Ailddysgu

Tuesday 27 May 2014

Ymweliad i Helmsley

Mi es i i briodas nai fy ngŵr dros y gwyl banc yn Helmsley yn swydd Efrog.  Roedd y briodas amser cinio dydd Sul, felly dipyn o galifantio ar fore dydd Sul a darganfod bod na ardd gwych gwych:  pedair acer o ardd a oedd unwaith yn rhan o’r stad mawr sydd drws nesa i’r dre (yn Duncombe Park).  Ac er bod y tywydd ddim yn ddymunol iawn, doedd yna ddim glaw yn ystod ein ymweliad.  Dyma ychydig o luniau o’r ardd - gardd sydd wedi cael ei adfer yn eithaf ddiweddar gan gwirfoddolwyr gyda tai gwydr enfawr a muriau fawr o gwmpas.  




A mae’r ardd wir yn hyfryd, gyda dolydd, gwenyn a ieir, a phlanhigion a llysiau gwych fel y ffa llydan yn y llun yma.


Mae'r dre hefyd yn hardd iawn, ac yn hanesyddol: 'roedd y hotel yn fodlon iawn i'r ci cael gyda ni a gobeithio gawn ni gyfle i wneud ymweliad arall.

Sunday 18 May 2014

Hela a physgota


Dyma’r rheol.  Os dach chi ddim yn mynd a’r speinddrych allan hefo chi, mi fyddwch chi’n gweld yr adar diddorol dach chi wedi bod isio’u gweld am oes.  A mae o rywbeth yn debyg gyda’r camera (ia dwi’n arbfofi gyda fo o hyd…..).  Dwi’n trio gweld os fedrai cael llun o’r cudyll coch sydd yn hela yn amal ar y comin lle dwi’n cerdded gyda’r ci yn y bore ar y penwythnos.  Ar hyn o bryd, mae’r comin yn fôr o flodau gorthyfail (cow parsley) a mae ogla’r flodau a’r ddraenen wen yn gryf.  Yn y rhan yma o’r comin does dim gwartheg yn pori: a mae hyn yn ei wneud o yn le dda i hela llygod bengron y gwair  (field voles) sydd yn hoffi tir sydd ddim wedi cael ei bori fel hwn.


Dydy o ddim yn hawdd cael llun o aderyn sydd yn symud, ond dwi’n gobeithio yn y diwedd cael siawns pan mae hi yn eistedd ar fainc, neu yn hofran uwchben.  Dwi’n meddwl mai’r aderyn benywaidd dwi’n gweld oherwydd mae hi’n aderyn fawr, Mae’r aderyn benywaidd yn fyw na’r gwrywaidd) a mor hardd.  Dydy’r cudyll coch  dim yn brin – ond efalla ddylen ni boeni dipyn oherwydd mae’r niferau yn gostwng eto.  Ond weithiau, wrth gerdded ar yr arfordir, er engraifft, dach chi’n cael cyfle i edrych i lawr ar yr aderyn, a mae o wir yn hardd ofnadwy.  Mae’r lliwiau  yn llachar a ges i ddigon o amser i wylio hi ddoe  wrth ei bod yn hela o gwmpas am ryw awr.

Felly  roedd o’n ddechrau dda i’r dydd.  A gyda’r nos mi es i allan yn hwyr ar ol i’r gwres cilio dipyn, gyda’r ci, a dyna lle r’oedd y dylluan wen yn hela yn  yr un lle.  A dyma be mae nhw’n hela:  llygod bengron y gwair: (o leia dyna be dwi’n meddwl ydy o – a falle un wnaeth aderyn gollwng).


Dwi ddim wedi llwyddo tynnu llun glir o’r tylluan wen, a hithau’n hedfan reit gyflym (ond mi fyddai’n trio eto) ond dyma llun dwi’n licio o’r creÿr bach.



Saturday 10 May 2014

Sioe Malvern

Diwrnod allan heddiw - yn sioe Gwanwyn Malvern.  Es i yna gyda bedair ffrind sy'n aelodau o'r clwb llyfrau (Saesneg, Milton Keynes).  Aethom i Chelsea llynedd, a mwynheis y profiad - ond mae o’n ddrud, a mae ’na gymaint o bobl yna, felly roedden isio trio sioe arall eleni, a felly..... ffwrdd a ni gyda’r clwb garddio o’r gwaith, ar y bws.

Roedden ni’n disgwyl glaw trwm trwy’r dydd - yn ol yr arolygion.  Ond, cawsom diwrnod gyda ambell sbel fach o haul, ambell gawod a gwynt cryf iawn.  Doeddwn i ddim cweit wedi deallt nad sioe blodau neu garddio yn unig ydy’r sioe yma, ond sioe gwanwyn.  Felly doedd dim llawer o erddi i’w gweld.  Ond mi roedd 'marqui' mawr iawn fel yn Chelsea gyda bob math o stondina, a digon o stondinau bwyd a cynnyrch hefyd.  Dyma rhai o’r gerddi.  






