Ailddysgu

Sunday 28 December 2014

Fy milltir sgwar

Mae'r taith cerdded boreuol (os dwi ddim yn mynd i'r gwaith) fel arfer yn cynnwys y commin, hen fynwent  a wedyn llwybr ger yr afon.  Mae'r profiad yn gyfuniad o sawl beth:

1)  Yn gyntaf - ymarfer corff i fi ac i fo (er ei fod yn undeg pedwar, mae o’n cerdded am ryw awren yn y bore, a wedyn am ryw awr neu neu falle war a hanner neu ddwy yn y p’nawn ) 

2) Cyfle i weld beth sydd o gwmpas o ran bywyd gwyllt - adar fel arfer.  Os ydwi’n gweld  las y ddorlan, dwi wrth fy modd - ond dydy hynny ddim yn digwydd  rhy aml.  Ond dwi yn gweld y cudyll goch yn eitha aml a weithiau bwncath, ac os dwi’n ffodus iawn, iawn, barcud coch.  (A digon o adar eraill)

3) Cyfle i ddysgu mwy am tynnu lluniau ac am y camera, ac i ymarfer.  Mi brynais y camera dros blwyddyn yn ôl, ond dwi ddim wedi dysgu am hanner y pethau sydd ar gael.  Mae o’n cymryd amser.  Ond un peth dwi wedi sylwi ydy bod mynd a’r camera gyda fi yn gwneud i fi sylwi ar y byd o gwmpas yn fanwl.  Mi faswn yn hoffi tynnu llun da (mewn focws!) o’r cudyll coch - ac o’r las y ddorlan.  Ond dydy o ddim yn hawdd, hyd yn oed gyda lens teleffoto.  Felly dyma be dwi wedi llwyddo tynnu hyd at hyn:









Er bod yr aderyn ddim yn symud  lawer, doedd hi ddim yn agos iawn, ac yr un peth gyda’r cudyll coch, islaw.

Ond hyd yn oed os dwi ddim wedi llwyddo eto, mae o’n hwyl trio - a dwi wedi dysgu llawer wrth wylio’r adar, a’r golau gwych dan ni wedi cael yr adeg yma o’r flwyddyn.  Ac i orffen, dyma llun o hellebore yn y fynwent: “Christmas Rose“ yn Saesneg - er ei fod ddim yn blodeuo tan ar ôl Dolig fel arfer.  Ond tynnais y llun yma ar ddiwrnod Nadolig.


Monday 22 December 2014

Llyfrau i ddarllen dros y Nadolig ac yn y blwyddyn newydd

Ychydig o amser yn ol, roedd rhaglen Tudur Owen (ar radio Cymru) yn dod o’r siop llyfrau Palas Print yng Nghaernarfon.  Fel dwi wedi son o’r blaen, mae’r siop yma yn ardderchog - ac y hytrach na rhoi pres i Amazon (sydd ddim yn talu’r trethi y ddylen nhw a dim yn trin eu gweithwyr yn dda) dwi’n archeb llyfrau o Palas Print, trwy’r post.

Beth bynnag, dim syrpreis, ond roedd cryn dipyn o siarad am lyfrau - yn cynnwys hunangofiant Rhys Meirion:Stopio’r Byd am Funud Fach .  Dwi wedi clywed adolygiad da iawn am y llyfr rhywle arall hefyd.  Felly, i fi, un i’w ddarllen yn 2015.

Llyfr arall swn i’n hoffi darllen (ond dim wedi ei brynu eto) ydy llyfr gan Rhys Mwyn – Cam i’r Gorffennol: Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru.  Roedd Rhys ym Mhalas Print i ddrafod y llyfr - mae’r llyfr yma yn bendant am fy rhestr, yn enwedig gan bod y safleoedd mae o’n trin yn y llyfr ddim rhy bell o fy hen fro i.

Roedd son hefyd am lyfr gan Sion Hughes – Llythyrau yn y llwch - a mi wnes i wrando ar y rhaglen Silff Llyfrau a oedd yn ei drafod.  Dwi ddim yn siwr, o’r adolygiad, os byddaf yn hoff o’r nofel yma.  Ond nofel dwi wir eisio darllen ydy’r nofel ddiweddaf Manon Steffan Ros – Llanw.  Gan fy mod yn mynd i Gaernarfon yn y blwyddyn newydd, dwi’n gobeithio prynu’r llyfr bryd yna.

Yn y cyfamser, mae na ddau lyfr Gymraeg sydd wedi cyrraedd yn y post.  Lleucu Roberts - “Rhwng Edafedd“, a Llwyd Owen, “Y Ddyled“.  



Dwi wedi mwynhau gymaint o lyfrau gan Llwyd Owen ond dim wedi darllen llyfr ganddo fo yn ddiweddar, a roedd aeilodau yn y clwb darllen Llundain a oedd wedi darllen llyfr Lleucu Roberts yn dweud ei bod mor dda.

Ac i orffen - rhywbeth gwbl gwanahol.  Dyma salad wedi ei gwneud o ddail yn tyfu yn y tŷ gwydr - a ychydig o’r pupurau.  


Mae o’n wych cael salad o’r ardd amser yma o’r flwyddyn.  Dydy’r dail ddim yn tyfu’n gyflym felly bydd na ddim ormod o brydau i’w gael o’r dail - ond gan bod Dolig rownd y gornel, amser dechrau torri’r dail!  



Saturday 13 December 2014

Dyddiau gaeafol

Fel mae'n amlwg, dwi ddim wedi llwyddo i flogio yn ddiweddar.  Rywsut mae bywyd wedi bod yn brysur iawn - a dwi ddim wedi cael llawer o amser.

Ond heddiw, ar ol cinio, mi es allan dros y comin gyda'r ci.  Roedd  y prynhawn yn hyfryd, gyda golau arbennig - a'r lliwiau y coed, a'r caeau yn edrych mor hardd.  Doedd neb i'w gweld, ond y ci a fi, a distawrwydd ym mhob man, er, clywais tylluan yn hwtio - rhywbeth annisgwyl  yn y prynhawn.  Dyma ychydig o luniau, yn gyntaf, o'r afon:


A dyma'r dref (Newport Pagnell) yn edrych yn ol o'r llwybr ger yr afon:




Roedd y tywydd yn hyfryd dydd Llun diwethaf hefyd,pan roedden yn Ludlow eto.  A dyma llun o "Clee Hill" gyda haen fach o eira ty hwnt i'r dref:


Tro nesaf- llyfrau!