Ailddysgu

Monday 27 May 2013

Sioe Blodau Chelsea a garddio dros y gwyl banc


Es i Chelsea gyda tair ffrind dydd Gwener a chawsom amser gwyll.  ER ei fod yn bwrw – yn galed – trwy’r dydd.  Efallai mai un fantais o’r glaw oedd bod llawer o bobl yn mynd i gysgodi, a r’oedd yn haws gweld y gerddi.  Mae o’n sioe brysur iawn bob tro, dwi’n meddwl. Dyma rhai o’r gerddi gorau (yn fy marn i!):
Gardd Cymraeg!  Un garreg.  Un o’r gerddi crefftwyr (artisan gardens) oedd hon. 
Un arall bendigedig oedd Gardd M&M 



A hefyd gardd Homebase  


Erbyn dydd Sadwrn roedd hi’n braf a heulog, felly penwythnos o weithio yn yr ardd – ar ôl yr holl ysbrydoli.  Treuliais cryn dipyn o amser yn tacluso ac yn chwynnu: yn enwedig i gael y chwyn allan o’r brics wrth ymyl y tŷ. Mae’r ffa i gyd i fewn, rwan, a hefyd y courgettes, a’r tomatos i gyd i fewn yn y system a phrynais eleni.  A dyma ychydig o luniau o’r ardd.





Monday 20 May 2013

Asparagws a'r gog


Ychydig o flynyddoedd yn ol roedd gen i un flanhigyn asbaragws, a roedden ni’n cael dipyn bach – digon i ychwanegu i salad – a roedd o’n gwneud yn iawn felly prynais mwy i wneud gwely asparagws (wel, hanner gwely, i fod yn gywir).  Ond dydyn nhw ddim wedi llwyddo.  R’on yn meddwl efallai faswn yn tynnu nhw allan er mwyn defnyddio’r bwlch ar gyfer llysiau eraill.  A dwi wedi clywed (oddiwrth y dyn sy’n tyfu a gwerthu llysiau organig yn y farchnad misol) bod asparagws yn tyfu’n iawn gyda blodau, ac wrth gwrs, unwaith mae o wedi gorffen mae o’n edrych yn ddelfrydol gyda’r blodau).  A dyma llun o’r tiwlips – bron wedi gorffen rwan.  Efalle bydd yr asparagws yn mynd yn y gwely yma.



Mae popeth mor wyrdd ar y funud.  A bore Sul, pan roeddwn yn cerdded gyda’r ci (sydd yn cael bywyd braf iawn y dyddiau yma gan mai ci hen ydy o erbyn rwan) mi wnes i aros i dynnu’r llun yma:




 ac wrth sefyll i gymryd y llun, clwyais y gog.  Dwn im sut mae hi yng Nghymru y dyddiau yma, ond fel arfer yn fama dwi’n clywed y gog o leiau unwaith yn y tymor – ond yn aml – dim mwy na hynny.

A dydd Gwener dwi'n mynd i Chelsea - felly efalla bydd lluniau gwahanol yn y blog nesaf!

Monday 13 May 2013

Cnwd annisgwyl a mwy o'r ardd


Yn fy mhrofiad i, ar ol casglu tatws o'r pridd, dim ots faint dwi'n chwilio am y tatws bach, bach ac yn clirio nhw, mae wastad tameidiau o datws ar ôl, ac erbyn y Gwanwyn mae nhw yn tyfu i fynny trwy'r pridd, ac yn ymddangos.  Ond ddoe, wrth clirio’r gwely lle  roedd tatws yn tyfu llynedd, mi gefais cnwd annisgwyl fel gwelir yn y llun.  


Mae’n rhyfedd sut mae nhw wedi tyfu mor fawr dros y gaeaf a’r gwanwyn oer, tra bod planhigion y tatws dwi wedi plannu yn fwriadol yn fach, fach, fach...

Ar y funud, mae o’n oer yma gyda cawodydd drwm bob hyn a hyn.  Ond stori gwahanol iawn wythnos yn ol, dros y Gwyl Banc, lle roedd yn bosib, o’r diwedd, dal i fynny dipyn gyda gwaith yn yr ardd.  Felly llwyddais o’r diwedd i orffen plannu’r tatws, ac i wasgaru hadau betys a sbigoglys yn yr ardd, a ffa, courgettes, ciwcymbr a squash a mwy o letys yn y tŷ gwydr.  Dyma rhai o'r planhigion bach yn y tŷ gwydr.


