Darllen, garddio, cogninio, bwyta...
Ro’n i’n falch gweld yr haul eto heddiw. Ar ôl wythnosau o ddyddiau llwyd, eira, rhew a glaw, o’r diwedd roedd o’n teimlo fel Gwanwyn heddiw, ac er bod dipyn o waith gen i i’w gwneud, doedd o ddim yn bosib i fi beidio mynd allan am dro. Tro yma, roeddwn i eisio mynd i lawr i’r cae yn ymyl yr afon. Mae un cae, lle mae ŷd yn tyfu, yn denu sgwarnogod weithiau. Dwi wedi cerdded heibio a gweld topiau du ei chlustiau wrth ben coesau’r ŷd. Ond dim arwydd o ysgyfarnog heddiw. Ond mi roedd arwyddion o’r glaw i gyd, gyda’r cae mor wlyb a’r dŵr yn eistedd arno fo.
Wel, dwi ddim yn medru rhoi lluniau o'r ffon newydd i'r MacBook
Labels: iPhone Gwanwyn
Mae o’n anodd defnyddio’r cyfriadur - neu’r gliniadur, i fod yn wir, gyda Sox (y gath) yn mynu eistedd arno fo. Ta waeth. Dwi wedi bod allan yn mwynhau yr haul, gan ei fod braidd yn brin, y dyddiau yma. Felly dyma ychydig o luniau....