Ailddysgu

Tuesday 29 April 2014

Be dwi'n darllen ar hyn o bryd

Nodyn fach am lyfrau.  Dwi bron wedi gorffen "Ar Lan y Mor, mae....." gan John Gwynne.  Nofel gyntaf, ditectif, a fel dach chi'n gwybod os dach chi'n darllen y blog yma, dwi'n hoff iawn o lyfrau directif - yn y Gymraeg neu Saesneg.  Mi wnaeth y stori fy nghydio, do, a dwi wedi mwynhau ei ddarllen o, yr unig peth doedd ddim yn gweithio mor dda, yn fy marn i, oedd sut oedd y stori 'ramant' yn cael ei drin ar ddiwedd y llyfr.   I fi, fase'r llyfr yn gweithio'n well, os fase fo wedi gorffen rhyw dudalenau yn gynt.  Ond mi fyddaf yn darllen ei lyfr nesaf, yn sicr.

A gyda'r llyfr yma, a ddaeth o'r siop "Palas Prints" yng Nghaernarfon (yn gyflym trwy'r post, fel arfer) mi roedd llyfr arall trwchus, gan Gareth Williams, un o fy holl awduron.  Awst yn Anogia ydy hwn, a dwi'n edrych ymlaen at ei ddarllen, yn enwedig ar ol darllen blog diweddar Bethan Gwanas

Sunday 27 April 2014

Pysgota


Mae rhai o fy ymarferion gyda’r camera yn cymryd lle o’r bont ty allan i’r dre, o ble, os ydw i’n ffodus, dwi’n medru gweld creÿr glas yn pysgota, a hefyd y creÿr fach wen.  Mae gan y greÿr las lle annwyl yn fy nghalon.  O fy nhŷ, yng Nghaernarfon, ers stalwm, roedd o’n bosib, reit aml, gweld creÿr las yn pysgota.  Ond ymwelwyr  mwy ddiweddar ydy’r creÿr bach .  Mi roedd o yn byw yn Ffrainc ond dim fama.  Ond yn raddol mi ddaeth yn nes, a rŵan mae nhw’n nythu yma. Felly dyma llun o’r creÿr las a welais bore yma.



A dyma llun o’r creÿr bach , o benwythnos diwethaf.  Mae o’n edrych fel ei fod o’n ddu a gwyn - oherwydd y glaw a diffyg digon golau dwi’n meddwl.


Aderyn arall sydd newydd wedi ddychwelyd ydy'r gwennol y bondo, sydd yn nythu mewn rhai llefydd yn y dref. Ond dim son am y wennol eto.

Friday 25 April 2014

Bore Sadwrn: Galwad Cynnar


Mae o wedi dod yn arfar bore Sadwrn erbyn hyn.  Mae’r hen gi yn fy neffro fi ryw hanner awr wedi chwech (braidd yn gynnar, yn fy marn i...) a dwi’n dod i lawr y grisiau, gwneud paned a gwrando ar Galwad Cynnar ar radio Cymru- a pan mae’r rhaglen wedi gorffen, mae o’n amser mynd am dro.

Bore ’ma mae cofnododd o’r gog yn canu mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru.  Yn Nghymru glywais i’r gog y tro gyntaf eleni - tra cerdded ar hyd arfordir Sir Benfro.  Ond hefyd mi glwyais y gog wythnos diwethaf hefyd - dim rhy bell o’n dre ni, mi ro’n yn medru ei glywed dros y caeau pan o’n i allan gyda’r ci.  Dwi’n cofio gweld saith gog (ia, saith!) blynyddoedd a blynyddoedd yn ôl, mewn dyffryn yng Ngogledd Cymru (dwi ddim yn cofio yn union lle roedden ni - r’oedden ni wedi mynd am bythefnos o gerdded).  Dwi’n meddwl fase hynny’n beth brin iawn, heddiw, gyda’r niferau yn gostwng.  Beth bynnag, yn fama, os dan ni’n lwcus, dan ni’n ei glywed o unwiath neu ddwywaith y flwyddyn, a dyna fo.  Ac wrth sôn am adar fudol, dan ni ddim wedi gweld gwenoliaid yma o gwbl eto eleni: eto, mi welais nhw yng Nghymru ond rywsut, dydyn nhw ddim wedi gwneud y siwrna i fama eto.

Mae Galwad Cynnar yn ffefryn erbyn rŵan: gymaint o wybodaeth a phethau ddidorol am bywyd gwyllt, natur a garddio hefyd, weithiau, a dechrau ardderchog i’r benwythnos.  Dydy’r adologyion am y tywydd ddim yn addawol, y penwythnos yma.  Dyma un o’n flodeuon yr afal goginio Bramley yn y glaw.  


Felly dwi’n disgwyl penwythnos o goginio (ffrindiau yn dod draw am bryd o fwyd heno) a darllen (gyda dipyn o waith yn y tŷ gwydr).....

Labels: , , ,

Wednesday 23 April 2014

Mwy o bethau Cymraeg yn MK: Georgia Ruth a'r "Stables"....

