Ailddysgu

Sunday 25 March 2012

Cerdded ac adar



Dwi wedi bod yn cerdded dipyn y penwythnos yma. Ar ddydd Llyn Pasg, dwi'n mynd ar daith cerdded - rhywbeth dwi'n gwneud bob blwyddyn, efo ffrindiau. Llynedd, aethon i Sir Dyfnaint i gerdded ar "The Two Moors Way". Eleni, dyn ni'n cerdded ail rhan y daith. Felly mae angen paratoi ac ymarfer. Er fy mod yn cerdded efo'r ci yn aml, dwi ddim yn gwneud mwy na tua tair milltir - ag wrth gwneud y taith cerdded, mi fyddan yn cerdded 10-15 milltir bob diwrnod (dwi'n gobeithio bod ran fwyaf o'r dyddiau yn agosach i ddeg filltir na 15) a hefyd mi fydd yn fryniog - ac yn sicr dwi ddim yn cael llawer o ymarfer cerdded i fynny ac i lawr bryniau yn lleol. Wedi dweud hynny mae'r na lawer o deithiau cerdded sy'n dlws iawn a llawer o bentrefi diddorol.

Ddoe, cerddon o Emberton yn ymyl Olney yn ôl i Newport Pagnell - gyda hoe bach yn y tafarn ar y ffordd - tafarn ardderchog - The White Hart; dro o ryw wyth filltir, a roedd y tywydd yn ardderchog. Ond mae rhaid dweud doedd dim gormod o adar i'w weld. Mewn llefydd mae llawer o gaeau fawr, heb gwrychoedd rhyngddyn nhw, a heb llawer o goed, felly does dim digon o loches a gynefin addas i adar sy'n defnyddio a dibynnu ar gwrychoedd. Ond gwelson bras melyn a chlywson ambell ehedydd yn canu. Dyn ni ddim yn gweld bras melyn o gwmpas fan yma yn aml iawn a dwi ddim wedi gweld un yn yr ardal hon am eisoes. Bore ma, mi es i am dro leol: dro braf sy'n mynd heibio gored yr afon - sydd yn isel iawn. Edrychais i weld os oedd las y ddorlan o gwmpas, ond doedd na ddim un i'w gweld, ond roeddwn i'n falch o gweld ddau gornchwiglen. Dyn ni ddim yn gweld llawer o rhain o gwmpas famma chwaith - a mae nhw'n yn fy atgofio fi o Gymru. Ac ar y ffordd adre, mae defaid Herdwick – sydd yn dod o Ardal Y Llynnoedd. Roedd rhain yn fy nilyn i, yn gobeithio cael bwyd, dwi’n meddwl.

Mae'r adar yn dod i'r gorsedd bwydo yn yr ardd o'r diwedd. A dwi'n trio dysgu'r enwau Cymraeg am yr ardar , felly dyma'r rhestr o'r adar dwi wedi gweld yn ddiweddar: mwyalchen, titw tomos las, ji-binc, titw penddu, turtur dorchog, titw mawr, llinos werdd, llwyd y drych, titw cynffon hir, bronfraith, drudwen, ysguthen, dryw, robin goch ac ambell i dderyn y tô.

Does dim llun o'r adar yn yr ardd gen i, ond dyma un o löyn byw wrth y ffenest yn y gegin.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home