Ailddysgu

Saturday 24 November 2012

Ti a chi, neu chi a ti efallai - a grwp Milton Keynes

Dwi’n falch iawn bod cyfres newydd o Ar Lafar wedi dechrau.  Roedd y rhaglen diwethaf, yn trafod defnyddio chi a ti, a dwi wedi sylwi hefyd sut mae’r peth wedi newid dros y blynyddoedd, yn enwedig gyda plant yn defnyddio “ti“ i siarad gyda’i rhieni.  Doedden ni ddim yn siarad Cymraeg gartref, ond yn sicr, yn tŷ Nain mi faswn byth, byth wedi defnyddio "ti" wrth siarad gyda Nain neu gyda fy anti.  Ac hyd yn oed rŵan, dwi’n meddwl fy mod i’n tueddu defnyddio chi pan mai eraill yn defnyddio “ti“.   O be dwi’n dallt, mae’r peth wedi newid yn Ffrainc hefyd.  Mae’n siwr bod hyn wedi digwydd mewn llawer o wledydd lle mae na ddau ffordd i ddweud o, gyda’r perthynas rhwng rhieni a plant wedi newid dros y blynyddoedd.   Dau beth doeddwn i ddim yn gwybod:  bod pobl yn defnyddio “ti“ yn bwrpasol yn Ffrainc, weithiau, fel yr heddlu, i ddangos pŵer a bwysleisio gwahaniaeth statws ( a diffyg parch!)  a bod ’na llefydd yng Nghymru lle mae’r trydydd person yn cael ei defnyddio yn lle “ti“.  Diddorol.

Dwi weid trefnu cyfarfod gyntaf Cylch Siarad Cymraeg Milton Keynes.  Dan ni am gyfarfod mewn tafarn lleol now Iau.  Dwn i ddim faint ddaw!  Mae dwy o fy gydweithwyr yn y Brifysgol wedi dechrau dysgu Cymraeg.  Dwi wedi bod yn cyfarfod gyda nhw, amser cinio dydd Mawrth, a mae un person arall sydd ar y cwrs Cymraeg "Croeso" am ddod, a un sydd yn methu dwad oherwydd apwyntiad arall.  Felly efallai bydd yn grwp fach.  Gawn ni weld.

Wednesday 21 November 2012

Pethau Cymraeg diweddar


Fel arfer dwi’n trio cyfrannu at y blog bob wythnos, weithiau mwy, os bosib.  Ond yn ddiweddar, dwi ddim wedi cael llawer o amser.  Felly dyma rhai gofnodion am bethau dwi wedi bod yn gnweud: pethau Cymraeg y tro yma – a efallai dipyn am arddio eto tro nesaf. 

Es i gwrs undydd Cymraeg ar ddechrau’r mis a wedyn, y nos Sadwrn ganlynol, es i weld a chlywed Dafydd Iwan yn y Ganolfan Cymry Llyndain.  Roedd o’n ardderchog, a llawn o egni.  A braf iawn roedd clywed yr hen ganeuon yn ogystal a rhai fwy ddiweddar.  Ddois yn ol gyda dau CD newydd (newydd i fi, beth bynnag). 

Dwi ddim wedi son am y cwrs (Cwrs Maestroli trwy’r post, Prifysgol Bangor) ers dipyn, ac i ddweud y gwir, dwi wedi bod yn gweithio arno fo braidd yn araf.  Ar yr un llaw, does dim cwrs arall i’w ddilyn, felly dwi ddim eisiau gorffen fo, ond, os dwi am sefyll yr arholiad uwch, bydd angen amser i baratoi ar gyfer hynny. Felly, ar ol gorffen y bedwaredd ar bymtheg uned, bydd ond un uned ar ol.  Yn bendant mae o’n gwrs dda iawn a dwi wedi mwynhau gweithio arno fo.

Mae fy rhestr ‘Dolig o lyfrau Cymraeg yn tyfu.  Dyma beth sydd ar y rhestr byr a hir ar y funud: (1-4 ydy’r rhestr byr)
1.     Hanas Gwanas (gan Bethan Gwanas);
2.     Cyw Melyn (gan Gwen Parrott);
3.     Saer Doliau (Gwenlyn Parry)
4.     Heulfan, (Llwyd Owen)

5.     Y Storiwr gan Jon Gower
6.     Blasu gan Manon Steffan Ros
7.     Ddynes Dirgel (Mihangel Morgan)
8.     Draw Dros y Tonnau Bach (Alun Jones);
9.     Mab y Cychwr (Haf Llewelyn)

Dwi am brynu y pedwar gyntaf, yn bendant.  Dwi wedi mwynhau BOB llyfr gan Bethan Gwanas, a dwi’n edrych ymlaen at darllen ei hunangofiant.  A fel mae’r criw bach sy’n darllen hwn yn gwybod, dwi’n hoff o lyfrau ditectif, felly mi fyddai yn prynu llyfrau newydd Gwen Parrott a Llwyd Owen (er wnes i ddim fwynhau y llyfr diwethat Llwyd Owen gymaint a’r lleill).  Pam ydy drama Gwenlyn Parry ar y rhestr?  Oherwydd fy mod am fynd i weld perfformiad yn Llundain, yn y Gymraeg, ym mis Chwefror. A dwi’n meddwl fy mod am wneud adolygiad ar gyfer y portffolio sydd yn rhan o’r  Arholiad Uwch. Dwi ddim yn sicr wnai brynu’r llyfrau eraill ar y rhestr, felly os dach chi wedi eu ddarllen nhw, mi faswn yn hoffi cael eich syniadau ac awgrymiadau. 


Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg dim wedi bod yn gwylio Hwb, (S4C) sydd ar gyfer dysgwyr, a sydd newydd orffen.  Dwi wedi bod yn ei gwylio – a dwi’n meddwl ei fod yn ardderchog.  Dyma her mawr.  Sut i wneud un raglan ar gyfer dysgwyr – i gyd gyda gwahannol brofiadau : rhai yn ddechrewyr, eraill yn brofiadol yn y Gymraeg.  Yn fy marn i, mae Hwb wedi ateb y her yma mewn ffordd ardderchog – gyda amrywiaeth o gyfweliadau diddorol, dysgwr (Matt) yn y stiwdio, dysgwr yr wythnos, tips am dysgu Cymraeg, pethau doniol fel y gwers Cymraeg – a hefyd, wrth gwrs, Nia Parry wastad yn fwydfrydig.  Er bod hwb wedi gorffen am dipyn, mae cyfres arall o Ar Lafar wedi dechrau.  Gwych!  A mwy am hwnna tro nesa, efallai.

Saturday 10 November 2012

Methu plannu hadau yn yr ardd a tacluso’r tŷ gwydr


Dyma’r amser o’r flwyddyn i baratoi am flwyddyn nesa.  Felly, mae’ r garlleg yn mynd i mewn ym mis Hydref – mae rhaid iddyn nhwn cael tywydd oer i lwyddianu.  Mae’r tywydd wedi bod yn wlyb iawn am ryw dair wythnos rŵan.  Serch hynny, llwyddiais i blanu’r garlleg – dau wahannol fath.  Ond pwy a ŵyr os bydden nhw’n iawn yn y pridd gwlyb?

Ond stori arall ydy’r ffa a’r pŷs.  Fel arfer dwi ddim yn tyfu pŷs; eleni ron i eisiau trio rhoi’r rhain i fewn yn yr Hydref hefyd – ond d’oedd dim lawer o siawns gyda’r tywydd.  Bob tro roedd gen i amser, roedd hi’n bwrw, neu roedd y pridd yn rhy wlyb.  Mae hi rhy hwyr rŵan I’r pŷs dwi’n meddwl, ond mae ffa llydan ym medru mynd i fewn hyd at diwedd mis Tachwedd.  Felly, penwythnos diwethaf, a’r pridd yn wlyb o hyd, mi gymerais cyngor Monty Don, o Garderners’ World a rhois ffa yn y tŷ gwydr i ddechrau tyfu mewn potiau, rhywle sych, cysgodlyd.  Dwi erioed wedi gwneud hyn o’r blaen, felly gawn ni weld sut byddan nhw.  Y syniad ydy I drawsblanu nhw I’r ardd pan mae nhw wedi dechrau tyfu a’r tywydd yn well.

Tra roedden yn yn ty gwydr, dechreuais tacluso dipyn.  Does byth ddigon o amser yn ystof y tymor tyfu.  A dwi ddim yn rhywun daclus ofnadwy, chwaith.  Ond mae o’n bwysig clirio i fynny dipyn.  
A dyma sut mae o’n edrych ar y funud. 



 Y rhan fwyaf o’r blanhigion wedi mynd, ond dipyn o salad ar ol, a hefyd pupurau ac aubergines – ond mae rhaid cymryd gofal efo rhain, neu mae llwydni yn datblygu arnyn nhw, r’amser yma o’r flwyddyn.  Felly roedd rhaid i fi casglu rhai ohonnyn nhw, a dyma nhw.

Sunday 4 November 2012

Cwrs Un-Dydd Llundain a Paned a Chacen a..



