Ailddysgu

Sunday 31 July 2011

Yn yr ardd eto



Yn aml dwi’n teimlo yn gaeth i’r ardd yr adeg yma o’r flwyddyn. Os dwi’n troi fy nghefn arno fo am dipyn bach mae pethau wedi mynd yn wyllt. Mi ges i ddipyn o hoe o ddyfrio am ryw wythnos yn unig, pan gawson i dipyn o law: dim digon i newid y sychder llawer, ond digon i ddim rhaid dyfrio bob ail ddydd, bron, ar wahan i’r coed ffrwythau. Unwaith mae nhw wedi tyfu rhywfaint, ar ôl ryw dair flwyddyn, does dim angen dyfrio rhy amal. I ddweud y gwir, mae’n well gwneud llai amal a gwneud yn ddrylwyr a wedyn mae’r gwreiddiau yn mynd i lawr i chwylio am y dŵr. Ond mewn amser sych sych fel hyn, mae angen rhywfaint o ddyfrio ar y coed hefyd.


Ond pan dach chi’n gofyn pam dach chi’n treulio gymaint o amser yn yr ardd, mae rhywbeth yn blodeuo, neu yn ffrwytho a mae o’n deimlo’n werth o. Treuliais bore ddoe yn gwneud saws tomato hefo’r tomatos a hefyd yn gwneud siytni hefo’r afalau. Dyma’r tomatos yn y basged a wedyn yn barod i fynd i’r popty hefo dipyn o foron (o’r ardd), nionod, garlleg, perlysiau, seleri ac olew. Cawsom rhan o’r saws neithiwr a mae’r gweddill yn y rhewgell. Blasus!

Monday 25 July 2011

Trip i Gaernarfon rhan 2. Siopau Llyfrau lleol, a Gŵyl Caernarfon


Roedd y trip I Gaernarfon yn gyfle i fynd i ddwy siop lyfrau dwi’n hoffi. Dwi wedi sôn amdano nhw yn barod, mewn flogiau eraill. Yn ydy siop lyfrau Lewis, yn Llandudno. Mae hon yn llawn o lyfrau Cymraeg a Saesneg yn cynnwys llawer o lyfrau Cymraeg ail-law. Cyfle, felly, i rhoi cynnig ar lyfrau swn i ddim, efallai, yn prynu’n newydd ac i gael lwyth o lyfrau am bris resymol: peth pwysig os dwi am barhau i gael o leia un lyfr Gymraeg ar y gweill. Fel gwelwch chi o’r llun, mi brynais amrywiaeth o lyfrau ail-law yn Llandudno.


A hefyd mi bynais un neu ddau lyfrau newydd, o Balas Prints, yn yr ail siop lyfrau, yng Nghaernarfon. Mae’r siop hon yn wahannol iawn - mwy drefnus, ac yn cynnwys llecyn back y gael paned. A dwi’n meddwl mae perchennog y siop, sy’n gyfrifol, hefo cefnogaeth grwp neu bwyllgor bach, am y Gŵyl Arall.


Dwi wir yn gwerthfawrogi siopau lleol fel y rhain. Ar wahân i werthu llyfrau - a mae gwasanaeth post Palas Prints yn gystal a - neu gwell na Amazon, mae siopau lleol fel rhain yn gyfranniad pwysig i’r cymuned. Dwi ddim wedi llwyddo mynd i ddigwyddiadau ym Mhalas Prints (dwi rhy bell i ffwrdd), ond dros y bewythnos, es i wrando ar ar Siân Northey a Gwen Parrott yn siarad am ey lyfrau yn ystod y Gŵyl Arall. Dwi wedi mwynhau llyfrau Gwen Parrott – ond dim wedi darllen llyfr Siân Northey eto. Roedd y ddwy yn siarad am bwysicrwydd y ty lle roedd yr hanes yn cymryd lle a hefyd yn son am eu ddulliau gwahannol iawn o sgwennu. Digwyddiad arall hynod o dda oedd gwrando ar Gillian Clarke a Carol Anne Duffy yn darllen ei farddoniaeth.

