Ailddysgu

Tuesday 28 April 2015

Yn yr ardd

Dwi wedi llwyddo i wneud dipyn yn yr ardd yn ddiweddar, ond doeddwn i ddim yn disgwyl gorfod dyfrio ym mis Ebrill! Mae o wedi bod yn fis sych ofnadwy yn yr ardal yma,  a dwi wedi gorfod rhoi dŵr i’r mefys a oedd wedi cael ei twtio a chwyno; y sialóts, y nionod, a’r coeden newydd (morwydden - mulberry). Mae coed newydd yn fregus yn y flynyddoedd gyntaf.  Hyd yn oed ar ôl ychydig o flynyddoedd mae’n bosib colli coed mewn tymor sych.  Dwi’n hoff iawn o’r bedwen ond bu farw’r un yn yr ardd ar ol cyfnod sych, a felly dwi’n ofalus iawn gyda’r fedwen newydd, sydd bellach yn dair oed.

Mae blodau y coed ffrwythau wedi bod yn arbenning eleni - a gobeithio bydd y ffrwythau’n dda hefyd.  Dyma rhai luniau o’r blodau - rhai yn dechrau a rhai yn gorffen……


Dyma'r afal Bramley yn decrau blodeuo


A dyma flodau sydd yn gorffen - ar yr eirin dwi'n meddwl


A dyma gellyg bach bach yn dechrau ffurddio


Felly edrych ymlaen i'r ffrwythau

Monday 20 April 2015

Y Gardd a’r Gegin: riwbob a sbigoglys

Yn aml, os dwi’n coginio, mae be sydd ar y plât yn cael ei yrru gan be sydd yn yr ardd – yn enwedig os oes digonedd o rywbeth, neu’r cnwd gyntaf….
Yr amser yma o’r flwyddyn, does na ddim gymaint yn ein gardd nac yn y tŷ gwydr.  Ar ol blwyddyn ddrwg i’r cenin llynedd, be sydd ar gael ar y funud ydy:
dail ar gyfed salad – o’r tŷ gwydr;
sbigoglys (yn dod I’r diwedd) spinach beet ydy o i fod yn gywir
a riwbob

Mi ges i fy ysbrydoli gan flog Paul - Ar Asgwrn y Graig (wastad yn werth ddarllen) – a’r rhaglen “Cegin Bryn” y cymerodd rhan ynddo fo.  Doeddwn I ddim wedi sylwyddoli ei fod o’n bosib gwneud gymaint gyda riwbob!  Mae’n hawdd I dyfu.  Dwi ond yn rhoi dipyn o gompost neu tail arno fo o bryd I’w gilydd a dim yn ei torri ar ol canol yr haf a mae o fel y boi.  Efalla wnai drio’r jîn bellach ymlaen – mi roedd o’i weld yn hawdd!  Ond ar y funud dwi’n ol i ryseit hawdd a blasus o hen lyfr Rose Elliott (Vegetarian Meals in Minutes).  Dim llawer o gynhwysion ond yn hyfryd gyda hufen neu iogwrt:



A mae’r sbigoglys yn dod I ben, a felly dwi wedi bod yn casglu’r dail ac y trio meddwl be i’w gwneud efo nhw.  Neithiwr mi es yn ol i’r hen lyfr Cranks a gwneud tatws wedi pobi gyda caws, hufen a sbigoglys – mae o’n cymryd dipyn fwy o amser na fel arfer pan dach chi’n pobi tatws, achos mae rhaid tynnu’r taten allan o’r croen  a cymysgu o gyda’r caws, sbigoglys a hufen, cyn rhoi yn ol i’r popty. 



A gan for betys ar gael ar y farchnad a coriander yn y tŷ gwydr mi wnes salad betys gyda salsa coriander a tomato hefyd.

Sunday 12 April 2015

Arfordir Sir Benfro - rhan 1

Penwythnos yn  yr ardd ar ol dod adre o arfordir Sir Benfro.   A mor lwcus gyda'r tywydd!  Dyma’r trydydd tro i’r grŵp cerdded ar lwybr yr arfordir.  Tro yma, yn cychwyn yn ymyl Solfa, lle wnaethon ni orffen tro diwethaf.  Doeddwn i ddim yn medru cerdded bob dydd o le i le fel arfer, ond beth bynnag, ges i hwyl, ac erbyn dydd Iau, dydd pedwar, llwyddais i gerdded 7 milltir, mewn tameidiau bach. Ond gan na fod i'n medru cerdded gymaint, treuliais amser yn crwydro o gwmpas gyda'r camera a'r spindrych.


Felly dyma ychydig o luniau o adar yr arfordir a gerllaw.  Yn Nhŷ Ddewi, y brain biai hi: ydfrain yn nythu yn agos i lle roedden yn aros (ond dim rhy agos…); sawl jac-y-dô o gwmpas y dre, ac yn nythu yn Llys yr Esgob Tyddewi.  Ar yr arfordir ei hun, cigfrain, a’r brain goesgoch ar ynys Ddewi.  Hyfryd, hefyd, oedd gweld adar bach and ydym yn gweld  yn fama, fel y llinos, a’r ’crec penddu’r eithin' (yn ol Geiriadur Prifysgol Bangor - ond mi wn bod na o leia un enw arall sy’n well, ond fedra i ddim cofio honno ar y funud).  Felly dyma ychydig o luniau:

 y llinos...


Clegar yr eithin, dwi'n meddwl, rŵan ydy'r enw arall…?

Y cigfran
a roedd y rhain ym mhobman!

Sunday 5 April 2015

Paratoi am drip bach

Mae'n amser y taith cerdded eto.  Y tro yma bydd ein grwp bach yn cerdded ymlaen ar y llwybr arfordirol Sir Benfro o Solfa, lle cyrrhaeddon ni llynedd.  Ond, eleni. mi fyddaf i ddim yn cerdded.  Rhywsut, dwi wedi newidio cyhyr yn fy nghlun, ac o ganlyniad, mae'r pelfis yn dynn iawn, a mae cerdded yn brifo - ac yn gwneud yr holl beth yn waeth.

Gan fy mod mor hoff o gerdded, mae hyn yn drueni, ond, mewn gobaith, talais am y tren ac am y gwely a brecwast, yn meddwl  baswn wedi gwella erbyn hyn.  Ond na, dydy o ddim.  Mae'r  meddyg esgyrn (y gair am osteophath yn ol Geiriadur Bangor yn meddwl bydd o yn medru helpu ond ar y funud, bydd na ddim cerdded ar yr arfordir.  Ond ar ol meddwl am y peth, dwi am fynd beth bynnag, ac yn lle cerdded, mi wnai botsian o gwmpas gyda'r camera a'r spindrych, a darllen.  Dan ni'n aros yn Nhy Ddewi i ddechrau, felly dwi'n gobeithio mynd i ynys Dewi i wylio'r adar mor.  A mae hunangofiant John Davies yn mynd hefo fi!