombil y cwlwm tywyll.”  Yn sicr mi ges fy nhynnu i fewn ac yn cael hi’n annodd i roi’r llyfr i lawr.  Nofel ddyfeisgar iawn: y gorau eto, yn fy marn i.

Felly dwi wedi cael sbel dda iawn gyda llyfrau yn ddiweddar.  Fel dwedais yn y blog diwethaf, roedd "Dan Ddylanwad" yn wych hefyd: dwi ond wedi darllen tamaid bach o’r Ddyled hyd at hyn, dwi’n edrych ymlaen at ddarllen y weddill.

Monday 12 January 2015

Yr ysgol galan rhan 2: tywydd garw a hwyl fawr

Parhaodd fy ymweliad i Gaernarfon a Fangor i fod yn wych.  Dwi ddim yn aros ym Mangor pan dwi’n mynd: dwi’n adnabod Caernarfon llawer gwell, a mae o’n hawdd iawn os dwi’n aros yn stryd yr Eglwys i bicio I fewn I’r Black Boy am bryd o fwyd neu wydriad o win…neu i un o’r tai bwyta eraill.  Ond cyn gwneud hynny roeddwn i isio ymweld a Palas Print.  ‘Roedd tocyn llyfrau yn llosgi twll yn fy mhoded.  A dyna be wnes i.  Mi faswn wedi medru prynu GYMAINT o lyfrau – mae sawl llyfr ar fy rhestr  - felly sut i ddewis?  Yn y diwedd, prynais nofel newydd Manon Steffan Ros, Llanw, a llyfr diwethaf Alun Cobb, “Sais”:  
doedd llyfr Russell Jones a Jen “O’r egin i’r Gegin” ddim ar fy rhestr o gwbl – a mae gen i lwyth o lyfrau garddio a choginio, ond rywsut mi wnaeth o fy hudo….. Dwi AM brynu hunangofiant John Davies, “Fy Hanes i”, ond unwaith r’oeddwn wedi prynu Dan ddylanwad gan John Alun Griffiths doedd dim digon lle yn fy mag, y tro yma (ar ôl prynu un neu ddau (neu fwy….)  lyfr ail-law hefyd yn siop elusen yr ambiwlans awyr).

Ond be am y cwrs? Ar yr ail fore, cawsom Ifor ap Glyn yn trafod ei farddoniaeth gyda ni.  Fel mae hi’n digwydd, yn ystod yr Ysgol Galan pedair mlynedd yn ôl mi ges i fy gyflwyno i farddoniaeth Ifor ap Glyn.  Clywais oddiwrth un o’r myfyrwyr eraill bod Oxfam yn Bangor yn lle da am lyfrau Cymraeg ac yn 2011, prynais lwyth o lyfrau yn cynnwys copi o “Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah”.  Wyddwn i ddim am yr awdur.  (Er fy mod wedi gweld Ifor yn clyflwyno rhaglenni ar y teledu, wyddwn i ddim pryd hynny ei fod hefyd yn sgwennu barddoniaeth).  Ond mwynhais rhai o’r cerddi yn fawr iawn a dwi wedi mynd ymlaen i brynu lyfr arall (heb fod yn ail-law!).  Beth bynnag, bore Mercher diwethaf gnwaethon ni drafod y cerdd “Hwiangerdd”, sydd yn drist, a wedyn cerdd mwy ysgafn a chafodd ei gyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth, gan sôn am y rheolau o gynghaneddu yn yr ail gerdd.  Diddorol dros ben.

A wedi prynu Dan ddylanwad, dwi wedi ei orffen.  Llyfr ardderchog.  Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi darllen llyfrau John Alun Griffiths o’r blaen, felly mae ‘na ddau arall yn y gyfrol yn aros amdanaf.  Gwych!

A mi roedd yn dda cael llyfr da gyda fi, oherwydd erbyn gyda’r nos mi roedd y tywydd yn ofnadwy.  Dyma be oedd i'w gweld o'r ffenest yn y Gwely a Brecwast - dydy'r llun ddim yn dda - ond dach chi'n cael y syniad!



A felly be’ arall oedd i’w gwneud on swatio yn y Black Boy i gael rywbeth i fwyta ac yfed o flaen y tan gyda’r llyfr?


