Ailddysgu

Friday 29 June 2012

Clwb Darllen Llundain: Cysgod y Cryman


Roedd ail gyfarfod y clwb nos Lun diwethaf.  Criw bach, chwech ohonyn ni, ond criw eiddgar a diddorol.  Roedden i gyd wedi llwyddo i ddarllen y llyfr, ond dwi'n meddwl ei fod yn d ipyn o her weithiau,  yn enwedig ynglyn a'r geiriau mae Islwyn Ffowc Elis yn defnyddio.
Iaith hen, neu iaith y pulpud? Serch hynny, roedden  yn  cytuno bod y llyfr yn haeddu ei gymeriad,  yr ysgrifennu yn ardderchog a ein bod ni wedi  mwynhau ei ddarllen o.   A iaith barddonol, hefyd, enwedig ynglyn a disgrifiadau y cefn gwlad
Efalla bod y cymeriadau braidd y n ddu a gwyn.  (Sant neu dyn ydy Karl?) A pam newidiodd Gwylan ei sefydle ynglyn a comiwnyddiaeth? A be oedd hi eisiau o 'r perthynas?  Yn sicr mae o'n trin themau mawr yn y llyfr, yn cynnwys aberth, serch, teyrngarwch, perthynasau a gwleidyddiaeth a dosbarth cymdeithasol ac yn  trin bywyd emosiynol hefyd

Roeddwn i wedi darllen y llyfr o'r blaen, yn yr arddasiad i ddysgwyr a r'oedd hwn yn fwy annodd: llawer o eiriau anhysbys, ond roedd y narratif bras yn glir, ac y stori (roeddwn wewdi anghofio llawer ohonni) yn afaelgar a digon gyffrous.  Llwyddiant mawr i lyfr o'r pumpdegau dal ei dir am chwedeg flwyddyn.  Mwynhais o gymaint dwi wedi dechrau ailddarllen y l lyfr canlynol: Yn ol i Leifior

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home