Ailddysgu

Tuesday 5 February 2013

Saer Doliau yn Llundain


Mi gefais noson ardderchog yn y theatr neithiwr: dwi ddim ym mynd yn aml iawn ac yn sicr dwi ddim yn mynd  i'r theeatr yn Llundain gan fod gennyn ni theatr ddymunol yn MK.  Ond, pan mae ddrama Cymraeg ymlaen, mae o'n beth wahanol.  Diolch i gwmniäu  fel Invertigo sydd yn gwneud ddramau brofiadol, roedd Saer Doliau yn y theatr Finsborough.

Roedd Heno yno, felly cewch i weld be sydd ganddyn nhw i ddweud wrth wylio eto ar Clic.  Es i gydq grŵp bach o glwb darllen Llundain.  Roedd y ddrama yn wych: yn llawn egni, ond eto yn ddu mewn llefydd.  Dwi ddim yn dallt llawer o wir ystyr y ddrama, eto, ond mi fyddan  ni  yn trafod y ddrama ar ddiwedd y mis, yn y clwb darllen Llundain, a dwi'n meddwl mi fyddai yn darllen amdani  hi hefyd.  Felly efallai bydd nodyn arall amdani hi.

A mae'r theatr Finsborough yn werth ymweliad hefyd.  Pan glwyais bod na ddim mwy docennau ar gael neithiwr, mi roeddwn yn disgwyl gweldy  theatr dan ei sang.  A mi roedd.  Ond theatr bach, bach ydy hi, yn cynnwys, swn i'n dweud, 50. Wedi dweud hynny, mae nifer berfformiad, felly os ydyn nhw i gyd yn llawn, bydd digon o bobl yn gweld y ddrama.  Ac mae 'na is-deitlau Saesneg, hefyd.

Gwych!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home