Ailddysgu

Sunday 29 January 2012

Gwylio adar yn yr ardd - neu ddim


Mae'r "Big Garden Birdwatch" yn digwydd y penwythnos yma. Mi wnes i sgwennu amdanno fo llynedd, yma. A mi welais ychydig o adar ar y pryd. Ond heddiw, es i'r gegin am hanner awr wedi naw bore ma, o ble dwi'n medru gweld yr ardd, a lle mae teclan bwydo'r adar, a mi welais i - dim byd o gwbl! Mae'n wir ein bod ni ddim wedi bod yn llenwi'r peth bwydo digon aml, ond dwi'n meddwl ella, nad ydy hanner awr wedi naw yn y bore yn amser dda. Cyn mynd allan, mi welais titw tomos las, a ychydig o adar eraill yn bwydo ac wrth y wal cefn. Ond pan ddoth yr amser i gyfri'r adar, doedd dim un i gyfri!

Mae o'n bosib hefyd (yn mwy na bosib) bod y tywydd yn cael effaith. Ac er ei fod braidd yn oer, dyn ni ddim wedi cael eira, na'r tywydd garw cawsom llynedd, lle mae'n anodd i'r adar dod o hyd i fwyd. Felly pan mae'r tywydd fel 'ma, dan ni ddim yn gweld gymaint o adar yn yr ardd.

Ond mae'r cynefin bach yn y llun yn un gyfoethog iawn i adar. Mi dynnais y llun yma wrth cerdded y ci. Mae nant bach yn rhedeg ger y llwybr sy'n arwain at yr afon; a coed a llwyni a mueri tu ol i'r nant a hefyd eiddew ar wal y warws yn y cefndir a mae rhandiroedd yr ochr arall o'r llwybr, a wedyn caeau. A dwi wedi sylwi o'r blaen bod y llecyn yma yn denu nifer o adar. Mae'n siwr bod y cyfuniad o dwr, lloches a aeron yn gwneud hwn yn gynnefin da.

Friday 27 January 2012

Blogiau Cymraeg

Weithiau, dwi'n edrych o gwmpas y we i weld pa flogiau Gymraeg sydd ar gael. Mi ddois i ar draws Rhestr heddiw. Mae'r safle we yn disgrifio Rhestr fel casgliad o bob blog yn Gymraeg ar y we- a mae o'n bosib gwel blogiau yn ol y pwnc sy'n cael ei drafod yn ol pwnc. Felly mae o'n bosib gweld y blogiau i gyd am ddysgu Cymraeg (20 ohono nhw) neu am fwyd neu am beth bynnag. Wrth gwrs dydi bob un flog ddim yn cadw at un bwnc, felly mae'n dda i weld bod rhai flogiau ym ymddangos mewn sawl categori. Un flog dwi'n hoffi ydy Asturias yn Gymraeg (blog dyddiol am/o Asturias, gogledd Sbaen). Mae'r blog yma yn trafod garddio, cefngwlad, gwleidyddiaeth a phwnciau eraill. Wrth mynd trwy'r rhestr yma darganfais flog garddio sy'n newydd i fi: "Hadau" a oedd yn edrych yn ddiddorol - ond yn anffodus mae'r blog diwethaf wedi cael ei sgwennu ym Medi 2010...............

Dwi newydd dod ar draws flog arall dwi am ddarllen yn y dyfodol, hefyd - am ddarllen: . Mae'r rhan fwyaf o lyfrau sy'n cael ei drafod yn Saesneg, yn y flog yma. Ond mae o'n ddiddorol.

Friday 20 January 2012

Dysgu Iaith trwy Cerddoriaeth

Un peth dwi’n gwneud fel rhan o’r Cwrs Maestroli ydy darnau o sgwennu, a pwnc y darn olaf oedd “cerdd sy’n golygu llawer i chi”. Dewisais Nant y Mynydd, am sawl reswm: dwi'n cofio dysgu'r darn yma yn yr ysgol, felly mae'n gysylltiedig a Chymraeg fy ieuengtid, a fy ngwreiddiau Cymraeg a dwi’n hoff iawn ohonni hi; mae'r cynghaneddu a'r odli yn gwneud iddi hi redeg yn hawdd a dwi'n gallu cydymdeimlo'n llwyr gyda awch y fardd i fod allan ar y mynydd - ac ei hiraeth am Gymru.


Ond may hyn wedi gwneud i fi feddwl am ddefnyddio gerddi i ddysgu’r iaith. Mae llawer o gerddi yn weddol hawdd i’w gofio. Ac unwaith mae cerdd yn eich cof, mae gennych chi ryw adnodd ardderchog. Os dach chi isio trio cofio lluosog coch, fel engraifft, mae “rhosod cochion” yn “lan y mor” yn medru rhoi’r ateb i chi, a mae o’n ffordd o ddysgu rhai o batrymau’r iaith sydd yn weddol hawdd ac yn aros yn y cof.