Mi ddois ar draws Georgia Ruth yng Gwyl Dewi Arall, yng Nghaernarfon, mis diwethaf.  Llais hyfryd a swynol, a caneuon "folk/blues"? - falle dipyn o "rock", hefyd.  Mae hi'n sgwennu ei cheneuon ei hyn, ond hefyd yn canu rhai bethau eraill, ac yn canu'r delyn.  Mae ei albwn gyntaf hi "Week of Pines" wedi cael adolygiadau da: dyma un gan Jasper Rees.  Mae'r "pines" yn y teitl yn yml NantGwrtheyrn.

Mae Georgia Ruth ar daith gerddorol ar y funud (be ydy "tour" yn Gymraeg?), a roedd y taith yn dechrau fama yn Milton Keynes, wir yr!  Dwi'n meddwl fy mod i wedi son am y Stables o'r blaen.  Fama mae Cleo Laine yn byw, y chantores enwog, a fam roedd Johnnie Dankworth hefyd, ei wr, cyn iddo fo farw ychydig o flynyddoedd yn ol.  Mae'r ddau wedi hybu cerddoriaeth ym Milton Keynes, ac yn ogystal a cynnal cyngherddi, mae'r "Stables" hefyd yn trefnu ysgolion haf, ac ysgolion undydd i blant ac oedolion.

Felly, now Fawrth, cawsom ginio yn y Stables cyn clywed a gweld Georgia Ruth.  Ac ia, roedd hi a'r band yn ardderchog.  Mae hi'n canu yn Gymraeg ac yn Saesneg - dipyn fwy o ganeuon Saesneg ar yr albwm. A mae digon o gyfleydd i chlywed ei chaneuon os dach chi'n chwilio am Week of Pines neu ei henw hi ar y we.

Heno dan ni'n cael cyfarfod o'n cylch siarad Cymraeg - felly wythnos digon Gymraeg.  Mae o'n bosib byw rywfaint trwy'r Gymraeg, ar adegau, beth bynnag yma.  Dwi'n edrych ymlaen at heno, felly.

Labels: , , , , ,

Sunday 20 April 2014

Mwy o'r arfordir


Roedden yn ffodus iawn gyda’r tywydd tra’n cerdded ar yr arfordir, a rŵan mae hi’n stidio bwrw - sydd ddim yn beth ddrwg, oherwydd coelio neu beudio. mae’r ardd wedi sychu yn ofnadwy dros y bythefnos diwethaf.

Felly gyda’r glaw yn disgyn, a dim modd rhoi’r tatws i mewn, dyma amser dda i drio gofio a ddysgu enwa’r adar a welson wrth gerdded ar arfordir Sir Benfro.  I ddechrau, dyma’r olygfa o’r gwesty yn “Little Haven“ - wel, uwchben i ddweud y gwir.  Dwi ddim yn meddwl faswn i byth yn blino am olygfa fel hyn.



Llynedd, mi welson ni’r hebog dramor uwchben y creigiau - ond dim smic eleni. Mae niferoedd yr hebog wedi cynyddu yn Sir Benfro, ond dydy’r cudyll coch ddim yn gwneud mor dda, gyda’r niferoedd yn gostwng - mae ’na adroddiad yn fama (dydyn nhwn ddim yn gwneud mor dda yn gyffredinol chwaith.  Serch hynny, gwelson ni sawl gudyll coch yn hela.   Mi roedd llawer o adar bach, hefyd.  Un dan ni ddim yn gweld yn lleol ydy’r llinos - a mi roedd digon ohonyn nhw.  Hefyd y llinos werdd, clochdar y cerrig (stonechat), a’r tinwen y garn hardd i’w gweld yn aml, yn ogystal a'r nico.  O’r llwybr uwchben y creigiau. roedden yn gweld yr aderyn drycain-y-graig, (fulmar) yn hedfan ar hyd y creigiau gyda’r adenydd mor syth .

Dwi’n hoffi mynd i aradaloedd a chynefinoedd gwahanol i weld y bywyd gwyllt gwahanol - ond mae o’n ddiddorol gweld be sydd yn gyffredin i bron bob man, hefyd.  O ran y gudyll goch, mae par yn hela ac yn nythu dim mor bell o’r fy nhŷ, felly dwi’n gobeithio cael lluniau - ond gawn ni weld! 

Thursday 17 April 2014

Arfordir Sir Benfro


Dyma ni eto, yn cerdded ar hyd yr arfordir. Mi gollais i ddiwrnod oherwydd 'byg' felly mi ddechreuiais I bore ma o Marloes a cherdded i Littlehaven. Diwrnod braf, haulog, gyda blodau gwyllt ym mhobman. A digon o fywyd gwyllt hefyd yn ogystal ag olygfeydd. Felly gweld y gwenoliaid gyntaf bore 'ma a digon o wahannol adar eraill, fel tin wen (wheatear?), yellow-hammer (be 'di'r Cymraeg tybed?, adar y mor fel piod y mor a 'fulmar' a'r gorau oedd y brain goes goch. Clywson y Gof hefyd. Dydy'r lluniau ddim rhy dda, ond dyma bell un o'r iPhone

Saturday 12 April 2014

Darllen a cherdded




O’r diwedd mi wnes i ffeindio Clwb Darllen Tudur Owen ar radio Cymru  – diolch i flog Bethan Gwanas – ond does dim point rhoi y ddolen oherwydd mae’r amser i wrando arno fo wedi mynd  heibio rŵan.  Y cynllun ydy cael y trafodiaeth (ar sioe Tudur Owen) unwaith y fis a hwn roedd y gyntaf.

