Ailddysgu

Sunday 28 June 2015

Yn ol yn yr ardd: mafon

Daethon yn ol, neithiwr, ar ol bron wythnos i ffwrdd yn Besançon, yn Ffrainc.  (Dinas gwych, hardd, gyda ymrwymiad i bio-diversity.  Ac efalla bydd mwy am Besancon yn y man).  Fel unryw arddwr, roeddwn yn gobeithio bod yr ardd mewn cyflwr da wrth dod yn ol, enwedig ar ol tywydd sych.  Doedd dim eisio poeni.  Roedd fy mab wedi gwneyd yn dda gyda'r tŷ gwydr, a popeth yn edrych yn iawn.  Tra yn Besançon, roedd rhaid (!) mynd i un neu ddau Boulangerie, i weld be oedd yna, a blasu'r  cynnyrch.  Un peth prynais oedd 'Tartelette Froamboise' (dwi'n meddwl dyna roedd yr enw).

Dyma rhai o'r cynnyrch ar gael:



A dyma be brynis i:


Mi lwyddais i gymryd llun cyn sglaffio fo.  Mi roedd hi mor dda - a dim rhy felus.  Dwi erioed wedi pobi tarten fel 'ma - ond mae bwyta hon wedi rhoi ysbtydoliaeth - a falle mi fyddaf yn trio cael riseit a gweld sut bydd ein mafon ni yn blasu wedi eu rhoi mewn tarten fel hyn.  Dydy nhw ddim mor dda eleni - mae'r tywydd wedi bod mor sych, ond mae na ddigon ar gael i drio gyda tarten bach, os gai amser.

Saturday 20 June 2015

Dim llawer o amser i flogio yn ddiweddar, felly dyma ychydig o luniau.  


Cyw gŵydd Canada, dim yn bell o’r gwaith. Mynd heibio nhw ar y beic….dwi ddim yn or-hoff o’r gŵyddau yma, ond mae’r cywion yn ddel iawn.  


A dyma robin goch yn yr ardd, neithiwr.  Daeth hwn (neu hon) yn weddol agos tra roedden ni yn bwyta cinio.     


Dyma aderyn arall sydd yn byw yn yr ardd - llwyd y gwrych.  Dwi’n meddwl bod nyth yma ond dwi ddim wedi ei weld o - eto beth bynnag.

Yn y perllan mae rhai o’r coed yn edrych yn iach, ac y ffrwythau yn dod.


ond dydy eraill, fel hon, ddim yn edrych mor dda.  Mae o wedi bod yn sych iawn - a falle os dan ni’n cael dipyn o law, bydd hi’n gwella


Monday 8 June 2015

Methiant… a llwyddiant

Yn yr ardd, mae o wedi bod yn wanwyn anodd. Oer a gwyntog, tan ddiweddar.  A’r pridd yn cael ei sychu gan y gwynt, hyd yn oed ar ol gawodydd drwm.  Felly, dyma sut mae’r panas yn edrych:


Dim un wedi dod i fynny - a dwi wedi gwasgaru’r hadau o leiau ddwywaith, efallai mwy….
Dydy’r ffa ddim llawer gwell, ond ambell un wedi dod i fynny.  Ond mae’r planhigion a aeth i fewn yn yr hydref, neu yn gynar, yn wneud yn dda: y nionod, a’r ffa llydan a’r sialots.  





Rhois gynnig ar flodfresych eleni hefyd - a roedd y planhigion yn wneud yn dda am ychydig o ddydiau, tan i’r sguthanod fwyta nhw.  Mae par o’r adar yma wastad  yn yr ardd, a mae nhw yn bwyta fel d’wn i’m be - mae rhaid rhoi rhwyd ar bopeth fel bresych ac yn y blaen.

Dwi wedi cael wythnos brysur a hyfryd gyda ffrind a oedd draw o America, ac un o uchafbwyntiad yr wythnos oedd mynd i Otmoor - gwarchodfa RSPB ddim rhy bell o Rydychen, felly ryw awr i ffwrdd i ni.  Dwi erioed wedi bod o’r blaen, a mae o’n le hyfryd iawn, a heddychol.  Un o’r adar gyntaf i ni weld oedd y turtur.  Mae hon ar y rhestr goch: un o’r adar lle mae’r niferoedd wedi gostwng yn ofnadwy.  Dwi erioed wedi gweld un o’r blaen.  Dyma rhai luniau, yn cynnwys rhai o’r turtur a'r bod y gwerni (marsh harrier) - ond mae rhain braidd yn bell i ffwrdd.



 

Labels: , , ,