Ailddysgu

Friday 29 August 2014

Siaradwyr Cymraeg yn Milton Keynes

Rhyfedd faint o bobl Gymraeg sydd o gwmpas, heb i chi wybod!  Trwy’r cylch siarad Cymraeg dwi’n dod ar draws pobl newydd o bryd i’w gilydd.  Fy ffrind a chyfoed Jan a ddechreuodd y grŵp.  Mae Jan wedi bod yn dysgu Cymraeg am ryw ddwy flwyddyn rŵan, a wedi dod ymlaen yn dda iawn: felly ar gyfer dysgwyr, yn y bôn, seflydlwyd y grŵp (sydd yn cael ei hysbysebu trwy Say Something in Welsh).  Ond mae o’n gymysgiad da o ddysgwyr a siaradwyr rhugl.  A mae pobl yn dod o ardaloedd wahannol hefyd.  Mae mwy o’r Cymry Cymraeg yn dod o’r gogledd; Bethan (sydd ddim yn medru dod yn aml) yn dod o Sir Fôn; Marian (sydd yn byw yn yml i fi a sydd yn cadw’r Cymraeg ar yr aelwyd gyda’i merch) yn dod o Bwllheli, a Gwyneth gyda’i gwreiddiau hefyd yn Sir Fôn ond wedi cael ei magu yn Llundain.  Felly mae Rhodri (Aberaeron) yn eithriad, braidd.

Hanesion difyr sydd gan yr aelodau hefyd.  Rhai yn ailafael ar y Cymraeg ar ol blynyddoedd i ffwrdd.  Ac un wedi colli’r hyder i siarad Cymraeg ar ol mynd i ysgol Saesneg, blynyddoedd yn ol, yn Llundain.  Felly mae ei mam hi yn siarad Cymraeg a mae hi yn dallt popeth – ond yn ateb yn Saesneg, ond yn raddol mae hi’n dechrau siarad. 

Mae’r dysgwyr yn gymysg hefyd.  Un wedi gwneud y cwrs Prifysgol Agored (Croeso) ac yn edrych am gyfleoedd i ymarfer; un ond wedi dechrau gyda SSIW ryw dair fis yn ol; felly yn gwrando yn hytrach na siarad, y ran fwyaf, ond yn medru deallt dipyn erbyn hyn. 

Mae’r grŵp yn cyfarfod bob mis, mewn tafarn leol, a nos Iau es i yna gyda Jan, a chyfarfod a Marilyn am y tro gyntaf: merch o Llanferfechan yn byw ryw 5 milltir i ffwrdd – yn yr un dre bach a Jan.  Sgwrs dymunol am bron ddwy awr – er bod yr amserlen yn dweud 6-7.30.  Felly digon o hwyl i’w gael.

Monday 25 August 2014

Ffrwythau a llysiau ddiweddar

Wel, dyma ni bron ar ddiwedd mis Awst.  Ar ol haf gwych, mae'r tywydd wedi bod yn newidiol yn fama - ond yn sych, sych, sych - hyd at heddiw!  Dyma'r olygfa o'r afon bore 'ma.


Glaw mân, braidd fel glaw Cymraeg! Ond p'nawn yma, mwy o law, dipyn drymach tro yma.

Mae'r tywydd poeth a gawsom ym mis Mehefin a Gorffenaf wedi bod yn baradwys i'r pupurau a'r aubergines yn y tŷ gwydr.  Fel dwi wedi sylwi o'r blaen, roedd aubergines yn aeddfed ym mis Gorffenaf - rhwybeth anarferol iawn, iawn!.  A rŵan mae'r pupurau hefyd yn goch, fel gwelir.  Dyma'r golygfa o ddrws y tŷ gwydr:



- ond dydy o ddim yn dangos y planhigion yn dda iawn - felly dyma llun o'r pupurau -




ag o'r aubergines.