Felly, er mwyn denu pobl nad oedd wedi arfer darllen llyfrau Cymraeg, sefydlwyd “Inc” gan Manon Steffan Ros, fel y llyfr: llyfr bach.   A dioch i flog Bethan eto, mi ges y wybodaeth a phrynais y llyfr.  Mi fwynhais y llyfr yn arw, fel roedd aelodau clwb darllen Tudur wedi gwneud.  Sail y llyfr ydi siop Tatŵ, lle mae Ows yn gweithio, a’r strwythr ydy’r dyddiadur mae Ows yn cadw, lle dan ni’n clywed am ei wraig, neu phartner, wedi ei adael, a sut mae o’n ymdopi gyda hynny. Trwy cyfarfod y pobl sydd yn dod i gael tatŵ, dan ni’n dod i ddallt rhywbeth amdanyn nhw, a pam mae nhw eisiau tatŵ.  Fel dywedodd rhywyn ar sioe Tudur, roedd strwythr y dyddiadur yn wych – ac yn meddwl doedd dim rhaid rhoi’r manylion i gyd.  A dwi’n cytuno bod darllen am y tatŵs yma fel petai yn agor drws I fyd arall hefyd.  (Pan welais bod y llyfr ynglyn a siop tatŵs, mi wnaeth fy nghalon suddo, ond mae o’n diddorol iawn).  Felly llyfr gwych, a dyma gweld ochr arall o Tudur Owen hefyd. A dan ni, yn y Clwb Darllen Llundain, yn darllen llyfr arall gan Manon, “Blasu“ ar y funud.  Felly mwy am Flasu i ddod.

Fel mae rhai ddarllenwyr yn gwybod, dwi’n mynd am daith gerdded bob blwyddyn gyda ffrindiau.  Ac eleni (fel llynedd) dan ni yng Nghymru, yn dilyn y llwynr arfordir yn Sir Benfro, felly mwy am hynny ar ol dod yn ôl.  Mi wnaethon daith ymarfer dydd Mawrth, o gwmpas Wendover, dydd hyfryd, a taith hyfryd, a dyma flas bach o’r coedwig lle roedden yn cerdded.


Labels: , , , ,

Sunday 6 April 2014

Y penwythnos

Ddoe mi roedd digwyddiad yn y gweithle - “Photolearn“ - y cliw yn yr enw, fel mae nhw’n dweud.  Doeddwn i ddim yn medru mynd yn y bore ond mi es yn y p’nawn, gyda fy nghamera.  Prynais y camera llynedd, yn gobeithio tynnu mwy o luniau o adar a.y.y.b: mae’r lens teleffoto yn dda iawn. Ond wrth gwrs, ar ôl dipyn o arbrofi, fel arfer dwi ond wedi defnyddio’r camera ar ’automatic’ .  Felly amser i ddechrau dysgu mwy am y camera a dechrau trio pethau allan.  A do, mi wnaeth mynd i Photolearn roi dipyn o hwb i fi a dwi wedi bod yn trio pethau newydd - tynnu lluniau agos o flodau a phlanigion, a dymau rhai o’r canlyniadau:



Rhan o gastanwydden ydi hon.  Dwi'm yn siwr am y llun yma i ddweud y gwir.  


Dwi'n hoffi'r un yma - un o'r pys yn dechrau blaguro


Ac yn ola - y coeden Amelanchier, yn dechrau blodeuo.

Hefyd dwi wedi bod yn trio gnweud dipyn bach yn yr ardd.  Dwi’n meddwl efalla na ddylwn i trio tyfu pŷs melys.  Mi wnes i ddechrau ryw dwy fis yn ôl gyda’r hadau - a wnaethon nhw ddechrau flaguro - ond y diwrnod wedyn, roedd y llygod wedi bwyta’r lot.  (Digwyddodd hyn yn y tŷ gwydr).  Mi es ati eto - yn trio cadw’r llygod i ffwrdd, ond yn amlwg mae nhw’n glyfar.  Wedyn trio eto - a’r tro yma, mi ddechreuais y pŷs yn y lloft spar - a llwyddo.  Ond pan ddois yn ôl pnawn ddoe, roedden nhwn i gyd ar draws y lle  - y tro yma, fy ngŵr wedi cael damwain bach.  Felly, heddiw prynais planhigion o’r canolfan garddio.

Mae’r pŷs ar gyfer bwyta yn dod i fynny yn yr ardd (gobeithio bod y llygod yn cadw draw: ond y tŷ gwydr ydy’r problem yn y bôn) a mae tri res o banas wedi mynd i fewn.  Gawn i weld be ddigwyddith gyda rhain - llynedd, wnaethon nhwn ddim byd o gwbl.