Mi brynais y llyfr Hoff Gerddi Natur pan oeddwn i ym Mangor ar ddechrau’r flwyddyn, ac wrth dechrau edrych ar y barddoniaeth yma, sylwyddolais bod sawl cerdd roeddwn yn adnabod (rhai ddarnau ohonnyn nhw), ond wedi anghofio – fel Y Lili Wen Fach. Dach chi’n cofio hon? Mae’n siwr bod hi’n cael ei ddysgu mewn sawl ysgol, ond roeddwn i wedi llwyr ei anghofio hi a cerdd addas iawn i Ionawr – dyma’r penill cyntaf:

O Lili Wen Fach, o ble daethost di,

Ar gwynt mor arw ac mor oer ei gri?

Sut y mentraist di allan drwyr eira i gyd?

Nid oes flodyn bach arall iw weld yn y byd!

Felly dwi’n mynd ati I ailddysgu fy hoff gerddi a cerddi newydd hefyd.

Sunday 15 January 2012

Pieta

Anghofiais son, ta r'on i'n siarad am ddarllen, fy mod wedi gorffen darllen Pieta, gan Gwen Pritchard Jones, tra roeddwn yng Nghymru. Mae'r nofel wedi ei seilio ar stori gwir, er bod y manylion a pam aeth y brief gymeriad i fyw efo'i frawd wedi cael ei chreu gan yr awdures. Beth bynnag, mae o'n hanes ddiddorol, sy'n gafael arnach chi.

Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr ganlynnol, sy'n dilyn hanes y prif gymeriad ar ol gadael Cymru.

Wednesday 11 January 2012

Darllen

Wel, dwi wedi dechrau ar y twmpath o lyfrau a phrynais ym Mangor a Chaernarfon. Mwynhais llyfrau Gwen Parrot llynedd, felly r'on i'n falch cael llyfr arall ganddi hi - un doeddwn i ddim wedi clywed amdano - Cwlwm Gwaed, a sgwenodd amser yn ol. Fel y llyfrau mwy ddiweddar, roedd yn gyffroes, efo'r stori yn cydio (os dych chi'n hoff o "thrillers"). A symud ymlaen wedyn i stori wir: "Mwrdwr ym Mangor" gan John Hughes a oedd yn arwain ymchwiliad yr heddlu (pennaeth C.I.D yng Ngwynedd a Chlwyd ar y pryd). Fel mae o'n awgrymu ar y clawdd, mae'r llyfr "yn darllen fel nofel gyffrous a gafaelgar"

Am rywbeth ysgafnach, dechreuais i ddarllen llyfr Tudur Owen yn y gyfres Nabod - "Dangos fy Hun". Mae'r gyfres hon y cynnwys llyfrau sy'n debyg i hunangofiant mewn ffordd, ond gyda cyfraniaith o wahanol bobl sy'n nabod y person - a digon o lyniau hefyd. Ar y clawdd mae o'n deud:Cyfres o lyfrau gwahanol, llawn lluniau sy'n gyfle i ddod i nabod person amlwg trwy'i lygaid ei hun ac eraill. Dwi ddim wedi gorffen hwn eto.

A dwi am trio darllen Petrograd (William Owen Roberts) . Dwi wedi dechrau, a mae o'n dda - ond gyda 540 tudalen, dwi ddim yn siwr os wnai lwyddo. Gawn ni weld.

Sunday 8 January 2012

Ar ol yr Ysgol Galan


A dyma fi yn ol ô'r Ysgol Galan ac yn ol o Gaernarfon - a Bangor. Caswom ddwy diwrnod arall difyr, yn cael ein atgoffio o bethau bach a digon o gyfle i siarad yr i aith. Mi fyddaf yn trio siarad Cymraeg cyn gymaint a bosib pan dwi ar cwrs neu ysgol Gymraeg Dwi isio gwneud y gorau o'r cyfle - does dim llawer o gyfle yn Milotn Keynes, wedi'r cyfan.