Tŷ allan i'r ardd yn y berllan anghyfreithlon, mae'r gellyg Bon Chrétien wedi gwneud yn dda iawn (o safbwynt y ffrwythau) OND, am un peth, mae'r ffrwythau wedi bod yn disgyn yn y gwynt, ac, yn fwy bwysig, mae'r coeden ei hun yn edrych yn ofnadwy.  Mae sawl haint i'w gael ar goed afalau a gellyg - a dwi ddim yn siwr pa fath o haint sydd ar y coeden yma, ond dwi'n gobeithio bydd yn well ar ol y glaw, ac ar ol dipyn o tocio pan gai'r cyfle.  Beth bynnag, mae’r ffrwythau yn ardderchog.



Yn ôl yn yr ardd llysiau, mae’r ffa ffrengig yn dda (ar ol llawer o ddyfrio); a mae’r betys a sbigoglys yn dda (o’r diwedd) ond methu wnaeth y ffa ffrenging dringo, a dwi wedi rhoi’r gorau i tyfu moron, yn anffodus.  Dydy nhw ddim yn hapus yn yr ardd yma.

Llyfrau diweddar: 1 – Lliw yr Eira

Dwi wedi mwynhau sawl lyfr Gymraeg yn ddiweddar – a wedi meddwl am rhoi ryw fath o adolygiad ar fy mlog ond wedi methu.  Pam? Wel am un peth, dwi ddim wedi cael llawer o amser i gyfrannu at y flog o gwbl i ddweud y gwir.  Heddwi mae hi'n bwrw - felly amser i'w gwneud.  Ond dwi’n meddwl mai’r rheswm penodol ydy ei fod yn anodd iawn i fi sgwenu adolygiad yn y Gymraeg.  Efalla bod sgwennu adolygiad yn anodd mewn ynrhyw iaith – dwi wedi son am hwn o’r blaen, dwi’n siwr.  Dwi’n aelod o grwp Darllen Saesneg, a’r trefn ydy ein bod yn sgwennu adolygiad o’r llyfr a ddewiswyd o’n rhestr ni – a mae o’n annodd, a dim yn digwydd bob tro.

Felly dwi am ond sgwennu dipyn am y llyfrau – be fedra i a pryd medra i.  Y gyntaf ydy Lliwiau’r Eira gan Alun Jones.  (Am rhyw rhewm mae'r llun ar ei hochr…)


Yr unig llyfr arall gan Alun Jones roedden i wedi darllen cyn hwn ydy “Yna clywodd swn y môr”, ei nofel mwyaf enwog, a mwynhais y llyfr.  Mae hwn yn wahanol iawn.  Mae’r clawdd yn ddeiniadol iawn (yn fy marn i) a fel mae’r clawdd yn awgrymu, mae’r hanes yn cymryd lle mewn gwlad lle mae natur yn gryf, a lle, o be dyn ni’n clywed yn y stori, mae llawer o’r wlad yn wyllt, gyda bleiddiaid ac eryrod o gwmpas.  Mae gan rhai o’r gymeriadau ryw fath o ffordd o ddallt a cyfathrebu gyda’r anifeiliad yma.  Does dim sicrwydd lle, neu pryd, mae’r stori yn digwydd, ond mae o’n teimlo’n hanesyddol, gyda phobl yn byw heb tecnoleg, ac yn teithio ar draed.  Mae’r cefn wlad yn wyllt ac yn mynyddig, ac yn oer.
Mae’r hanes yn dilyn pedwar cymeriad, Eyolf, Tarje, Linus a Jalo, sydd yn ffoi o’u byddin – mewn gwlad lle mae pob dyn yn gorfod ymuno a’r byddin.  Ar wahan i ddisgrifio’r cefn gwlad, canobwyntio ar y cymeriadau mae’r awdur, ac yn raddol mae’r darllenwyr yn sylwi bod y rhan fwyaf o’r dynion yn y wlad yma yn rhyfela, ac yn gorfod ymuno a’r byddin.  A byddinoedd creulon iawn ydyn nhw hefyd.
Mi wnaeth y nofel wir cael afael arnaf fi.  Roeddwn yn meddwl am y llyfr am amser hir – a dyma rhan o be sydd gan Lyn Ebenezer i’w ddweud amdano: 

