Ailddysgu

Friday 29 June 2012

Clwb Darllen Llundain: Cysgod y Cryman


Roedd ail gyfarfod y clwb nos Lun diwethaf.  Criw bach, chwech ohonyn ni, ond criw eiddgar a diddorol.  Roedden i gyd wedi llwyddo i ddarllen y llyfr, ond dwi'n meddwl ei fod yn d ipyn o her weithiau,  yn enwedig ynglyn a'r geiriau mae Islwyn Ffowc Elis yn defnyddio.
Iaith hen, neu iaith y pulpud? Serch hynny, roedden  yn  cytuno bod y llyfr yn haeddu ei gymeriad,  yr ysgrifennu yn ardderchog a ein bod ni wedi  mwynhau ei ddarllen o.   A iaith barddonol, hefyd, enwedig ynglyn a disgrifiadau y cefn gwlad
Efalla bod y cymeriadau braidd y n ddu a gwyn.  (Sant neu dyn ydy Karl?) A pam newidiodd Gwylan ei sefydle ynglyn a comiwnyddiaeth? A be oedd hi eisiau o 'r perthynas?  Yn sicr mae o'n trin themau mawr yn y llyfr, yn cynnwys aberth, serch, teyrngarwch, perthynasau a gwleidyddiaeth a dosbarth cymdeithasol ac yn  trin bywyd emosiynol hefyd

Roeddwn i wedi darllen y llyfr o'r blaen, yn yr arddasiad i ddysgwyr a r'oedd hwn yn fwy annodd: llawer o eiriau anhysbys, ond roedd y narratif bras yn glir, ac y stori (roeddwn wewdi anghofio llawer ohonni) yn afaelgar a digon gyffrous.  Llwyddiant mawr i lyfr o'r pumpdegau dal ei dir am chwedeg flwyddyn.  Mwynhais o gymaint dwi wedi dechrau ailddarllen y l lyfr canlynol: Yn ol i Leifior

Thursday 21 June 2012

Hoe bach a pigion o'r ardd


Mae o wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar.  Mae'r gwaith yn wallgo, a dyn ni wedi cael pobol yn aros dros dau benwythnos o gwmpas y Jubilee -  a wedyn dydd Sadwrn diwethaf y cwrs undydd Cymraeg yn y Ganofan yn Llundain.




Ond mae o'n bwysig cymryd hoe bach tyndi?  A neithiwr a'r noson cynt, fues i'n crwydro o gwympas yr ardd efo'r camera, a fel welwch chi, mae rhan o'r ardd yn edrych yn hardd iawn. Hefyd mae o wedi bod yn braf beicio i'r gwaith, a cael sbec ar garddi pobl eraill ar y ffordd.  A dwi'n falch fy mod i wedi mwynhau'r ddau diwrnod o haelwen, achos dyn ni wedi cael cawodydd trwm heddiw a mae'r ardd o dan gymylau du heno.

Dyn ni i ffwrdd y penwythnos yma - a wedyn yn ol dydd Llun, mewn amser i fi fynd i'r Clwb Darllen Llundain i drafod Cysgod y Cryman. Do, mi wnes i orffen on, a ei mwynhau.  Ond mwy am hynna tro nesaf.

Labels: , ,

Monday 18 June 2012

Cwrs Undydd Cymraeg a Crwydro o Gwmpas Kings Cross



Mi fues i ar y cwrs undydd Cymraeg dydd Sadwrn diwethaf yn y Ganolfan.  Diwrnod da iawn fel arfer.  Ar wahan i gael cyfle i ddysgu lawer o eiriau newydd  a sgwrsio yn y Gymraeg, hefyd mi es a lwyth o lyfrau gyda fi, ar gyfer ffeirio llyfrau.  Mae'r llun yn dangos y rhai sydd wedi mynd.  Mwy o le ar y silffau felly!

Ar ol y cwrs mi gyfarddais a ffrind a aethom o gwmpas y datblygiad newydd wrth yml a ty ol i King's Cross.  Mae o'n ddiddorol iawn - gyda llefydd agored, a hen adeiladau diwydiannol wedi cael bywyd newydd yn arddangos celfi o wahannol fath.  Hefyd, mae llawer o llecynau cymunedol - fel un perllan fach, a digon o lecynau lle mae llysiau yn cael eu dyfu.  Ond efallai y gorau oedd y wal fyw.  Mae waliau byw yn trendi iawn ar y funud - a os dwi'n cofio'n iawn (o'r teledu...) r'oedd un fawr iawn yn y Chelsea flower show eleni.  Ond doeddwn i ddim wedi cymryd llawer o ddiddordeb i ddweud y gwir.  Ond pan welais i un ar y stryd yn yml iawn i'r reilffordd, r'oedd o'n hardd iawn, a digon syml.  Dwi ddim yn siwr bof y llun a dynnais ar yr iPhone yn dangos o'n iaww,  Yn sicr, mi fyddai'n mynd yn ôl i gael spec arall yn yr ardal.