Ailddysgu

Sunday 24 February 2013

Darllen, garddio, cogninio, bwyta...


Pedwar peth dwi’n hoffi, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o goginio’r dyddiau yma.  Ta beth, mae hi wedi nod yn benwythnos oer, oer a llwyd.  Gwahanol iawn i benwythnos diwethaf, pan roedd yn teimlo fel Gwanwyn.  A fell y does dim llawer o awydd i godi yn y bore, er bod rhaid yn y diwedd i fynd allan gyda’r ci.  Ond cyn gwneud hynny, dwi wedi bod yn darllen dipyn bach.  Ar y funud dwi’n darllen Y Storïwr.  Mae o wedi cael adolygiau da iawn.  



Doeddwn i ddim yn siŵr ar y ddechrau, ond rŵan dwi’n mwynhau o gymaint.  Llyfr dwi ddim eisiau gorffen, felly dwi’n trio peidio rhuthro trwyddo fo gormod.  Dyma be mae Janice Jones yn dweud: “Mae iaith y nofel hon yn llifo, a chyda'i holl haenau a'i holl ddarlleniadau posibl, mae'n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw”. 


 Ond doedd o ddim yn bosib darllen trwy’r penwythnos.  Aethom allan i’r meithrinfa yn Buckingham  i brynu goeden fedwen arian.  Roedd un yn tyfu yn yr ardd gefn: wedi bod yna am flynyddoedd, ond llynedd, roedd yn amlwyg ei bod wedi marw.  Mae'r fedwen, ar wahan i fod yn dlws, yn ddefnyddiol iawn i adar gwyllt.  Felly roedden ni eisiau un arall,  a tra bod ni yna, prynu shallots newydd, oherwydd bod y rhai a aeth i fewn yn y Hydref wedi pydru gyda’r holl glaw, a dipyn o hadau.  Rhyfedd fel ei bod bron yn amser i wasgaru cenin, er bod cenin llynedd yn dal yn yr ardd.  Ond dim llawer ohonnyn nhw.



Un hoff ryseit ydi "Leek Corustade" yn yr hen lyfr Cranks.  A dyna be wnes i ar ol dod yn ol  o'r feithrinfa.  Roedd hi bron yn dywyll erbyn i fi fynd allan i'r ardd i gasglu'r cenin.  A dyma llun o'r "Croustade" wedi ei goginio.  Dydy o ddim yn edrych rhy dda yn y llun, ond mi roedd yn flasus!



Sunday 17 February 2013

Haul, cae gwlyb a bod yn ôl yn yr ardd

Ro’n i’n falch gweld yr haul eto heddiw.  Ar ôl wythnosau o ddyddiau llwyd, eira, rhew a glaw, o’r diwedd roedd o’n teimlo fel Gwanwyn heddiw, ac er bod dipyn o waith gen i i’w gwneud, doedd o ddim yn bosib i fi beidio mynd allan am dro.  Tro yma, roeddwn i eisio mynd i lawr i’r cae yn ymyl yr afon.  Mae un cae, lle mae ŷd yn tyfu, yn denu sgwarnogod weithiau.  Dwi wedi cerdded heibio a gweld topiau du ei chlustiau wrth ben coesau’r  ŷd.  Ond dim arwydd o  ysgyfarnog heddiw.  Ond mi roedd arwyddion o’r glaw i gyd, gyda’r cae mor wlyb a’r dŵr yn eistedd arno fo. 




A dyma llun arall, y tro yma yn ymyl (ac yn) yr afon.

A mi lwyddais i gael hanner awr yn yr ardd.  Digon o amser i gasglu’r panas olaf y tymer,) a tri moron bach o'r ty gwydr) ag i ddechrau cynllunio be sydd  am fynd lle. 


Mae gwahanol gwlau uchel? (raised beds)? yn yr ardd llysiau a mae rhaid newid lle mae’r llysiau gwahannol yn mynd bob blwyddyn.  Mae’r cynllun wedi ei gwneud, rŵan, a’r gwaith nesaf ydi mynd trwy’r bocs hadau i weld be sy gen i, a be sydd angen prynu.  Dwi’n hwyr gwneyd hyn eleni.  Mae o’n dasg bleserus i’w gwneud pan mae’r tywydd yn wael, a’r hadau i gyd yn addewidion o bethau dda i ddod!