Dwi'n trio penderfynnu os ddylwn i wneud yr arholiad uwch eleni. Y fanteision: bydd y strwythyr a'r disgyblaith yn dda, mi fydd o'n sicr yn gwneud fi ymarfer fy Nghymraeg, a dwi wedi darllen rhai o'r llyfrau angenrheidiol a.y.y.b. yn barod. A hefyd, ella ei fod yn syniad da tra dwi'n gwneud y cwrs Maestroli. Ac yn erbyn? Dwi'n meddwl bydd rhaid i fi gwneud yr opsiwn lenyddol yn y ffolio ( achos fydd ynrhyw beth arall yn annodd yn Lloegr); dwi ddim yn siwr os bydd ddigon i ddigon o amseer ac os bydd dyddiad yr arholiad yn hwylys (mae gwaith yn brysur iawn ar hyn o bryd). A falle bod y cwrs yn ddigon, ar y foment! Dwi hanner ffordd trwy'r cwrs. Dwi ddim yn meddwl mi fyddai mor gyflym gyda gweddill y cwrs, oherwydd bydd gwaith yn brysur, ond ddylwn gorffen erbyn yr haf.

Ond mi ges i wahadd i ddosbarth Elwyn, nos Iau, yn Llanfairpwll a oedd yn trafod a gweithio ar gyfer yr arholiad, a roedd hyn yn gymorth mawr - i weld y safon, a'r hen papurau.

Felly, dwi bron yn siwr dwi isio gwneud y r arholiad on dwi ddim yn siwr pa bryd. Efalla bod eleni rhy fuan. Bydd rhaid penderfynnu dros y mis nesaf.

A dyma’r llyfrau y phrynais. Dwi wedi gorffen un yn barod ond mae digon i gadw fi fynd, dwi’n gobeithio!

Wednesday 4 January 2012

Y Cwrs Galan a Caernarfon

Dwi wedi cael amser dda ar fy nhiwrnod cyntaf ar y Cwrs Galan ym Mangor ac yma yn aros yng Nghaernarfon. Mae na 13 oedoloon yn ei grwp ni: rhai wedi bid ar y cwrs llynedd hefyd, felly r'on i'n cofio rhai ohonnyn nhw, ond dim ei hanes. Me gan y rhan fwyaf o bobl sy'n dusgy neu ail-ddysgu Cymraeg, hanesion difyr: teulu a oedd yn siara yr iaith ond wedyn yn penerfynnu peidio; byw yng Nghymru fel plentyn ond dim yn siarad yr iaith digon ac rwan yn angen yr iaith ar gyfer ei swydd neu cyfarfod cymar Cymraeg. Beth bynnag mi wnaethom ddigon o siarad heddiw yn y dosbarth, ac ers hynny dwi wedi bod yn siarad Cymraeg yn y tafarn. Dyn yn honni ei fod yn fy nghofio i o'r ysol. Dwi ddim yn siwr i ddweud y gwir, ond cawsom sgwrs digon difyr. A tra roeddwn i yn gwylio'r ffilm Patagonia ar Clic (dwi ddi wedi ei orffen hi eto) a
roedd teulu go iawn o Batagonia hefyd yn aros yn y tafqrn wedi dod yn ol am trip i weld ffrindiau a siarad Cymraeg, heblaw'r gwr a oedd yn ymddiheuro am ei Saesneg - ond roedd hi reit dda a wedi'r cwbl medra i ddim siarad Sbaeneg.

Yn gynharach pnawn ma, ar ol diwedd y dosbrth es i chwilio am lyfrau Cymrqeg ail-llaw a rwan mae llwyth newydd o lyfrau gen i i lusgo'n ol ar y tren.

Sunday 1 January 2012

Y Blwyddyn Newydd

Wel, dyma ni, a dyn ni ar fin mynd am dro i wneud dipyn o ymarfer ar ol gormod o siocolat a gwin, neithiwr, er ein bod wedi aros adref.

Felly, blog byr - ac wrth edrych yn ol, dwi'n gweld fy mod wedi postio 50 flog yn ystod 2011. Mae hynny dipyn yn fwy nac yn 2010. Ac i fod yn onest, dwi ddim yn meddwl fydd llawer mwy yn ystod y flwyddyn nesa. Dwi'n edmygu'r pobl sydd yn medru blogio yn aml, a sy wastad (wel bron wastad) efo rywbeth ddifyr i ddeud. Fel engraifft, dwi'n hoffi blogs Cath o Asturias - mae'r cymysg o nodiadau am yr ardd (mae hi'n tyfu bob fath o lysiau a ffrwythau), y cefn gwlad a'r bywyed gwyllt - a'r gwleidyddiaeth yn ddiddorol iawn i fi. Ond swn i byth yn medru cyfrannu at y blog bob dydd!

Dydd Mawrth, dwi'n mynd i Fangor i'r Ysgol Galan - er mi fyddaf yn aros yng Nghaernarfon. Mae'r ysgol Galan yn para am dri diwrnod, felly cyfle i siarad Cymraeg, bod yn lle Gymraeg, a gobeithio mi fyddaf yn gwella dipyn