Cynnyrch o'r ardd, bwyta'n lleol a'r tylluan wen
Mae gymaint i gasglu yn yr ardd ar y funud: ffa, tatws, betys, ffa Ffrengig yn dechrau dwad, courgettes ( o'r diwedd), ciwcymbr yn y tŷ gwydr, hyd yn oed tomatos yn dechrau aeddfedu a digonedd o ffrwythau meddal, yn cynnwys cyrens coch. Felly, dydd Sul, mi baratois crumble gyda afalau a'r cyrens a mi oedd o yn flasus iawn. Dyma llun ohonno fo cyn rhoi y crumble arna fo ac ar ol cogninio fo.
Dwi ddim wedi coginio gyda cyrens coch o'r blaen, na bwyta llawer ohonnyn nhw, ond mae nhw'n dda hefyd i gymysglu gyda mafon a rhoi ar ben eich miwsli yn y bore gyda yogwrt.
Mae'r cawodydd yn ol, ond llwyddiais i feicio i caffi bach gerllaw, ddoe, am ginio gyda ffrind: rhan o gymuned "Camphill" sydd mewn rhai ffyrddiau yn debyg i Antur Waunfawr. Lle i bobl gyda anablau dysgu i fyw a gweithio. Mae caffi da wedi bod yna eisoes, yn coginio bwyd siml ond blasus, yn defnyddio eu cynyrch sydd yn cael ei tyfu gan y gymuned mewn dyll organic. Yn ddiweddar, mae siop bach wedi agor, yn gwerthu eu bara, ffrwythau a llysiau a dipyn o bethau eraill "gwyrdd" fel products “Ecover“. (Mwy am y siôp a’r cymuned mewn post arall efallai).
A gyda'r nos, a'r cawodydd wedi cilio, mi es am dro ar y comin gyda'r ci a chael y pleser o weld tylluan wen yn hela. Mae rhain braidd yn brin rwan, ond dyn ni'n lwcus bod 'na rhai yn nythu ar y comin weithiau a hefyd yn y gwarchodfa Natur sydd ddim yn bell i ffwrdd. Mae nhw angen gwair sydd ddim wedi cael ei phori. Aderyn hardd iawn. (Mae na fidio bach dda o’r dylluan yma yng Nghymru, gyda Iolo Williams yma).