A dyma planhigyn roedden ni i gyd am brynu - ryw fath o 'scilla' ond na, roeddent wedi gwerthu bob un.  



Felly yn y diwedd, prynais planhigion agapanthus, i gael ddipyn fwy o liw yn yr haf.  Mae gennyn ni un flanhigyn yn barod mewn pot yn yr ardd ffrynt.  Ond, wnaeth o ddim flodeuo llynedd, felly dwi am ei fwydo eleni ac edrych ar ei ol o, a dwi am drio rhoi ddau o’r blanhigion yn y ddaear, a dau mewn potiau, i weld beth sydd yn gnweud yn dda.

A fory yn ol i fy ngardd i, i chwynnu a symud rhai o’r blanhigion tomatos a phupurau i botiau mwy, ac y.y.b.  A dyma ychydig o luniau o'r ardd (fel y gwelwch, mae o wedi bod yn wlyb ofnadwy ar brydau).




Labels: , , , , ,

Monday 5 May 2014

Penwythnos hir hyfryd


Dwi’n hoff iawn o fis Mai; mae popeth yn wyrdd, yr ardd yn dod ymlaen, a mae o’n amser diddorol o ran bywyd gwyllt, hefyd, gyda’r adar yn nythu, a’r gwenoliaid yn dod yn ôl (neu wedi dod yn ôl). Efalla mai’r amser yma ydy’r gorau (ond wedyn mi fyddwn yn meddwl hynny yn yr haf ac y Hydref hefyd).  Beth bynnag, cawsom benwythnos hir heulog, ond dim rhy boeth i weithio yn yr ardd, mynd am ambell dro, ymweld a’r gwarchodfa natur a gwneud dipyn bach o goginio (mae rhaid bwyta)...

Dwi wedi bod ar ei hôl hi yn yr ardd.  Yr unig hadau  a oedd wedi mynd i fewn roedd y panas.  Dwi’n trio gwneud dipyn o “crop rotation“: hynny yw, peidio rhoi’r un peth yn yr un lle, blwyddyn ar ol flwyddyn.  Y syniad ydy bod clefyd (sydd yn perthyn i un grŵp o phlanhigion) dim yn cael siawns i sefydlu ei hun a hefyd bod rhai phlanhigion yn gadael maeth yn y pridd ar gyfer y phlanhigyn nesaf.  Dyna’r cynllun.  Ond dydy’r realiti ddim mor hawdd.  Mae un gwely yn fwy na’r lleill a felly yn dda i datws - ond roedd tatws yna llynedd.  R’on yn awchu cael hadau spigoglys a betys i fewn.  Roedd yr hen spigoglys wedi gorffen a mae o’n cymryd dipyn o amser i dyfu.  Ond, yn y gwely lle r’on i wedi cynllunio rhoi nhw, roedd y phlanhigion yma yn tyfu:



Mae nhw’n galw nhw’n “poached egg“ plant yn Saesneg, a dach chi’n gweld pam!  Limonanthes dogulasii ydy’r enw botanegol ac unwaith mae nhw’n tyfu yn eich gardd, mae nhw yna am byth - oherwydd mae’r hadau yn cael eu gwasgaru.  Y peth am y planhigion yma ydy bod nhw’n ardderchog ar gyfer pryfed dach chi eisio yn yr ardd, fel y gwybed hofran (sydd yn bwyta’r clêr gwyrdd).  



Felly doeddwn i ddim eisio tynnu nhw allan, ond yn y diwedd, roedd rhaid cael gwared o rywfaint ohonnyn nhw, ond dwi wedi gadael crin dipyn ar ol, ac ar ol iddyn nhw orffen flodeuo, bydd mwy o hadau llysiau yn mynd i fewn.

Mae’n bwysig cael planhigion sydd yn denu gwenyn ac pryfed eraill sydd yn dda i’r ardd.  Yn y warchodfa natur lleol, mae’r planhigyn yma  yn tyfu. 





 Mae hwn yn yr ardd hefyd, ond teip gwahanol.  Beth bynnag, mae gwenyn wrth eu boddau gyda fo, a mae o hefyd yn dda i fwydo phlanhigion.  Yn ol y geiriadur mawr, “llysiau cwlwm“ ydy o yn Gymraeg.

Roedd y gog yn canu ond dim i’w gweld, ond dim las y ddorlan y tro yma.  Mae un o’r hides (Cymraeg - cuddfan?) yn y coed a dyma’r olygfa ohono fo.

 Lle da i dynnu llyniau a dyma ddau ohonyn nhw.




Ia, yn anffodus, mae'r wiwerod ym mhobman.
A ddoe, ar y comin, tynais llun o fras y gors (reed bunting).  Does dim llawer o luniau o'r ardd yma - felly tro nesa....