Ailddysgu

Saturday 22 June 2013

Pethau Cymraeg a'r ardd


Dwi wedi cael cael amser prysur ofnadwy  dros y tair wythnos ddiwethaf yn enwedig yn y gwaith a gyda’r Cymraeg.  Ar ol yr holl amser o baratoi  y ffolio ac yn y blaen, roedd yr arholiad Uwch dipyn dros wythnos yn ol.  Sgwennais flog byr ar y pryd.  Mi wnes i fwynhau y rhan fwyaf o’r profiad yn y diwedd.  Dydy sgwennu yng Nghymraeg, yn enwedig Cymraeg ffurfiol, cywir, dim yn hawdd o gwbl – wel, medraf sgwennu digon heb lawer o drafferth – ond y cywirdeb ydy’r broblem!  Ond wedi dweud hynny, dwi’n gwerthfawrogi y bwyslais ar sgwennu a.y.y.b.  Hebddo fo, mi faswn ddim wedi rhoi lawer o sylw at y peth o gwbl.  Mi es i’r Wyddgryg am yr arholiad – neu Y Wyddgrug, fel sgwennais ar fy mlog (dach chi’n gweld y broblem!) a roedd pawb yn groesawgar iawn.  Dwi’n meddwl bod strwythyr yr arholiad yn gweithio’n dda iawn, chwarae teg – a’r rhan olaf, y sgwrs, wedi ei seilio ar erthygl a cynnwys y ffolio , yn syniad ardderchog. 
Ar ol dod yn ôl ar y dydd Iau, mi es i ysgol un dydd yn y Ganolfan yn Llundain ar y dydd Sadwrn.  Erbyn bore Sadwrn, gyda codi’n gynnar a minnau wedi blino, mi roeddwn yn difaru, braidd - ond roedd yn ddydd arbennig  o dda.

Mi gawson brofiad ardderchog yn nosbarth Gwen Rice - canolbwyntio ar grammadeg yn y bôn, ond mewn ffordd da, gyda esboniadau  a trafod gwych.  A wedyn yn ôl i “deadline“ arall yn y gwaith......

Ond hefyd, ddoe, Mehefin 21, mi es o gwmpas yr ardd yn gweld be oedd wedi llwyddo a be oedd ddim mor dda.   Mae o’n bwysig nodi beth sydd wedi methu yn  ogystal a be sydd wedi llwyddo, felly dyma rhai o’r engreifftiau, mewn llyniau.....


Fel gwelwch, mae hwn wedi cael ei fwyta, felly mi dynnais o allan, i gael ei dendio.  Ond mae'r un yma, ar y llaw arall, wedi gwneud yn dda


Os dwi'n cofio, a os mae geni be sydd angen, dwi'n rhoi copor o gwmpas y rhai bach,  mae plisgyn wy yn dda hefyd - a gweddillion coffi, a i fod yn sicr dwi'n roi rhai 'pellets' hefyd - ond dim gormod!

A be am y gwely gwag yma?  Dyma lle roedd y panas



Ond ychydig bach daeth, felly tynnais nhw allan a mae rywbeth arall yna rwan, ond mae o'n cymryd amser i weld bod rywbeth wedi ffaelu - yn enwedig panas - sydd yn araf iawn, a felly mae'r peth nesaf yn hwyr iawn.

Ond ar y gyfan mae'r ardd yn edrych yn dda

Mwy y tro nesaf.  Dwi wedi colli gymaint o amser am anghofio'r cyfrinair a trio sefydlu un newydd.  Eto......

Friday 14 June 2013

Bore wrth yr afon

Wedi deffro'n gynnar ac ar ol dipyn o botsian o gwmpas, allan gyda'r ci a dyma'r afon yn yr haul, ryw 7 o'r gloch. A diolch byth am ddipyn o law dros nos. R'argian, roedd hi'n sych.

Cwrs undydd Cymraeg yn Llundain heddiw

Thursday 13 June 2013

Arholiad yn y Wyddgrug

Dwi wedi gorffen y dydd gyntaf o'r arholiad, ac yma yn y Wyddgrug yn cael cappuccino cyn mynd i'r ail ran: y gyfweliad. Dwi'n meddwl ei bod wedi mynd yn iawn hyd at hyn a phawb yn y Ganolfan yn grosawys iawn. Erioed wedi bod yma o'r blaen a mae'n weld yn dre deiniadol. Roedd rhaid aros tua ddwy filltir I ffwrdd. Nunlle i aros fama. Ond dwi'n siwr bod cerdded dipyn cyn ac ar ol arholiad yn gwneud lles.

A mae'r gwesty ar adfoelion hen clawdd. Doeddwn ddim yn gwybod bod clawdd arall ar wahan i in Offa.




Saturday 8 June 2013

Diwedd y dydd

A dyma fi ar ddiwedd y dydd ym mar Fat Cat ym Mangor yn aros am y Tren a wedi blino'n llwyr! Dydd da. Dwi'n gamdreiglo yn aml o hyd, ond mi roedd yn dda i gael gyfle i ymarfer y brawf llafar a cofio rhai bethau am sgwennu ffurfiol. Felly dipyn o waith cyn yr arholiad wythnos nesaf - a mae'r gwaith yn brysur hefyd. Ond dyna fo. Gwneud fy ngorau


Friday 7 June 2013

Yng Nghymru

Ond tan 'fory. Ar fy ffordd i aros yng Nghaernarfon dros nos a wedyn i Ysgol undydd ym Mangor fory. Cwrs Adolygu munud olaf, ar gyfer yr arholiad lefel A wythnos nesaf.

Ond mae'r tywydd mor braf, a'r cefn gwlad yn edrych mor hardd, be dwi isio gwneud, i ddweud y gwir, ydi mynd am dro, hir, yn y mynyddoedd.

Hwyrach.......

Dim digon o amser i fynd am dro hir, ond mae hi'n braf iawn a brysur iawn yma - rhan fwyaf yn leol. Ac wrth gwrs digon o Gymraeg yma.

Dyma ychydig o luniau

Wel, dim lwc postio hwn ddoe, felly trio eto bore 'ma. Gawn ni weld!






Labels: ,

Sunday 2 June 2013

Tywydd braf

O'r diwedd dyn ni'n cael tywydd gynnes a braf am mwy na tri diwrnod, ac ar ol yr holl law wythnos diwethaf (a'r holl gwaith) mae'r ardd yn edrych yn dda


Ond heddiw, mi es am dro gyda fy ffrind, ac wrth erdded ar hyd y gamlas at y tafarn i gael cinio, dyma sypreis:  "Book boat".  Ia, cwch yn gwerthu llyfrau ail-law, yn symud o gwmpas y gamlas.


A wedyn heibio'r gwarchodfa natur lle roedd y gog yn canu - ac i fynny heibio'r llyn pysgota - yn edrych yn heddychol iawn ar bnawn mor braf