Prin i mi erioed ddarllen nofel debyg iddi yn Gymraeg.  Mae popeth sydd o’i  gwmpas hi yn hudolus.  Mae hyd yn oed y rhanau arswydus yn brydferth”  Wnes i ddim ddarllen adolygiad cyn dechrau ar y nofel – (rhaid dweud roedd y clawdd yn fy nenu am un peth!) ond mae hudolus yn gair dda – mi wnes i gael fy nhynnu i fewn i’r byd yma – roedd llawer o bethau ofnadwy yn digwydd yn y byd yma – ond r’on i wir eisiau mynd ymlaen i ddysgu be ddigwyddodd i’r dynion.
Dwi’n cytuno’r llwyr gyda Lyn Ebenezer hefyd pan mae o’n dweud:
“Wn i ddim sut mae dechrau disgrifio’r campwaith hwn.  Mae’n rhyw gyfuniad rhyfeddol o llyfrau ffantasi Stephen King, a’r mabinogi, lle mae dyn a creaduriaid mewn cytgord.”  Yn union: a mae rhyw naws yn aros gyda chi am beth amser – un o’r llyfrau gorau dwi wedi darllen ers dipyn.  Mewn llefydd, dydy hi ddim yn nofel hawdd i rhywyn sydd heb Gymraeg fel ei iaith gyntaf - ond yn sicr yn werth parhau hefo hi.

Monday 18 August 2014

Digon o lysiau a diffyg blodau

Dydy ein gardd ni ddim ar ei gorau ym mis Awst (na Medi chwaith).  Dros y blynyddoedd dwi wedi trio  tynnu allan rhai o'r planhigion sydd yn blodeuo yn y Gwanwyn hwyr neu ar ddechrau'r haf, ond dwi ddim wedi llwyddo i gynllunio ardd ar gyfer bob tymor.  Dydy'r ffaith fy mod gen i fwy o ddidordeb yn y llysiau a'r ffrwythau, a bod yr haf hwyr yn frysur gyda casglu llysiau dim yn helpu chwaith.  Ond mi all ardd fod yn fendigedig yr adeg yma o'r flwyddyn, fel yr ardd yn y gwaith:


Mae'r echniacea yma yn edrych yn hyfryd gyda'r gwair yn y cefn.  Ond mae'r ardd yma yn fawr - gyda digon o le i flanhigion gwahanol cymryd eu lle ar y llwyfan, fel petai, a mewn gofod mawr, does neb yn sylwi llawer ar y planhigion sydd wedi gorffen, neu dim wedi blodeuo eto.  Am wahaniaeth i ran o'n border ni:


Popeth drosodd yn fama!  (Er bod ychynig o flodau flynyddol ar gael - fel cosmos a rudbekia - a dwi'n meddwl mi wnai drio dyfu mwy blwyddyn nesaf.)

Er bod yr echinacea mor brydferth yn yr ardd yn y gwaith, dwi wedi trio echinacea yn ein gardd ni yn y gorffenol - a dydy nhw ddim yn hoff o'r ardd, a mae o'n bwysig dewis planhigion sy'n hapus.  Ond hefyd, dwi'n tueddi rhoi planhigion tal iu fewn a phlanigion mawr - sydd yn cymryd drosodd, fel yr 'echinops' yma.


Fel dych chi'n gweld, mae nhw'n wych am ddenu gwenyn, ond mae nhw braidd yn hyll wedi gorffen.  Heddiw dwi wedi bod yn torri nhw i lawr, a rwan mae'r border yn edrych braidd yn wag - wel, yn wag iawn mewn llefydd, ond o leia medra i weld y chwyn sydd wedi cael ei guddio gan yr echinops.

