Ailddysgu

Friday 16 August 2013

Pethau diweddar: yr Eisteddfod a dechrau’r cynhaeaf....


Ychydig o ddyddiau yn yr Eisteddfod i gasglu tystysgrif yr arholiad uwch a mwynhau'r gwyl. Dyma Betsan Powys ar ddechrau'r sesiwn.



Roedd yn Eisteddfod yn wych ond dim digon o amser yna. Mi wnes i fwynhau gwrando ar Bethan Gwanas a Dewi Prysor yn siarad gyda Ifor Ap Glyn am hiwmor mewn nofelau Gymraeg.  



Roedd yr awyrglylch yn dda iawn; dim gormod o law (tra roeddwn i yna beth bynnag), ac yn sicr faswn i ddim wedi rhedeg allan o bethau i wneud a gweld. 

Yn ôl i’r gwaith a’r ardd, a penwythnos arall i ffwrdd, y tro yma yn y New Forest gyda fy mrawd yng nghyfraith, ac ymweliad i’r sioe lleol amaethyddol.  Dwi’n hoff iawn o’r rhain: atgofion melys o fy mhlentyndod dwi’n meddwl, a dyma’r Alpacas a oedd yna (yn sicr doedd dim Alpacas yn y sioe ger Caernarfon blynyddoedd yn ôl).



Ar ôl y gwanwyn oer, oer, mae pethau yn dod ymlaen yn dda iawn yn yr ardd.  Mae o wedi bod fel anialwch, yn sych ofnadwy, a minnau wedi bod yn codi yn gynnar i ddyfrio i cadw’r llysion a’r ffrwythau yn fyw.  Mae’r coeden eirin yn ffrwytho fel d’wn i be: mae pwysau o ffrwythau yn y rhewgell; bag mawr wedi ei ffeirio am gostwng yn y pris bwyd yn y tafarn a rhai wedi mynd i ffrindiau a mae ’na mwy ar y coeden.  “Czar“ ydy hon: mae hi’n ffrwytho’n gynnar, ac eirin coginio mae hi, ond mae hi’n dda i fwyta hefyd.



Mae’r mafon hydref yn dod ymlaen yn dda hefyd - ond dim yn hoff o’r tywydd sych wrth gwrs; felly roedd yn dda cael y glaw ddoe.

Saturday 3 August 2013

Pigion Bach o'r ty gwydr

Mae'r tomatos yn dechrau aeddfedu rwan, a dyma nhw. Ers llynedd dwi wedi bod yn defnyddio "quadgrow": teclyn gyda cronfa ar gyfer y dwr: felly does dim eisiau dyfrio bob dydd oherwydd mae'r greiddiau yn cymryd be mae nhw angen



Labels:

Friday 2 August 2013

Paratoi

Er gaddi glaw, dydy o ddim wedi bwrw yma, felly rhaid dyfrio eto heno a dwi'n gobeithio cael amser I roi hadau moron i mewn cyn gadael am yr eisteddfod bore fory. Medrai ond aros tan pnawn Llun, ond dwi'n edrych ymlaen!