Tuesday 19 July 2011

Trip i Gaernarfon rhan 1. Gŵyl Caernarfon, taith natur a'r Foryd



Aethon ni i Gaernarfon dros y penwythnos; i ymweld a bedd fy rhieni, ond hefyd i fynd i rai ddigwyddiadau a oedd yn cymryd lle fel rhan o'r Gŵyl Arall. Un o'r uchafbwyntiau i fi r'oedd y taith cerdded natur, o gwmpas y dre a dipyn o'r Foryd gyda dau tywysydd ardderchog. Gwelson sut r’oedd y calchfaen sydd yn rhan o’r muriau hen y dre yn cynnwys ffosilaidd - a hefyd sut oedd y tywodfaen wedi cael eu ddefnyddio i roi haen arall hefo lliw gwahannol, ac amrywiaeth helaeth o blanhigion yn tyfu ger y castell a ger y traeth dros yr Aber. Edrychon hefyd ar yr adar: doeddwn i ddim yn disgwyl gweld pibydd y graig (neu corhedydd y graig - rock pippit) yn y dre ei hyn wrth y waliau anferth. Ond yn ddiweddar dwi'n meddwl y medra i adnabod yr aderyn hwn sy'n debyg i bibydd y waun (neu corhedydd y waun - meadow pippit) ond yn cael ei ddarganfod mewn cynhefin gwahannol. Ond y peth gorau oedd y sgwrsio am y flodau a 'r adar a'r gwybodaeth helaeth sydd gan y tywysydd am bywyd gwyllt yn yr ardal. Gwelson creÿr fach gwyn, digon o wylanod penwaig a penddu. Credwch neu beidio ond mae niferau y gwylan penwaig yn gostyn dros y wlad - ond mae na ddigon yng Nghaernarfon, beth bynnag ( a gwelir y llun!).

Roedden ni yn aros mewn gwely a brecwast ger y Foryd, yn Llanfaglan. Mae'r llecyn hwn wastad wedi bod yn lle dda i weld adar: dwi'n cofio mynd am dro yn amal ar fore Sul pan oeddwn yn blentyn, dros yr aber ac ar hyd y Foryd i weld yr adar. Un aderyn hardd iawn sydd i’w gweld yma ydy’r cwtiad y traeth - y turnstone. Tro diwethaf roeddwn i yma roedd ym mis Hedref neu Tachwedd pan mae llawer o rydiwr (waders) a hefyd gŵydd o gwmpas, a gwelais haid o gylfinir (wn i ddim be ydi’r lluosog!) a hefyd, dwi'n meddwl, coegyflinir - whimbrel. Mae gan y rhain big dipyn llai a streip trwy eu lygaid ond mae nhw’n debyg iawn i’r gylfinir. Tro yma, gyda'r haf, doedd ddim gymaint o gylfinir - ond wedi dweud hynny, gwelson sawl gylfinnir - efallai naw neu ddeg. Fel y gwylan penwaig, mae eu niefrau yn gostwn droa y wlad, felly mae'n dda gweld eu bod nhw'n dal eu tir yn y Foryd.

Tuesday 5 July 2011

Ymladd y malwod


Cyn mynd ar ein gwyliau, cliriais y gwely ffa (a oedd wedi methu, yn y bôn), wrth adael y ffa (Ffrengig) a oedd wedi llwyddo - a rhois ffa newydd a oedd wedi cael eu dyfu yn y tŷ gwydr i mewn. A wyddoch chi be? Ia, mi ddois yn ôl, a r’oedd y rhan mwyaf wedi mynd - dim wedi mynd yn llwyr; jyst gadael coes bach lle mae’r gweddill o’r blanigion wedi cael ei frathu i ffwrdd. Gwlithenod? Neu malwod, mwy debyg, sy’n byw yn y wal bric. Mae’r hyfryd cael wal rown yr ardd i gyd. Mae’r rhoi cysgod i’r planhigion, a ia, hefyd i’r malwod.

R’on i bron am roi’r ffidil yn y tô, ond penderfynnais cael un cynnig eto. Felly mae mwy o hadau wedi mynd i fewn a fel gwelwch yn y llun, mae ’na hefyd digon o’r pilsen bach glâs yn erbyn y malwod.