Friday 9 January 2015

Ysgol Galan rhan 1


Wel mi ddois yn ôl ddoe o Fangor ar ol treulio 3 diwrnod yn yr Ysgol Galan.  Dyma’r trydydd tro i fi fynd - a mi oedd yn ardderchog, fel arfer. Dosbarth o 15, reit fawr, ond ein tiwtor Eleri yn wych: hi oedd y tiwtor pan es i o’r blaen, a dwi’n hoffi dysgu gyda hi gymaint.   Felly, pa fath o bethau wnaethon ni?  Dechrau gyda gwylio rhan o raglen Heno a oedd yn edrych yn ol dros 2014 ac ymlaen i 2015 a siarad â’n gilydd, am ei disgwyliadau ni.  Mae Eleri yn fywiog, yn gwneud amrywiaeth o bethau ac yn llwyddo i gael ddigon o siarad gwrando a gwylio ymysg y dosbarth.

Roedd rhywfaint o drafod erthygl yn sôn am lwybr weddol newydd o Ryd-Ddu i Feddgelert, hefyd: Lôn Gwyrfai.  Rhed y lwybr yma o Ryd Ddy at Lyn y Gadair - tua 4.5 milltir un ffordd, ond mae o’n bosib gwneud taith llai, ac wrth gwrs bydd o'n bosib greu cylchdaith trwy ddefnyddio’r gwasanaeth bws, neu Reilffordd Eryri i ddod â chi yn ôl i’r dechrau. Roedd Angharad Tomos wedi sgwenu erthygl am y llwybr yn yr Herald Gymraeg (yn y Daily Post) yn ol ym mis Mawrth llynedd - a mae hi’n sôn am yr amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt yma, yn cynnwys dyfrgi, torgoch yr Artig a phibydd y dorlan. Mae o’n sownio’n wych ac yn hawdd gwneud os dach chi wedi dod ar y trên, fel dwi’n arfer gwneud.  Gwell mynd ar ddyd braf, swn i’n dweud.

Ac yn wir, roedd dydd cyntaf y cwrs yn ddigon heulog. Mi es o’r brifysgol i lawr tuag at lan Menai yn ystod amser cinio, (dyna lle tynnais y llun o'r cerflun coed).  Braf gweld y Fenai, a'r eithin yn blodeuo.



Ac ar ddiwedd y prynhawn, mi es i’r Roman Camp lleoliad bron yng nghanol Bangor.  Dwi ddim wedi bod yna o’r blaen, ond hyd yn oed yn y gaeaf, a’r llwybrau yn wlyb ofnadwy, roedd yr olygfa yn fendigedig, a chlywed swn y gylfinir a phioden y môr yn wych.




Sunday 4 January 2015

Dechrau 2015



Dwi wedi cael Blwyddyn Newydd gyda ffocws ar Natur eleni.  Ar ddydd Galan, es am dro o gwmpas ein llyn “Willen”.  Llyn wedi ei creu fel “balancing lake” pan adeiladwyd Milton Keynes.  Mae ‘na sawl llyn fel yna yma.  Y peth da am Willen – a dwi’n meddwl bod hyn yn wir am y llynnoedd eraill, ydy ei bod yn denu bob math o fywyd gwyllt.  Beth bynnag, roedd bore dydd Iau yn wyntog a chymylog, ond dydy’r llyn ddim yn bell – rhyw ddwy a hanner filltir.  Felly es ar y beic. 

Roedd digon o hwyiaid fel arfer, a gan fy mod wedi penderfynnu cadw rhestr o beth dwi’n gweld eleni, rhois y rhestr ar fy mlog natur Saesneg, yn famma –  blog dwi ddim wedi bod yn cadw i fynny.  Ond y peth gorau, yn sicr, oedd gweld rhegen y dŵr (neu rhegen y gors); aderyn swil iawn.  Dwi ddim yn meddwl ei fod yn anghyffredin ond dydy o ddim yn hawdd i’w gweld.  Ac aderyn arall  mi wnes i hoffi weld oedd sneipen neu gïach.  Mae hon yn aderyn hardd iawn.  Dwi wedi gweld nhw ar y comin pan mae o’n wlyb.

Dwi ddim wedi dechrau yn yr ardd eto eleni – ond mi ffeindiais copi o’r llyfr yma, ail-law:


llyfr i gadw nodiadau – rhyw fath o ddyddiadur.  Dwi wedi defnyddio’r un llyfr ddwywaith o’r blaen a mae o’n ffordd dda o medru edrych yn ol i weld sut oedd pethau yr un adeg o’r mis y flwyddyn gynt.

Ond yn y dyfodol agos, Cymraeg sydd ar y frig.  Dwi am fynd i aros yng Nghaernarfon ‘fory i ymuno at cwrs Cymraeg ym Mrhifysgol Bangor.  Dwi’n edrych ymlaen, a fel arfer, yn gobeithio gwella fy Nghymraeg.