Ffa Borlotti ydy'r rhain.  Mae nhw'n hardd iawn, yn fy marn i.  Dyma rhai llynedd



Dwi'n edrych ymlaen at tyfu dipyn mwy eleni.  Ac wrth gwrs mae o'n bosib sychu nhw ar gyfer y gaeaf.

Ond falle ddylwn i son am y brwydrau ac y methiannau hefyd.  Mi wnes i wasgaru hadau Rudbekia "Indian Summer" - ond  - dim byd, sydd yn drueni oherwydd eu bod mor hardd a defnyddiol.  Dyma un llun ohonyn nhw llynedd


Ac un peth newydd eleni ydy'r pys.  Am ryw reswm dwi erioed wedi tyfu pys o'r blaen, ond eleni, mae rhai yn y tŷ gwydr, yn mynd allan bob dydd rwan, i galedu.  Dwi wedi cael brwydr efo'r llygod  yn y tŷ gwydr - a dyna pam mae'r pridd braidd yn oren - powdwr chili i gadw'r llygod i ffwrdd!


Monday 6 May 2013

Clwb Darllen Llundain, Bethan Gwanas a Gwenyn


Dwi’n meddwl bod ymuno a’r clwb darllen Llundain yn un o fy mhenderfyniadau gorau. Nos Lun diwethaf, daeth Bethan Gwanas i ymuno a’r clwb darllen Llundain a Fforwm Cymry Llundain am y noson.   Roedd aelodau’r clwb wedi darllen Hanas Gwanas - sydd yn llyfr difyr, bywiog -  a trist mewn llefydd. Un o’r pethau mwyaf diddorol i fi, (ond mae’n anodd dweud achos bod ‘na gymaint) roedd y ffaith ei bod hi wedi dod i werthfawrogi Cymraeg yn weddol hwyr yn ei phlentyndod.  Y brif reswm, meddai hi, am iddi hi beidio darllen Gymraeg, oedd diffyg llyfrau da, cyffrous a mewn iaith sydd yn adlewyrchu iaith y stryd: iaith mae pobol yn siarad.  A efallai bod hyn yn peth da - os dyna un o’r pethau i droi Bethan i fod yn awdures.  Roedd hi hefyd wedi gofyn i bobl ifanc pan roedden nhw ddim yn darllen llyfrau Cymraeg a’r ateb oedd – mae nhw’n boring, mae rhaid darllen nhw efo geiriadur gerllaw – a dim rhyw.  Felly aeth Bethan ymlaen i ysgrifennu’r fath o lyfrau roedd hi’n gobeithio bydd yn denu bobl i ddarllen yn y Gymraeg. A mae hi wedi llwyddo.  Roedd ei hunangofiant ar frig y restr o’r best sellers Cymraeg. A chawson noson gwych gyda hi.  

Prynais ei llyfr diweddaraf: Y Llwyth.  Ia, llyfr ar gyfer plant ydi o.  (Ond mae rhaid i fi gyfaddef, dwi’n hoff o lyfrau plant a mae nhw’n ffordd dda o ymarfer a’r iaith.)  Beth bynnag, mae o’n lyfr dda iawn – a dwi wedi sylwyddoli fy mod i heb darllen ei holl lyfrau i blant – felly mi fyddaf yn gyrru archeb i Palas Prints cyn bo hir.  Ac os dach chi ddim wedi darllen llyfrau bethan Gwanas - ewch amdani!  - ac os dach chi eisiau gweld Bethan mewn cyd-destyn arall – ewch i Clic i wylio Sioe Tudur Owen ar ddiwedd Ebrill, i weld y hwyl.

Y peth arall da a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf roedd y penderfyniad i wahadd blaladdwyr (pesticides) sydd yn debyg o fod yn niweidiol i wenyn.  Mi wn bod y dystiolaeth ddim yn gyflawn ond dwi’n meddwl bod gormod o berygl i beidio gwneud hyn a roeddwn yn falch iawn gweld bod Brwsel wedi gwneud y penderfyniad yma.

Dwi’n llawer hwyrach nag oeddwn i’n gobeithio yn postio hon: wedi bod yn dal i fynny efo’r garddio dros y penwythnos – mwy am hynny i ddod.