Yn yr ardd llysiau a'r tŷ gwydr ar y llaw arall, mae'r pupurau yn ffynu, a'r ciwcymber, a'r aubergines, ond dim y tomatos.  Dwi'n defnyddio system 'Greenhouse Sensations' lle mae 'na gronfa dan y blanhigion i ddal dwr a maetholion, ond yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod y bwyd tomato yn gweithio.  Roedd gen i rhan ar ol eleni, a mae'n amlwg ddylwn i wedi prynu peth ffres.  Ond eto mae'r puprau yn ymdopi'n hapus.

Mae hi wedi bod yn wyntog iawn yn fama - ac er ei bod wedi bod yn stormus ar adegau, dydy ni ddim wedi cael llawer o law - fel arfer.  Felly dyfrio, a dyfrio  - yn yr ardd llysiau, beth bynnag.  Mae digon o ffa ffrengig a courgettes, ond y gellyg wedi dod i lawr yn y gwynt.  A dydy nhw ddim yn aeddfed eto - felly tybed bydden nhw'n iawn mewn crymbl, wedi eu goginio? Rhaid trio.



Saturday 2 August 2014

Beth sy'n digwydd yn y tŷ gwydr ar ddechrau mis Awst

Dyma be sydd wedi digwydd eleni gyda’r pupurau yn y tŷ gwydr. 


A’r aubergines


A’r ciwcymber


Gwych!  Fel arfer dan ni ddim yn cael ffrwythau o gwbl tan yn weddol hwyr yn y tymor – a wedyn mae’r pupurau a’r aubergines yn aeddfedu yn hwyr, a weithiau, fel llynedd, roedden ni’n bwyta’r pupurau ym mis Rhagfyr.  Ond eleni, gyda’r gwres a’r haul dan ni wedi cael am ryw bump wythnos rŵan (neu mwy?), mae’r pupurau, a’r aubergines, a’r ciwcymber yn y tŷ gwydr wedi dod ymlaen mor gyflym.  Roedd pupurau bach yn barod am fwyta ym mis Gorffenhaf, hyd yn oed.  Efallai bod y blodau yn y tŷ gwydr wedi helpu hefyd.  Gyda'r aubergines dwi'n meddwl bod na problem wedi bod efo peillio yn y gorffenol, felly penderfynais rhoi blodau yna eleni i ddenu gwenyn a pryfed eraill.  Felly mae'r blodau yma, Rudbeckia, yn ffynu:


a hefyd blodau'r gwenyn (marigolds).

Dwi wedi sôn o’r blaen am y ffeirio dwi’n gwneud gyda’r gwerthwr llysiau a ddoe mi es a 9 ciwcymber iddo fo.  A mi fyddai’n cael pethau dwi ddim yn medru (neu dim yn trio) tyfu – fel bananas, ac afocado  a blodfresych.  Ac wrth sôn am yr rhain, dwi am drio tyfu nhw eleni – mi wnes i brynu blanhigion bach – a dwi wedi rhoi un neu ddau mewn llefydd gwahanol yn yr ardd.  Dwi’n gobeithio bydd hyn yn drysu y pilipala gwyn sydd yn dodwy eu wyau ar y planhigion.

Ond dydy rhai pethau ddim wedi gwneud mor dda.  Er bod yr eirin Czar yn barod


a mae digonedd ohonnyn nhw, mae ‘na hefyd llawer mwy o’r eirin sydd ddim yn iach a wedi pydru – fel yr rhain:



Dwn i ddim pam mae nhw fel ‘ma.  Efallai gwres yr haf poeth?  Ond heddiw o'r diwedd dan ni wedi cael dipyn o law - a efallai bydd y ddim mor boeth rwan.