Llynedd, cawson ni (yn llefydd yn Lloegr, beth bynnag) haf bach mihangel ar ddiwedd mis Medi, gyda tywydd poeth a haelog, ond eleni dwi ddim yn meddwl ein bod ni am gael fwy o dywydd boeth: does dim dwywaith bod y hydref wedi dod. Dwi'n hoffi lawer o bethau am y tymor yma a dyma rhai o'r pethau sy'n golygu hydref i fi.....
(1) Y cynhhaeaf o'r ardd a'r tŷ gwydr, yn ddiweddol dan ni wedi cael ffrwythau o'r aubergines (oes na gair Cymraeg am aubergines tybed?). Wn i ddim pam wnaethon nhw dim ffrwytho yn gynt, rhwystredig iawn.....ond o’r diwedd y mae llawer o aubergines bach yn dod ymlaen
Roedd yr un mawr yma
(ond dau mawr dan ni wedi gael yn gwbl gyfan!) digon i goginio cinio nos Wener. Dwi’n hoff iawn o’r “Aubergine Parmesan“ ryseit yn y llyfr “Cranks Vegetarian Recipes“ o’r wythdegau - dipyn bach fel yr Aubergine Parmesan traddodiadol ond gyda tatws - felly, yn defnyddio llysiau/ffrwythau o’r ardd: yr aubergine, tatws a tomoatos.
Dan ni wedi cael cnwd golew o gnau.
Mae'r rhain o goeden Eidaleg "filbert" (debyg i gnau’r collen) sydd yn byw yn y perllen anghyfreithlon a hyd at hyn, dydi'r wiwerod dim wedi darganfod y cnau.
Mae’r mafon hydref, bron wedi gorffen rwan dwi’n meddwl (gawn ni weld!). Cawsom “crumble“ ardderchog gyda afalau (o’r perllen Gerila) a’r mafon wythnos diwethaf. Addasiad o ryseit gan Hugh fearnley-Whittingstall yn y Guardian. Dyma fo cyn rhoi’r “crumble“ arno fo.
(2) Darllen llyfrau o flaen y tan (ac yn y gwely cyn codi yn y bore). Dwi wedi gorffen darllen ddau lyfr dwi wedi mwynhau yn ddiweddar: Min y Môr gan Mared Lewis a Pantglas gan Mihangel Morgan. Dan ni'n darllen hwn ar gyfer y clwb darllen, felly mwy amdanno fo ar ol ein gyfarfod nesaf..... Gyda llaw, ar ol dechrau y rhestr ar y dde, dwi ddim wedi bod yn cadw o i fynny.
(3) Dyddiau heulog gyda dail yn brysur yn troi ...
(4) Edrych trwy’r catalog llysiau ia, trist dwi’n siwr (ond yn angenrheidiol ar gyfer paratoi am y tymer newydd - mwy am hyn yn y dyfodol efallai)
(5) Ffrind efo rhandir yn rhoi llysiau i fi - er bod digon o datws bach gen i, doedd dim tatws mawr, na cabbaits, na’r “squash“ yma...
(6) Casglu mwyar duon. Dim llawer o gyfle hyd at hyn, ond dwi am fynd allan bore ma....