Ailddysgu

Monday 25 May 2015

Gwyfynod Gwych

Mi es i’r gwarchodfa bore  ddoe, a mi wnes i gyfarfod gyda un o’r naturiaethwyr sydd yn arbennigwr mewn gwyfynod – felly es efo fo pan oedd yn edrych i weld be oedd wedi dod i’r trapiau gwyfynod dros nos.  Mi wnes i synnu i weld pa mor hardd roedd rhai ohonyn nhw – fel  y cathfwyn yma:


Dim lliwiau arbennig, ond patrymau diddorol a prydferth.  Dyma un arall hardd – y brychan gwyrdd:


a dyma un arall diddorol – dwi’n meddwl mai gwalchwyfyn y poplys ydy hwn – poplar hawkmoth:


Ac i orffen, un a oedd yn edrych yn union fel darn o bren bach – a dwi wedi anghofio ei enw!


A wedyn yn ol i’r ardd, cyn i’r glaw dechrau……..

Mae mis Mai wedi bod yn hyfryd yn yr ardd; yr unig broblem ydy’r tymheroedd.  Mae o wedi bod yn oer yn ddiweddar.  Serch hynny, mae’r blodau yn edrych yn dda, o hyd, ac y llysiau yn dod ymlaen hefyd rŵan.  Dyma rhai luniau ddiweddar.





Mae’n amser i gael bopeth sydd am tyfu eleni i fewn,  a dwi’n meddwl fy mod i wedi llwyddo gyda’r rhan fwyaf, er bod planhigion fel courgettes  yn dechrau eu bywydau yn y ty gwydr, fel bod nhw’n cael eu gwarchod rhag y malwod, ac yr un peth gyda’r squashes.  A fel gwelir isod, o'r diwedd dwi wedi rhoi'r tomatos yn ei lle yn y tŷ gwydr: dwi wedi bod yn defnyddio y quadgrow, sydd i'w weld yn y llun isod a sydd wedi bod yn ardderchog



Dwi’n edrych ymlaen at y ffa llydan, sydd bron yn barod, a’r rhain bydd y llysiau gyntaf i ni cael bwyta eleni, ar wahan i’r planhigion salad.

3 Comments:

At 26 May 2015 at 12:44 , Blogger Wilias said...

Maen nhw YN wych, yn arbennig y gwalchwyfyn. Mae'r Fechan wedi bod yn gofyn i mi roi'r lamp gwyfynnod allan wsos yma hefyd, ond mae'r tywydd mor anwadal...

 
At 27 May 2015 at 02:21 , Blogger Ann Jones said...

Yn fama mae'r gywydd wedi gwella dipyn o'r diwedd a'r tymheroedd wedi codi dipyn - a felly mae digon o wyfynod o gwmpas - falle bydd y tywydd gwell yn dod i Stiniog yn fuan hefyd!

 
At 28 May 2015 at 00:36 , Blogger Jan said...

Ardderchog, Ann! Ti wedi dynnu rhai lluniau ddiderol ac dy ardd di edrych godedog!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home