Diwedd y Flwyddyn
Dan ni ddim am fynd allan heno - a falle ddim am aros am ganol nos chwaith! Dwi ddim yn hoff iawn o ddathlu'r Blwyddyn Newydd - a dwi ddim yn hoff o aros i fynny yn hwyr. Felly ffilm ar y teledu a lasiad o win, a dyna fo.
Ond meddyliais bod o'n hen bryd i fi newid y rhestr o lyfrau ar y blog - sydd braidd yn hen erbyn hyn. Ond, gan fy mod i ddim wedi cadw'r rhestr i fynny dwi wedi anghofio llawer o'r llyfrau dwi wedi darllen yn ystod y flwyddyn, felly dwi am trio cadw well trefn yn 2013! A pan dwi'n cofio rhai o'r llyfrau eraill, wnai ychwanegu nhw.
Ond dros y Nadolig dwi wedi bod yn darllen dau lyfr Cymraeg: Cyw Melyn y Fall, gan Gwen Parrott, a Hanas Gwanas - gan Bethan Gwanas wrth gwrs. Dwi wedi mwynhau llyfrau Gwen Parrott o'r blaen a wedi darllen y llyfr gyntaf am Dela Arthur. Roedd y llyfr hwn ddim mor hawdd i ddarllen (i fi, beth bynnag). Un rewm ydy'r tafodiaeth (Sir Benfro?) ond heblaw am hynny, roedd yr hanes ddim mor hawdd i ddilyn chwaith, er bod hi'n ysgrifennwraig da iawn. Mi orffenais y llyfr, ac roedd o'n cydio ynddo fi ond, nes i ddim mwynhau o gymaint a'r llyfrau eraill gan Gwen Parrott.
Roedd o'n anodd rhoid Hanas Gwanas i lawr hefyd - a darllenais o dros ryw ddwy neu dair ddiwrnod. Ond dwi'n siwr byddai'n mynd yn ol ac aildarllen y llyfr. Llyfr diddorol am fywyd diddorol. Sut mae Bethan wedi llwyddo i wneud gymaint, tybed?
Dydd Mercher dwi'n mynd i aros yng Nghaernarfon a mi fyddai yn mynd i'r cwrs Galan eto. Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i ymarfer a falle gwella fy Nghymraeg - ac i chwilio am ychydig o lyfrau newydd (neu ail-law)
Blwyddyn Newydd Dda!