Saturday 16 February 2013

Arbrofi ar yr iPhone: problemau technegol

Wel, dwi ddim yn medru rhoi lluniau o'r ffon newydd i'r MacBook
Felly dwi am trio hefo'r ffon a gweld os medrai rhoi ychydig o luniau yma. Dyma blodau gynnar iawn: dwi'n meddwl mae'r draenen ddu ydy o? Arwyddion gynnar o'r Gwanwyn efallai?  (Ar ol postio hon/hwn (?) o'r iPhone dwi wedi mynd ar y gliniadur i newid o dipyn ac i ychwanegu dipyn mwy).  Felly mae o'n bosib cael y lluniau trwy defnyddio'r ffon, yn hytrach na'r gliniadur.  Ond dydy how ddim yn ffordd dda o gwneud hyn.  Beth bynnag, dwi wedi bod yn hynnod o frysur yn ddiweddar - gormod yn digwydd ac i'w gwneud yn y gwaith ac yn brysur tu allan i'r gwaith hefyd.  Ond heddiw, gyda'r haul yn gwennu, doeddwn i ddim yn medru aros i fewn prynhawn 'ma, er bod pethau i'w gwneud.  Fel, ac allan am dro, ac i fynny'r lon bach sydd yn arwain o'r comin.  Roedd y gwrych yn llawn o adar, ac arwyddion o Natur yn dechrau deffro unwaith eto.

Labels:

Tuesday 5 February 2013

Saer Doliau yn Llundain


Mi gefais noson ardderchog yn y theatr neithiwr: dwi ddim ym mynd yn aml iawn ac yn sicr dwi ddim yn mynd  i'r theeatr yn Llundain gan fod gennyn ni theatr ddymunol yn MK.  Ond, pan mae ddrama Cymraeg ymlaen, mae o'n beth wahanol.  Diolch i gwmniäu  fel Invertigo sydd yn gwneud ddramau brofiadol, roedd Saer Doliau yn y theatr Finsborough.

Roedd Heno yno, felly cewch i weld be sydd ganddyn nhw i ddweud wrth wylio eto ar Clic.  Es i gydq grŵp bach o glwb darllen Llundain.  Roedd y ddrama yn wych: yn llawn egni, ond eto yn ddu mewn llefydd.  Dwi ddim yn dallt llawer o wir ystyr y ddrama, eto, ond mi fyddan  ni  yn trafod y ddrama ar ddiwedd y mis, yn y clwb darllen Llundain, a dwi'n meddwl mi fyddai yn darllen amdani  hi hefyd.  Felly efallai bydd nodyn arall amdani hi.

A mae'r theatr Finsborough yn werth ymweliad hefyd.  Pan glwyais bod na ddim mwy docennau ar gael neithiwr, mi roeddwn yn disgwyl gweldy  theatr dan ei sang.  A mi roedd.  Ond theatr bach, bach ydy hi, yn cynnwys, swn i'n dweud, 50. Wedi dweud hynny, mae nifer berfformiad, felly os ydyn nhw i gyd yn llawn, bydd digon o bobl yn gweld y ddrama.  Ac mae 'na is-deitlau Saesneg, hefyd.

Gwych!

Sunday 3 February 2013

Crwydro o gwmpas

Mae o’n anodd defnyddio’r cyfriadur - neu’r gliniadur, i fod yn wir, gyda Sox (y gath) yn mynu eistedd arno fo.  Ta waeth. Dwi wedi bod allan yn mwynhau yr haul, gan ei fod braidd yn brin, y dyddiau yma.  Felly dyma ychydig o luniau....

Adfeilion o hen eglwys Stanton.....yn anffodus wedi cael eu fandaleisio (mi wn, dim gair da!) yn ddiweddar.  Mae’r adfeilion yma ond ryw ddwy a hanner filltir i ffwrdd o’r tŷ, ond mae o fel gwlad wahannol: darn o gefn gwlad yn y ddinas.  Mae nhw’n agos i’r gwarchodfa natur, ac yn fama mi fyddaf yn clywed y gôg fel arfer.

Mae’r eyrlysiau gyntaf allan yn yr ardd, o’r diwedd a hefyd yn fama, yn Great Linford lle ’roedd ystad mawr - a heddiw mae’n lle braf i gwrydro o gwmpas.



Mae’r gamlas, sydd ar gyrion yr hen ystad, hefyd yn lle braf i gerdded, yn enwedig pan mae’r haul allan, fel ’roedd hi ddoe, a dyma llun o hen dafarn - tŷ rŵan.


A fory, rhwybeth gwahanol iawn.  I'r ddinas fawr i weld y ddrama Saer Doliau gyda cyfeillion o'r grwp darllen Llundain.  Dwi'n edrych ymlaen.