Mi ges i ddiwrnod da yn Llundain ddoe, ar y cwrs Hydref, un-dydd.  Os dach chi’n diwtor, mae’n siwr ei fod yn anodd iawn penderfynu be i ddysgu – hyd yn oed mewn un dosbarth mae  profiadau y dysgwyr a’r safon o Gymraeg yn wahanol iawn, a rhai pobl eisiau cael gwersi gramadeg, ac eraill eisiau cyfle i siarad a trafod.
Dechreuon ni yn y bore yn ein grŵp ni, gan ateb y cwestiwn, be sy’n anodd  i ni ynglyn a dysgu Cymraeg?  Lle dda i ddechrau, dwi’n meddwl – a diddorol gweld amrywiaeth yr atebion.  Dyma rhai pethau ar y rhestr y gwnes i, o be oedd pawb yn dweud:
  1. Treigladau (o hyd – fi ydi honna!:-)
  2. Deall pobl yn siarad, yn enwedig pan mae nhw’n siarad yn gyflym ac yn enwedig clywed lle mae geiriau yn dechrau a diweddu
  3.  Cael cyfle i siarad Cymraeg.  Problem iaith lleuafrif ydy hon, lle mae o’n bosib bod yn Nghymru a dim cael cyfle i siarad Cymraeg oherwydd mae pawb yn siarad Saesneg. 
  4.  Soniodd rhywyn arall am fod hen – a siwr o fod, mae’r ffaith bod y cof yn dirwyio dim yn helpu .
  5. Dim athro
  6. Parhau i gyfiethu yn eich pen – yn lle meddwl yn y Gymraeg

      A dwi wedi bod yn meddwl am y rhestr yma a be fedrwn i wneud am y pethau hyn:


  1.      Treigladau.  Wel, i fi, mae’n siwr fy mod i ddim yn gweithio ar y gramadeg, digon.  Ond eto, dwi’n siwr hefyd, ei fod o ddim yn bosib dysgu y rheolau i gyd – a, petai o’n bosib, bydde dim digon o amser i feddwl am y rheol a defnyddio fo – yn sicr mewn siarad.  Felly, dwi’n trio edrych ar y cangymeriadau dwi’n gwneud (pan dwi’n cael adborth) a dallt a cofio’r ffordd cywir – ond mwy na hynny, dwi’n trio darllen digon o bethau Cymraeg gwahanol a gobeithio bydd y patrwm cywir yn dechrau dod yn ran ohonno fi.  Efalla mae o’n cymryd amser hir....
  2.      Dallt pobl yn siarad, yn enwedig pan mae nhw’n siarad yn gyflym.   Wel, dwi’n ffodus.  Yn y bôn, dydi hwn ddim yn broblem i fi, yn enwedig yn y Gogledd, achos nes i dyfu i fynny yn clywed ac yn siarad Cymraeg.  (Mae dallt rhai pobl yn y Dde yn rhywbeth wahanol, weithiau)  Ond dwi’n meddwl efallai bod bob iaith yn ei weld yn gyflym i ddysgwyr.  Er enghraifft , wedi dysgu rywfaint o Eidaleg, dwi wedi anghofio llawer ohono fo.  Ond, pan dwi’n gwylio rhywbeth fel Montabano, dwi’n trio clywed rhai o’r geiriau – a, gyda dipyn o amynedd ac amser, mae o’n dod yn glirach.  Dwi’n meddwl mae’r cyfrinach ydy cael digon a digon o brofiad o wrando ar y iaith. (Ac amynedd.... 
  3. Cael cyfle i siarad Cymraeg.    Mae hwn yn anodd – enwedig pan dach chi’n byw yn Lloegr!  Ond mae o hefyd yn anodd yng Nghymru, i ryw raddau.  Un peth a fedrai helpu llawer ydy cael ffrind Cymraeg i siarad gyda nhw – a gyda’r we y dyddiau yma mae hwnnw’n haws nag oedd o.  Dwi’n ddiolchgar iawn i Gareth (cyfarfon ni ar gwrs Cymraeg) am y cyfle i siarad ar y ffôn pob wythnos.
  4. Yr ochr arall o’r cof yn dirywio (wrth heneiddio) ydy bod dysgu iaith yn helpu chi osgoi dementia, yn ol y sôn.
  5.   Heb athro, dwi’n meddwl bod rhaid i ni edrych pethau i fynny ein hunan, cael help gan ein ffrindiau – a hefyd defnyddio’r we cymdeithasol – edrychwch ar llwyddiant SSIW
  6. Parhau i gyfiethu yn eich pen: Ia, dwi’n cytuno gyda hwn.  Ac yn fama hefyd, mae’n bwysic cael digon o siawns i gyfathrebu, ac i gyfathrebu – a wedyn mwy o gyfathrebu....

Wedi gorffen y ddarlith rwan!  Felly un neu dda beth arall am ddoe.  Yn gyntaf, ‘roedd Ellir Gwawr yna, gyda ei llyfr newydd, wedi datblygu o’r blog Paned a Chacen.  
Dwi wedi mwynhau y blog , felly, er fy mod i ddim yn gwneud llawer o bobi –mi brynais y llyfr, a dwi’n gobeithio cael fy ysbrydoli.  Yn sicr mi fydd yn trio un neu ddau o’r ryseits.
As wrth mynd yn ol ar y tren, ar ol cyfarfod gyda ffrind, a cael bryd o fwyd ardderchog yn El Parador  gorffenais darllen Dyn Ddirgel - a dwi wedi mwynhau y llyfr yn arw.