Ailddysgu

Monday 20 January 2014

Penwythnos yn cerdded ym Mhen Llŷn

Doeddwn i ddim yn siwr am fynd - ond mae gen i ffrindiau (wedi ymddeol!) sy’n cardded llwybr arfordir Cymru: yn mynd am dwy neu dair ddiwrnod ar y tro.  Felly, pan mae o’n bosib, dwi’n ymuno a nhw.  Ond, bois bach, doeddwn ddim yn siwr mai Ionawr oedd yr amser gorau - un enwedig ar ol yr holl law.  Beth bynnag, doeddwn ddim am golli cyfle i gerdded yn y rhan yma o Gymru gyda popeth wedi cael ei drefnu - felly i ffwrdd a fi ar y tren. 

Roedd hi’n stidio bwrw dros nos (Gwener), felly penderfynon cael bore diog gyda brecwast hwyr a mynd am dro bach i’r Tŷ Coch am ginio.  

Coeliwch chi ddim, ond dwi ddim wedi bod ym Morthdinllaen ers i grwp go fawr ohonon ni ddathlu diwedd ein arholiad level A, yn ol yn y seithdegau.  Mae o’n le gwych, yntyndi?  Dyma ni, (wel dim fi, roeddwn ni'n tynnu'r llun) cyn cael cinio.  



Ac er bod yr awyr yn lwyd ac yn dywyll, doedd na ddim llawer o law yn y p’nawn, felly ar ol cerdded yn ol i’r car ac yn ol i’r ty lle roedden yn aros, aethom am dro arall:

Erbyn bore Sul, roedd yr haul yn gwenu!  Taith y tro yma o Nantgwrtheyrn yn ol tuag at Portdinllaen - dim amser i gerdded rhy bell oherwydd roedd rhaid i mi ddal tren yn y prynhawn, ond mae’r than yma o’r arfordir yn wych.  Coffi yn Nantgwrtheyrn 



a dipyn o hanes a ddiwylliant o’n gwmpas, cinio (brechndanau) rhywle yn yml Pistyll, lle ddechreuodd y glaw.  A dyma edrych yn ol.


Braf, braf, braf cael gweld yr ardal yma eto.  Pan roedden yn y tafarn yn Aberdaron, mi ddarllenais ffurflen (amrchata) am bywyd gwyllt yr ardal - ac yn ol y ffurflen, y “pump mawr“ ydy:  hebogiaid tramor, llamhidyddion, ysgyfarnogod, brain coed coch a’r morlo llwyd.  Welson ni ddim arwydd o’r un o’r rhain dydd Sul.  Roeddwn yn gweld morloi yn aml pan oeddwn yn blentyn, ond dim y lleill.  Tro nesa efallai. 

Thursday 16 January 2014

Dechrau’r flwyddyn newydd – darllen a taith cerdded



Mae’r gaeaf yn amser dda i eistedd ar y sofa (neu yn y gwely) a dal i fynny gyda darllen llyfrau.  Dwi wedi bod yn darllen Yr Erlid gan Heini Gruffudd.  Hwn ydy’r llyfr a ennillodd gwobr y flwyddyn.  (Sori, mae'r ddolen i fersiwn Saesneg- methu ffeindio'r un Cymraeg ar y funud)
Dwi wedi darllen bron hanner y llyfr – a mae o’n dda iawn, ond dim, wrth gwrs, rhywbeth ysgafn, neu hawdd.  Mwynhais llyfr arall ar y rhestr Llyfr y Flwyddyn hefyd, sef Blasu, gan Manon Steffan Ros.  Mae hon yn nofel wych, fel sy’n cael adlewyrchu yn yr adolygiad yn golwg.

Hefyd dwi’n ail-ddarllen Wythnos yng Nghymru Fydd.  Hon ydy’r nofel dan ni am drafod ar ddiwedd y fis yn y Clwb Darllen Llundain.  (Gadewch i fi wybod os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno!)  Dwi wedi ei ddarllen o’r blaen a dwi’n mwynhau darllen hi eto – mae’r llyfr yn cydio o’r dechrau – a ffordd gwych am drafod dyfodol yr iaith – a pherswadio pobl i wiethio dros yr iaith.  Ond, r’on i wedi anghofio’r rhan o’r llyfr yn son am ddyfodol crefydd yn Nghymru – braidd yn ddiflas yn fy marn i. – yn enwedig am nad ydw yn grefyddol.

Dros y gwyliau , des ar draws raglen Pethe lle roedd Bethan Gwanas yn trafod ac edrych yn ol dros llyfrau 2013.  Roedd hwn yn rhoi syniadau ac awgrymiadau da am lyfrau i ddarllen.   Roedd Bethan yn canmol “Twll bach y clo”  gan Lleucu Hughes  a “Gwe o glymau sidan” .  Dwi am brynu y ddau lyfr o Palas Print – a tro yma, dwi’n gobeithio prynu nhw yn y siop , dim dros y we, achos dwi’n mynd trwy Gaernarfon yfory ar fy ffordd i Aberdaron am dipyn fwy o gerdded ar hyd yr arfordir.  Ond dydy’r tywydd ddim yn edrych yn addawol O GWBL.

Yn dilyn y rhaglen darganfais blog weddol newydd Bethan Gwanas: – lle may hi’n son am lyfrau:  llyfrau plant ydy’r rhan fwyaf – ond mae hynny’n iawn gen i!  Felly dwi’n gobeithio darllen: Eira Man ac Y Dyn Gwyrdd gan Gareth F Williams, ac efallai Y Gwaith Powdr – gan Sian Northey.

Digon i gadw fi'n mynd am y tro.