Ailddysgu

Friday 26 April 2013

Gwanwyn go iawn

 Dwi ddim wedi llwyddo i flogio ers dod yn ol o gerdded yn Sir Benfro.  Un o’r pethau dwi wedi bod yn gwneud ydy gorffen y gwaith ysgrifennu ar gyfer y ffolio sydd yn rhan o’r arholiad uwch, ac o’r diwedd dwi wedi ei gorffen ac aeth yn y post yr wythnos yma.  Dal i fynny gyda gwaith.  A hefyd gwneud dipyn yn yr ardd.  Ar ol y tywydd garw, oer, daeth y Gwanwyn go iawn a’r planhigion i’w gweld bron yn tyfu dros nos yn yr ardd.

Un syndod oedd y penbyliaid!  Roedd y grifft llyffant wedi rhewi am wythnosau - ac yn edrych fel ei bod wedi marw cyn i fi fynd i ffwrdd,  Ond gwelwch be oedd yn y pwll erbyn i mi ddod yn ôl:  lluoedd o benbyliaid bach bach



Felly dros y pewythnos, lwyddiais i blannu hadau Rudbekia, rocet, symyd y planhigion letys bach, a hyd yn oed un rhes o datws newydd.

Mae rhai o’r coed ffrwythau yn blodeuo - dyma’r gellygen sydd ar y wâl cefn.  



Dwi ond yn gobeithio bod ’na ddigon o wenyn i beillio’r coed.  Dyma un o leiaf. 



 A dyma ychydig o luniau eraill: y coeden ceirios yn blodeuo eto er ei fod wedi blodeuo yn y gaeaf; coeden magnolia a morwydden gyda cenin pedr yn tyfu o’i gwmpas.



Friday 12 April 2013

Rhan 5

Glaw trwm trwy'r nos neithiwr a hefyd ar ddechrau'r bore. Ond erbyn 10 pan roedden ni'n cerdded, roedd yr haul yn dangos. Ac am olygfeydd! Efallai mai heddiw oedd y gorau: o "freshwater West" i Angle.

Dyma rhai o'r lluniau







Sir Benfro rhan 4

Diwrnod cymysg heddiw. Ar ol dipyn o
gerdded ar y creigiau, roedd rhaid troi I ffwrdd o'r mor oherwydd gweithgareddau milwrol. Er hynny, ac er gwneud niwed i fy nhroed wrth cerdded ar y lon galed, ddaeth yr haul allan a cawsom gwely a brecwast ardderchog

Sir Benfro: 3

Taith cerdded hyfryd iawn, heddiw. Golygfeydd godigog. Roedden ni'n gobeithio gweld y dyfrgwn sydd yn enwog yma, ond gwnaethon ni ddim.

Tuesday 9 April 2013

Taith cerdded: rhan 2

Dyma ychydig o luniau o'r ail ddiwrnod o cerdded ar llwybr yr arfordir. Un uchafbwynt heddiw oedd clywed sgrech yr hebog tramor a gweld yr hebog yn rasio uwchben y creigiau.



Labels: ,

Monday 8 April 2013

Llwybr arfordir Sir Benfro

Dwi ar fy ngwyliau a dan ni wedi dechrau cerdded rhan o'r Llwybr arfordir Sir Benfro. Dwi erioed wedi cerdded y rhan yma, yn y De. Cyrraedd y dechrau ddoe amser cinio a cael prynhawn braf yn cerdded i fynny ac i lawr.... ac i fynny ac i lawr nes cyrraedd Dinbych y Pysgod. Taith hardd iawn trwy coedwigoedd mewn llefydd. Mwy fory!






Labels: , ,