Ailddysgu

Wednesday 31 October 2012

Pantglas gan Mihangel Morgan


Nodiadau am Pantglas - gan y Clwb Darllen Llundain.  (Os gennych chi ddiddordeb mewn ymumo a'r grŵp, cysylltwch a fi neu Brendan)

Diolch i'r aelodau o'r grŵp sydd wedi fy helpu gan cywiro'r gwallau -  a wedi ychwanegu pethau.   Fy ddehongliad i ydy'r "adolygiad" yn y bôn, ac fel mae nhw'n dweud mewn llyfrau, fy mai i ydy unryw gwall neu  ddehongliad anghywir sydd ar ôl.


Dwi’n meddwl bod y rhan fwyaf ohonon ni wedi mwynhau y llyfr.  Portread o bentref bach ydy Pantglas, ac yn enwedig, portread o’r gymdeithas.  Efallai bod rhai o’r cymeriadau wedi eu gorlunio; yn bendant mae rhai ohonyn nhw dros ben llestri!  Ac efallai dyna beth oedd yr awdur yn bwriadu.  Roedd rhai o’r portreadau hyn yn ddigri iawn  ac roedd rhai o’r cymeriadau yn dipyn mwy cron - fel Cati yn y siop efallai.    Ac er bod y deialog dipyn yn anodd: “O ran iaith roedd rhaid i fi ailddarllen bob brawddeg oedd yn gynnwys  ‘wath’ yn lle ‘oherwydd’ neu ‘achos’ i wneud yn siŵr mod i wedi ei deall yn iawn“  roedd y sgwennu yn y naratif  yn ardderchog: “Mae’r awdur yn gallu disgrifio cymeriadau mewn cwta frawddeg fel y mae e gyda Wil gan ddweud ‘distawrwydd oedd ei famiaith’“

Yn y dechrau 'roedd y llyfr yn teimlo fel nifer o bortreadau cymeriadau gwahanol bentref bach: yn dechrau efo Siop Cati a wedyn Pant Glas a'r Canon, Pitar Ward, Estons a.y.y.b. ac er bod yna un stori fawr - y gronfa - roedd mwy o bwyslais ar y cymeriadau nag ar y naratif -  ac roeddwn i, beth bynnag, yn colli cael naratif cryf, ac yn ffeindio bob pennod yn  symud ymlaen i gymeriad a stori arall yn rhwystredig.  ’Roedd rhaid i fi edrych yn ôl weithiau i gofio’r cymeriad a’r stori.  Gyda’r llyfr yn datblygu, roedd llawer o’r storïau bach  yn cymysgu; rhai yn felys, (ar y dechrau, beth bynnag) fel Wil a Mair, rhai yn ddoniol,  a rhai, fel stori Pantglas ei hun, yn ragrithiol: a'r syniad o gael cyngor o’r gweinidog yn ddigri iawn. Mae’r naratif sydd yn datblygu  wrth i'r llyfr mynd ymlaen  yn cael ei ddatgelu yn raddol.  Mae digon o hiwmor, trwy’r llyfr, ac wrth i amser adael y pentref dod yn nes, mae o'n drist hefyd.

Un peth roeddwn ni yn trafod oedd y gwahaniaeth rhwng y llyfr yma a llyfrau eraill am gronfeydd yng Nghymru (fel Tonnau Tryweryn) sydd yn fwy gwleidyddol.   Mae Mihangel Morgan yn defnyddio  ffordd gwbl wahanol o ddweud stori am gwm yn cael ei foddi: dim son am ymdrech mawr i'w hachub a gwleidyddiaeth, ond dangos i ni sut roedd cymuned yn cael ei chwalu.  Ac erbyn i’r gymuned gwasgaru, roedden ni wedi dod i’w hadnabod - a rhai ohonon ni yn teimlo’n drist.  Hefyd, mae  Pantglas wedi ei seilio ar ddigwyddiadau  o amser gwahanol iawn i Dryweryn, felly, yn ogystal â stori am gronfa, mae o’n stori hanesyddol am bentref bach Cymraeg ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif.  Ac i ryw raddau mae tebygrwydd hefyd i Under Milkwood Dylan Thomas.

Roedden yn trafod y diweddglo, a’r ffaith bod rhaid  i ni'r darllenwyr gweithio a meddwl am ein  dehongliad o beth oedd wedi digwydd.  Ac fel dwi’n dallt (heb ddarllen llawer o lyfrau MM), dydi o ddim yn un i greu a gorffen stori drefnus.  Dywedodd un o’r grŵp ei fod o’n rhoi jig-so i ni adeiladu. A dwedodd aelod arall: ”Roeddwn i eisiau diweddglo mwy trefnus ond wedi meddwl amdano efallai dyna oedd y pwynt - nid diweddglo trefnus gafodd pentrefwyr Pantglas.”

Mae adolygiadau eraill (proffesiynol!) i’w gael yn fama  a fama.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home